Ein Tîm

Tîm o unigolion ymroddedig, gweithgar a brwdfrydig o ddisgyblaethau amrywiol, o roi cyngor am yrfaoedd a hyfforddiant i reoli a marchnata digwyddiadau, o ymgynghorwyr Adnoddau Dynol i arbenigwyr polisi ac ymchwil sydd am gydweithio fel ‘un Chwarae Teg’ i greu Cymru decach lle mae menywod yn cyflawni a ffynnu.

Alexia Mei
Operations Analyst

Alexia Mei

Operations Analyst

Mae Alexia yn cynhyrchu gwahanol fathau o ddadansoddiadau i’w cynnwys yn adroddiadau’r Bwrdd ac i gynorthwyo timau gyda gweithrediadau o ddydd i ddydd yn ogystal â chynlluniau tymor hwy (e.e. modelu meithrin gallu). Mae gan Alexia MSc mewn Ystadegau felly mae hi'n dda gyda data ac yn cymryd rhan yn y gwaith o lunio a dadansoddi ffurflenni casglu data ac arolygon cleientiaid ac mae hi'n defnyddio Power BI i ddadansoddi'r ymatebion. Mae gan Alexia brofiad hir o weithio ym maes marchnata felly mae hi hefyd yn creu postiadau electronig gan ddefnyddio ClickDimensions ac yn ychwanegu cynnwys at wefan Chwarae Teg.

Alice Eades
Partner Marchnata – Dyluniad a Brand

Alice Eades

Partner Marchnata – Dyluniad a Brand

Mae Alice yn trosi gwaith Chwarae Teg yn ddull cyfathrebu gweledol, o GIFiau lliwgar, hwylus ar y cyfryngau cymdeithasol i gynrychioli dangosyddion allweddol mewn adroddiadau ymchwil diddorol.

Mae'n dylunio ar gyfer deunyddiau print a digidol, gan weithio â phob tîm ar draws y sefydliad.

Gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Darlunio a bob amser yn datblygu ei gwybodaeth am gyfathrebu gweledol, dylunio a rhaglenni, mae Alice o hyd yn edrych at y ‘peth nesaf’ ar gyfer ein gwaith brandio a dylunio.

Alison Dacey
Ymgynghorydd Cyflogwr AD

Alison Dacey

Ymgynghorydd Cyflogwr AD

Mae Alison yn weithiwr adnoddau dynol proffesiynol ac yn Gymrawd Siartredig o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) ac mae ganddi agwedd bragmataidd, rhagweithiol ac ymarferol ynghyd ag athroniaeth gallu gwneud. Mae ganddi brofiad sylweddol o weithio'n llwyddiannus gydag amrywiaeth o sefydliadau a phersonoliaethau, i gyflenwi gwerth a chyflawni nodau heriol.

Mae'n gyfathrebwr rhagorol, a chanddi wybodaeth helaeth am gyfraith cyflogaeth a chydraddoldeb ac amrywiaeth, ac fel Partner Cyflogwyr sy'n darparu ein Gwasanaethau Cyflogwyr Chwarae Teg, nid yw ofn herio'n adeiladol ac yn greadigol i helpu i lunio a datblygu sefydliad a chofleidio arfer gorau.

Amanda McNamara
Senior Delivery Partner (Business Programme)

Amanda McNamara

Senior Delivery Partner (Business Programme)

Mae Amanda yn gweithio o fewn y Tîm Busnes, gan gyflenwi rhaglenni pwrpasol ar gyfer mentrau bach a chanolig yng Nghymru. Trwy ei chyngor, hyfforddiant a dull hyfforddi, mae'n cefnogi arweinwyr busnes i adolygu eu polisïau a'u gweithdrefnau a sicrhau bod newid diwylliannol, cadarnhaol yn digwydd.

Mae Amanda yn weithiwr rheoli, adnoddau dynol strategol, hyfforddiant a chydraddoldeb proffesiynol sy’n huawdl ac yn hawdd mynd ati, sydd wedi gweithio'n helaeth gyda chleientiaid o fewn y sectorau preifat a chyhoeddus ledled y DU. Mae ganddi fwy nag ugain mlynedd o brofiad o gefnogi arweinwyr a rheolwyr i wella'r busnes ac effeithiolrwydd personol, gan ymgysylltu’n llawn â’u gweithlu, i gyflawni eu nodau strategol.

Mae ganddi wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o ddatblygu sefydliadol trwy arwain a rheoli pobl yn effeithiol. Bu'n gweithio am 20 mlynedd fel Asesydd a Chynghorydd ar gyfer y Wobr Buddsoddwyr mewn Pobl.

Amber Patterson
Partner Ymgusylltu

Amber Patterson

Partner Ymgusylltu

Amber works alongside the Engagement Team to engage with businesses across Wales for the Agile Nation2 programmes. Amber has several years’ experience in the third sector. Her passion for human rights and creating space for marginalised people have led her to working with survivors of domestic abuse, sex workers and young people with disabilities. Prior to this, she graduated from the University of Bristol with a Distinction in MSc Gender and International Relations, where her academic research focused on intersectional approaches to gender equality and Welsh refugee policy. If you would like to have a chat with Amber about how Chwarae Teg can support your business, please feel welcome to get in touch!

Ameena Ahmed
Partner Cyflogwr

Ameena Ahmed

Partner Cyflogwr

Ameena’s background is in senior executive roles including as a CEO of SME not for profits. She has worked across private, public, and charitable sectors and has led on various programmes at National, Regional, and Local levels. Most recently she worked in roles such as Executive Coaching and Business mentoring for Women Businesses. At the heart of all her achievements is her passion to create environments that enable people to develop to their greatest potential, and to lead organisations that combine purpose and profit to make a difference and improve the lives of people in society.

Andrea Garrett
Partner Datblygu Dysgu

Andrea Garrett

Partner Datblygu Dysgu

Bues i’n gweithio am 25 mlynedd i’r diwydiant bancio a chyllid, gan gamu ymlaen i fod yn Arweinydd Tîm, Rheolwr Rheng Flaen, Pennaeth Adran a Rheolwr Prosiect. Cefais radd ôl-raddedig mewn Busnes wrth weithio yn y diwydiant.

Bues i’n gweithio i Chwarae Teg ar brosiect Cenedl Hyblyg tan 2014, a dychwelais i weithio i’r tîm ILM ar gyfer Cenedl Hyblyg2 yn 2017. Dechreuais ar rôl Partner Datblygu Dysgu yn ddiweddar, yn cyflwyno ein modiwlau dysgu ILM achrededig ac anachrededig.

Andrew Muldoon
Uwch Bartner TGCh a Cyfleuster

Andrew Muldoon

Uwch Bartner TGCh a Cyfleuster

Mae Andrew yn Weithiwr TGCh Proffesiynol ac mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad yn darparu atebion TG a chefnogi sefydliadau, gan eu helpu ar eu teithiau technolegol.

Mae ei gred y dylai cyfrifiaduron fod yn hygyrch ac yn hawdd eu deall, gan ein gwneud yn fwy effeithlon a pheidio â gwneud bywyd yn fwy cymhleth, yn sail ar gyfer datblygu strategaethau TG parhaus o fewn Chwarae Teg, gan arwain at atebion sy'n galluogi cynhyrchiant a chydweithredu yn ein hamgylchedd gweithio ystwyth.

Technoleg sy’n gyrru Andrew ac mae’n canolbwyntio ar brofiad defnyddwyr.

Anna Foulkes
Partner Gweinyddu Prosiect (Credu a Chyflawni)

Anna Foulkes

Partner Gweinyddu Prosiect (Credu a Chyflawni)

Ymunais â Chwarae Teg ym mis Hydref 2021 fel partner gweinyddwr prosiect ar gyfer prosiect cyffrous newydd – Credu a Chyflawni. Mae'r prosiect hwn wedi'i anelu at grŵp penodol o fenywod sydd yn ymddangos y pellaf i ffwrdd o'r farchnad swyddi. Rydym am iddynt fod yn rhan o'r cynllun i geisio eu paratoi i gymryd y cam cadarnhaol nesaf tuag at gyflogaeth yn y pen draw. Cyn cymryd rhywfaint o amser i ffwrdd o'r gwaith i edrych ar ôl fy nheulu, gweithiais ym maes recriwtio, ar gyfer cwmni mawr ac asiantaeth annibynnol bach, a chyn hynny treuliais 14 mlynedd yn gweithio mewn rolau amrywiol o fewn banc ar y stryd fawr.

Athina Summerbell
Partner Ymgysylltu

Athina Summerbell

Partner Ymgysylltu

Mae Athina yn rhan o'r Tîm Ymgysylltu. Fel Partner Ymgysylltu, rôl Athina yw ymgysylltu â menywod a busnesau ledled Cymru ar gyfer rhaglenni Cenedl Hyblyg 2. Mae Athina hefyd yn cymryd rhan gyda thîm Cynaliadwyedd Chwarae Teg ac mae'n angerddol dros y ffaith bod Chwarae Teg yn gweithredu mewn ffordd sy'n buddio pobl a'r blaned. Mae gan Athina sawl blwyddyn o brofiad yn gweithio ar brosiectau cymunedol o fewn y sector preifat a'r trydydd sector yn ogystal â rheoli gwasanaethau cwsmeriaid.

Belen Ortiz
Partner Cydlynu (Caerdydd) a Cynorthwyydd Personol i'r Prif Weithredwr

Belen Ortiz

Partner Cydlynu (Caerdydd) a Cynorthwyydd Personol i'r Prif Weithredwr

Ymunodd Belen â Chwarae Teg yn 2015 a Belen yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ein Prif Weithredwr a’r Uwch Dîm Rheoli. Mae Belen yn drefnus ac effeithlon dros ben, gan ymdrin â gohebiaeth, rheoli dyddiaduron a threfnu diwrnodau staff a’r holl weithgareddau datblygu tîm.

Bethan Airey
Rhelowr Cyfathrebu

Bethan Airey

Rhelowr Cyfathrebu

Treuliodd Bethan bron i 20 mlynedd yn gweithio mewn rolau cyfathrebu yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Yna penderfynodd adleoli i’r Gogledd, a hithau wedi ei magu yn yr ardal, ac roedd wrth ei bodd yn ymuno â thîm Chwarae Teg yn 2019.

Mae ei phrofiad yn cwmpasu cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a rheoli digwyddiadau, yn benodol gyda chynghorau yn lleol ac yn rhanbarthol. Mae Bethan yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn mwynhau paratoi a darparu negeseuon a gwybodaeth Chwarae Teg yn Gymraeg a Saesneg.

Beth Baldwin
Partner Datblygu Dysgu

Beth Baldwin

Partner Datblygu Dysgu

Rwyf wrth fy modd wrth weithio gyda menywod a'u grymuso i gymryd perchenogaeth o'u gyrfaoedd. Ers dros 20 mlynedd, rwyf wedi gweithio ar draws pob sector mewn swyddi gwerthiannau a hyfforddiant, ac rwyf wedi hyfforddi a mentora cannoedd o fenywod. Rwy'n angerddol dros degwch ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Fy nghenhadaeth erioed yw cefnogi menywod i ddod o hyd i'w pwrpas a theimlo'n fodlon gyda'r penderfyniadau a wnânt. Dywedir wrthyf fy mod yn hyfforddwr cynhwysol a dylanwadol sy'n un dda am ddysgu a herio ffyrdd o feddwl a phersbectifau. Mae gennyf wobr Pride of Britain am godi arian i elusennau ac am ymroi i wneud fy mywyd yn un gwerthfawr gan annog ein cyfranogwyr i wneud yr un peth.

Bob Hicks
Partner Cyflogwyr

Bob Hicks

Partner Cyflogwyr

Mae Bob yn weithiwr adnoddau dynol proffesiynol profiadol a chymwys sydd â hanes profedig o gyflawni wrth alinio polisïau, arferion a phrosesau adnoddau dynol ag amcanion busnes yn y DU ac UDA. Mae wedi cynnal ei fusnes ei hun gyda 30 aelod o staff, ac fel Ymarferydd IIP, ac mae wedi gweithio gyda mwy na 200 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru gan addasu i nifer o arddulliau rheoli amrywiol. Mae Bob yn mwynhau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i berfformiad sefydliadau, ac fel Partner Cyflogwyr, mae wedi gwella effeithiolrwydd ym maes rheoli pobl trwy welliannau mewn amrywiaeth ar sail rhyw, recriwtio, cyfathrebu, gweithio hyblyg, dysgu a datblygu, rheoli perfformiad, a chyfraith cyflogaeth.

Cara Lloyd
Partner Datblygu Gyrfa

Cara Lloyd

Partner Datblygu Gyrfa

Cwblheais y Rhaglen Cenedl Hyblyg tua 9 mlynedd yn ôl a gwnaeth proffesiynoldeb ac angerdd y sefydliad dros degwch a chydraddoldeb greu argraff arnaf. Mae gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd Chwarae Teg yn cyd-fynd yn berffaith â’m rhai i.

Rwy'n Rheolwr profiadol gydag 19 mlynedd o brofiad mewn Datblygu Gyrfa a Rheoli Prosiectau. Partner Datblygu Gyrfa yw fy rôl i yma yn Chwarae Teg o fewn Tîm y Menywod. Rwy'n meddu ar gymwysterau proffesiynol mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Rheoli Prosiectau a Newid a Chyngor ac Arweiniad.

Rwy'n teimlo'n hynod o freintiedig ac yn ffodus o allu cyflawni'r rôl hon, gan gwrdd â chymaint o fenywod cadarn ac angerddol tu hwnt sy'n fy ysbrydoli i gyflawni i’r eithaf bob dydd. Rwy’n cael fy ngwobrwyo drwy gefnogi menywod i feithrin y sgiliau a’r hyder i gyrraedd eu potensial ac i ddod yn Arweinwyr Cadarn yn y gweithle.

Carys Strong
Partner Cyflogwyr

Carys Strong

Partner Cyflogwyr

Mae Carys yn arbenigo mewn cyflogadwyedd ac adnoddau dynol. Bu'n gyfreithwraig cyflogadwyedd yn rhoi cyngor i unigolion a busnesau ynglŷn â holl agweddau ar gyfraith cyflogadwyedd a materion adnoddau dynol gan gynnwys diswyddo annheg, dileu swyddi ac ailstrwythuro, contractau ar lefel uwch a chydraddoldeb a gwahaniaethu. Mae sgiliau a phrofiad Carys yn cynnwys cymryd rhan mewn achosion tribiwnlys ac achosion sifil y llys, a pharatoi a chreu dogfennau cyfreithiol. Mae Carys yn adnabyddus am ei ffordd gyfeillgar a'i chyngor pragmatig er mwyn cyflawni’r canlyniad gorau posibl i'w chleientiaid.

Mae Carys yn teimlo'n angerddol ynglŷn â chydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithlu ac mae hi'n anelu at wella arferion gwaith ledled Cymru yn ei rôl fel Partner Cleient.

Cheryl Royall
Partner Datblygu Gyrfa

Cheryl Royall

Partner Datblygu Gyrfa

Fel Partner Datblygu Gyrfa ar Raglen Cenedl Hyblyg 2, mae'n bleser gen i gwrdd â nifer o fenywod rhyfeddol yng Nghymru ar gyfer eu cyfarfod cychwynnol. Rwy'n darparu hyfforddiant a chefnogaeth trwy gydol eu hamser gyda ni tra'u bod yn cwblhau'r rhaglen, ac rwy'n helpu i ddathlu eu llwyddiannau a gweld y newidiadau anhygoel y maen nhw'n eu cyflawni drostynt eu hunain.

Rwy’n gweld, drosof fy hun, sut mae’r rhaglen yn helpu menywod i wella eu sgiliau a’u hyder, sy’n eu galluogi i ddatblygu eu gyrfaoedd. Dyma’r swydd fwyaf gwerth chweil i mi ei chyflawni erioed, gan fy mod yn gwybod bod yr hyn rwy'n ei wneud yn cyfrannu rywfaint at wneud gwahaniaeth i'n cyfranogwyr.

Claire Bentley
Partner Marchnata

Claire Bentley

Partner Marchnata

Claire is a commercially aware chartered Marketer and Manager with a demonstrable history working across all aspects of Marketing. A background within the voluntary and private sectors has provided her with a wealth of experience executing successful fundraising activities, corporate partnerships, and supporter engagement. Being people-focused has helped her to develop and deliver effective multi-platform marketing campaigns which resonate with their intended audience. Claire is passionate about continuous personal development and advocating for better opportunities for women in Wales.

Claire John
Partner Cydgysylltu ILM

Claire John

Partner Cydgysylltu ILM

Ymunais â Chwarae Teg yn 2013 ar gyfer Cenedl Hyblyg, ac roeddwn yn ddigon ffodus i aros a chael bod yn rhan o Genedl Hyblyg 2. Rwyf bob amser wedi gweithio o fewn y tîm Hyfforddiant a Chymwysterau. Rwy’n atebol am gydlynu a gweinyddu canolfan achredu’r sefydliad yn llawn, lle rwy'n bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer City & Guilds (Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM)), rwyf hefyd yn rheoli ac yn cynnal prosesau a gweithdrefnau mewnol amrywiol canolfan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).

Rwy’n falch o fod yn rhan o sefydliad sydd yn rhoi cymaint o foddhad, mae clywed gan y menywod sy’n ennill eu cymwysterau yn bleser a chael gwybod ein bod wedi eu helpu i gyflawni hyn.

Clare Harries
Partner QPI

Clare Harries

Partner QPI

Treuliodd Clare 14 o flynyddoedd yn Archwilydd gyda’r GIG a 2 flynedd yn Rheolwr Practis mewn meddygfa Meddyg Teulu, cyn newid ei gyrfa i fod yn Weithiwr Cymorth i Deuluoedd i Elusen Canser Plant, gan gynorthwyo teuluoedd a gwireddu breuddwydion y Plant. Ymunodd Clare â Chwarae Teg naw mlynedd yn ôl fel Gweinyddydd ar y Rhaglen Cenedl Hyblyg 1. Cafodd ei phenod i’w swydd bresennol yn y Tîm QPI, ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod Rhaglen Cenedl Hyblyg 2 yn cael ei monitro a’i gwerthuso’n llwyddiannus a’i gwella’n barhaus.

Davy Cheema
Hyfforddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Davy Cheema

Hyfforddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Davy has 10 years of experience as a skilled and confident trainer, designing and facilitating a variety of EDI programmes, as well as delivering and assessing ILM qualifications. With a background in Psychology, fashion and various youth education charities, Davy is passionate about empowering others to achieve their full potential.

Diane Howard
Business Development Manager

Diane Howard

Business Development Manager

Mae Diane yn rhan o dîm Cyflogwyr Chwarae Teg, sef cangen fasnachol Chwarae Teg. Prif gyfrifoldeb Diane yw rheoli cyfrifon a datblygu tanysgrifwyr Cyflogwyr Chwarae Teg presennol a chyflwyno cleientiaid newydd i’n portffolio o gynhyrchion, gan gynnwys ein Gwasanaeth Tanysgrifio Meincnodi a Gwobrwyo Cyflogwyr Chwarae Teg, ein Rhaglen Arweinyddiaeth Gynhwysol, a’n dewislen Atebion Ymgynghoriaeth Pwrpasol. Mae Diane wedi cael y dasg o adeiladu’r brand Cyflogwr Chwarae Teg nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU, ac ar ôl gweithio yn y tîm Cenedl Hyblyg ers dros dair blynedd, mae ganddi gyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’w rhannu â sefydliadau i’w helpu i ddatblygu arferion gwaith cynhwysol a chreu diwylliant lle mae pob gweithiwr yn teimlo ei fod yn perthyn yn y gweithle. Mae gan Diane ddegawdau o brofiad ar ôl gweithio yn y sector masnachol i lawer o frandiau proffil uchel yn flaenorol, ac mae hi wir yn deall pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol a chlir. Mae agwedd halen y ddaear Diane a’i dull gweithredu hwyliog yn annog cwsmeriaid i gael sgyrsiau agored a gonest sy’n arwain at ddealltwriaeth wirioneddol o’u hanghenion a’r atebion sydd eu hangen.

Donna Corry
Uwch-Bartner Cyllid

Donna Corry

Uwch-Bartner Cyllid

Yn ddiweddar, ymunais â chwmni Chwarae Teg fel yr Uwch-bartner Cyllid. Rwyf wedi gweithio ym maes cyllid ers ugain mlynedd ac yn awyddus i ddefnyddio fy sgiliau i gynorthwyo'r Arweinydd Cyllid i reoli'r gweithrediad mewnol yn effeithiol, wrth gefnogi'r elusen gyda'i chenhadaeth.

Eleanor Leyshon
Partner Ymgysylltu

Eleanor Leyshon

Partner Ymgysylltu

Ellie works as a Client Relationship Manager for FairPlay Employer. She is driven by the sense of achievement gained when we help someone to reach their full career potential through our leadership programmes, or when we support organisations to implement practices that not only improve their bottom line but contribute to our vision of eradicating gender inequality in the workplace. Ellie has a proven track record in sales and client account management, across various industries including sport and art sponsorship and fundraising, working both with global brands and local organisations. Within Chwarae Teg Ellie is part of the committee that delivers the annual Womenspire Awards and has recently completed a Level 4 Diploma from the Institute of Leadership and Management.

Elinor Rees
Partner Cyfathrebu

Elinor Rees

Partner Cyfathrebu

Fel Partner Cyfathrebu, mae Elinor yn cefnogi'r tîm Cyfathrebu drwy ysgrifennu datganiadau i'r wasg a chysylltu efo'r cyfryngau. Mae hi wedi gweithio fel Rheolwr Marchnata ac ysgrifennu yn llawrydd am bynciau fel materion LHDTC+. Mae hi'n siaradwr Cymraeg rhugl ac yn cymryd pob cyfle i ddefnyddio'r iaith.

Emily Loosmore
Inerniaeth Cynorthwyydd Cdyweithreu (Kickstart)

Emily Loosmore

Inerniaeth Cynorthwyydd Cdyweithreu (Kickstart)

Fel Cynorthwyydd Cydweithredu, rwy'n gweithio'n agos gydag Emma Tamplin a busnesau ledled Cymru i sicrhau bod menywod yn cyflawni ac yn ffynnu drwy gyflawni digwyddiadau a rhaglenni yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys ein rhwydwaith Hive, sy'n hyrwyddo buddion arferion gwaith modern a'n hymgyrch Not Just For Boys. Mae'r ymgyrch hwn yn taro goleuni ar yrfaoedd gwerthfawr mewn diwydiannau STEM ar gyfer merched a menywod. Rydym hefyd yn gweithio ar y prosiect 'Placiau Porffor' sy'n dathlu cyflawniadau menywod yng Nghymru, a'r rhaglen Step to Non Exec sy'n annog menywod i gamu i rolau cyfarwyddwyr anweithredol.

Emma Richards
Arweinydd Cenedl Hyblyg 2

Emma Richards

Arweinydd Cenedl Hyblyg 2

Mae Emma yn arwain y gwaith o gyflawni ein prosiect Cenedl Hyblyg 2 ar gyfer menywod a busnesau ledled Cymru ac mae'n gyfrifol am arwain datblygiad, darpariaeth weithredol a gwelliant parhaus yr holl weithgareddau sydd o fewn y ddwy raglen.

Ers ymuno â Chwarae Teg yn 2005, mae Emma wedi gweithio ar fentrau amrywiol i gefnogi menywod ym myd gwaith, menter ac addysg. Bu’n gyfrifol am reoli gwaith cynllunio a datblygu gwasanaethau’r prosiect, gan gynnwys canolfan Chwarae Teg wedi’i chymeradwyo gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, gwaith ymgynghorol i gyflogwyr a Rhaglen Fusnes gyntaf Chwarae Teg. Aeth ati i gynllunio a rheoli elfen addysg Cenedl Hyblyg hefyd, gan gynnwys cyflwyno’r Rhaglen Sylfeini Teg a fu’n gweithio gydag ysgolion i greu amgylcheddau dysgu ymwybodol o’r rhywiau a mynd i’r afael â stereoteipio ar sail rhyw yn addysg y blynyddoedd cynnar.

Mae Emma yn aelod o'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) ac mae'n Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Gyrfa Cymru.

Emma Tamplin
Rheolwr Cydweithredu

Emma Tamplin

Rheolwr Cydweithredu

Fel Partner Cydweithredu, mae Emma yn gweithio’n agos gyda busnesau ledled Cymru i sicrhau bod menywod yn llwyddiannus ar draws yr holl sectorau a'r lefelau yn yr economi drwy ein rhwydwaith Hive, gan hyrwyddo buddiannau arferion gwaith modern a'n hymgyrch 'Nid dim ond ar gyfer Bechgyn’, gan fynychu ffeiriau gyrfaoedd anrhaddodiadol ar gyfer merched a menywod, gan arddangos y gyrfaoedd blaengar sy'n rhoi boddhad gyda diwydiannau STEM.

Mae Emma yn teimlo'n angerddol am wella pa mor weledol mae menywod a sut maent yn cael eu cynrychioli yn ein heconomi a'n cymdeithas ac yn arwain ar brosiect Placiau Porffor a grëwyd i ddathlu cyflawniadau menywod rhagorol a sicrhau bod eu hanes yn cael ei osod yn gadarn yn llyfrau hanes Cymru. Mae hi hefyd yn rheoli ein rhaglen 'Step to Non Exec' a grëwyd i annog mwy o fenywod ifanc i gymryd y cam cyntaf i mewn i fywyd cyhoeddus a'n rhaglen LeadHership, gan ddarparu cyfleoedd cysgodi i fenywod ledled y sector Cyhoeddus a'r sector Preifat.

Hade Turkmen
Partner Ymchwil

Hade Turkmen

Partner Ymchwil

Ar ôl ennill cymhwyster Doethuriaeth o Brifysgol Caerdydd yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, ymunodd Hade â Chwarae Teg fel partner ymchwil. Partner Ymchwil yw Hade, ac mae’n cyflwyno a rheoli gwaith ymchwil i gydraddoldeb rhywiol ac amrywiaeth, ac i wella cyfranogiad menywod yn economi Cymru a bywyd cyhoeddus gan ganolbwyntio ar bolisïau. Mae’n chwilio am gyfleoedd newydd hefyd i ymchwilio i’r prif faterion y mae menywod yng Nghymru yn eu hwynebu heddiw.

Roedd ychydig o'r ymchwil a wnaeth yn Chwarae Teg yn cynnwys y canlynol: Disglair: dyheadau gyrfa menywod ifainc; Nenfwd Gwydr Triphlyg: Rhwystrau i Fenywod Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) rhag cymryd rhan yn yr economi;“Cymdeithas yw'r anabledd”: Menywod anabl a gwaith; “Jyglo cyson o ddydd i ddydd”: Gofal plant ac addysgu plant gartref yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf. Mae Hade hefyd yn arwain y gwaith o gasglu data a dadansoddi adroddiad blynyddol arloesol Chwarae Teg, sef Cyflwr y Genedl.

Hannah Griffiths
Cydlynydd Grŵp Cyllideb Merched Cymru ac Cynorthwy-ydd Polisi

Hannah Griffiths

Cydlynydd Grŵp Cyllideb Merched Cymru ac Cynorthwy-ydd Polisi

Hannah supports the work of the Wales Women’s Budget Group (WWBG), currently incubated by Chwarae Teg, which works to promote gender equality in the Welsh Budgetary process. In this role, she co-ordinates WWBG communications and events, as well as its engagement with the Welsh Government and three sister organizations across the UK. Hannah also supports the policy and research outputs of the WWBG by producing briefings, reports and a WWBG response to the Welsh Budget. Hannah has a keen interest in UK politics and is passionate about tackling structural and gender inequality. Alongside her work at Chwarae Teg, she is currently completing a PhD in linguistic justice at Cardiff University.

Harriet-Jane Line
Bartner Cyllid

Harriet-Jane Line

Bartner Cyllid

Yn ddiweddar, ymunais â Chwarae Teg fel Partner Cyllid ar ôl syrthio mewn cariad â gwerthoedd y cwmni a’r camau gweithredu/prosiectau y mae’n ymgymryd â nhw i wneud gwahaniaeth ym mywydau gwaith pobl. Rwy'n gweithio'n raddol tuag at fy nghymwysterau Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), gan fod astudiaethau ariannol a chyfrifeg wedi bod yn rhywbeth rwyf wedi bod yn angerddol drosto erioed. Edrychaf ymlaen at roi’r sgiliau hyn ar waith i helpu i gynorthwyo'r tîm Cyllid i weithio mor llyfn â phosibl.

Hayley Dunne
Cyfarwyddwr – Cyflenwi

Hayley Dunne

Cyfarwyddwr – Cyflenwi

Mae Hayley yn goruchwylio'r gwaith o gynhyrchu incwm trwy godi arian a grantiau, archwilio cyfleoedd sydd â'r nod o newid ymddygiadau unigol a sefydliadol sy'n ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth a'n cenhadaeth. Yn ogystal, mae Hayley yn goruchwylio'r broses o weithredu’r prosiectau y mae Chwarae Teg yn eu cyflwyno yn llwyddiannus. Mae hi'n gwneud hyn trwy arwain a chefnogi staff sy'n rheoli'r gweithgareddau hynny ac yn sicrhau eu bod yn gadarn gyda phrosesau rheoli modern ar waith. Mae cefndir a phrofiad Hayley yn y sector gwirfoddol, arferion gwaith cynhwysol a llesiant.

Mae Hayley yn brofiadol ym maes Cyllid Ewropeaidd ac ysgrifennodd y cynlluniau busnes ar gyfer prosiectau Cenedl Hyblyg a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Cyrhaeddodd y prosiect cyfredol y rownd derfynol ar gyfer y Gwobrau Region Stars yn 2017.

Helen Antoniazzi
Cyfarwyddwr polisi a chyfarthrebu

Helen Antoniazzi

Cyfarwyddwr polisi a chyfarthrebu

Ymunodd Helen â Chwarae Teg yn 2017. Fel cyfathrebwr profiadol a strategol, mae’n arwain timau marchnata a chyfathrebu, polisi ac ymchwil, datblygu busnes a thrawsgenedlaethol Chwarae Teg. Cyn ymuno â ni, bu’n gweithio ym myd gwleidyddol fel Pennaeth Newyddion ac Ymchwilydd i Plaid Cymru, ac yn Bennaeth Staff ar ran Leanne Wood AC. Gydol ei gyrfa, mae Helen wedi meithrin cysylltiadau trawsbleidiol da a pherthnasau cadarn gyda’r cyfryngau a rhanddeiliaid.

Helena Cannon
Partner Datblygu Gyrfa

Helena Cannon

Partner Datblygu Gyrfa

Rwy'n Hyfforddwr Gyrfa cymwys gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn cefnogi unigolion i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gyrfaoedd a'u helpu i wneud newidiadau cadarnhaol ar gyfer y dyfodol. Ymunais â Chwarae Teg yn 2018, ar ôl treulio 15 mlynedd fel Ymgynghorydd Gyrfaoedd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Yn fy rôl fel Partner Datblygu Gyrfa, rwy'n cydweithio â chydweithwyr ar draws Chwarae Teg i ddarparu a chefnogi menywod yn effeithiol o fewn ein rhaglenni a ariennir a'n rhaglenni masnachol. Rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â helpu menywod i ffynnu yn eu gyrfaoedd, i ddatblygu eu hyder a'u hunanymwybyddiaeth a chyflawni’r cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith y maent yn ei haeddu.

Janet Halliwell
Partner Datblygu Gyrfa

Janet Halliwell

Partner Datblygu Gyrfa

Mae gennyf dros 20 mlynedd o brofiad mewn hyfforddi a rheoli pobl, gyda chymwysterau mewn hyfforddi, arfer rhaglennu niwroieithyddol, rheoli newid, ymwybyddiaeth ofalgar a nifer o bynciau eraill sy'n gysylltiedig â datblygiad personol a llesiant. Rwyf hefyd yn swyddog cymorth cyntaf iechyd meddwl cymwysedig i oedolion. Cyn Chwarae Teg, bûm yn uwch-arweinydd am 17 mlynedd ar gyfer ‘pobl a dysgu’ ledled Cymru i elusen genedlaethol fawr. Yn y cyfnod rhwng y swydd honno a gweithio i Chwarae Teg, dechreuais nifer o fusnesau bach a'u rhedeg, sydd wedi rhoi gwybodaeth a phrofiad defnyddiol imi eu defnyddio.

Mae fy rôl fel Partner Datblygu Gyrfa yn cynnwys cynnal cyfarfod 'Dod i'ch Adnabod' dros ddwy awr gyda chyfranogwyr newydd, yn casglu gwybodaeth ganddynt a darparu gwybodaeth a chymorth datblygu gyrfa cyn dechrau ar eu cwrs Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM). Rwy'n cyflwyno rhan o Ddiwrnod 1 y rhaglen chwe sesiwn a Diwrnod 6 i gyd, lle rydym yn canolbwyntio ar gynllunio gyrfa pellach, cyflogadwyedd a magu hyder er mwyn cyflawni eu nodau. Yn olaf, rwy'n cwblhau cyfarfod adolygu ar ôl cwblhau'r cwrs, yn trafod canlyniadau a helpu i gynllunio'r camau nesaf yn nhaith yrfaol y cyfranogwr ynghyd â darparu cymorth ad hoc gyda cheisiadau am swyddi, paratoi am gyfweliad ac ati yn ôl yr angen.

Jennie Forey
Partner Marchnata

Jennie Forey

Partner Marchnata

Mae Jennie yn weithiwr marchnata creadigol proffesiynol sydd â chrebwyll masnachol heb ei ail. Mae’n Ymarferydd Achrededig PRINCE2, sy’n sail i’w phrofiad o reoli sawl prosiect marchnata. Ymunodd Jennie â thîm marchnata Chwarae Teg yn 2016. Mae wedi rheoli ymgyrchoedd Cenedl Hyblyg 2, gwaith ail-lansio gwefan Chwarae Teg ac mae’n gyfrifol am bob cyfathrebu â rhanddeiliaid Chwarae Teg.

Jenni Moreton
Arweinydd Cyllid

Jenni Moreton

Arweinydd Cyllid

Ymunodd Jenni â’r tîm Cyllid ym mis Ebrill 2011, gan gychwyn fel Cynorthwyydd Cyllid ac mae wedi datblygu dros y blynyddoedd nes cael ei phenodi’n Bennaeth Cyllid ym mis Chwefror 2017. Mae ganddi gymhwyster Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) ac ar hyn o bryd mae’n dilyn cwrs Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) i fod yn gyfrifydd cymwysedig. Gan fod Jenni yn gweithio i’r sefydliad ers cryn amser, mae ganddi wybodaeth eang am reoli cyllid ar gyfer prosiectau a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Fel y Pennaeth Cyllid, mae ei swydd yn cynnwys cynllunio, cyfeirio a chydgysylltu gweithgareddau Cyllid y sefydliad er mwyn gwneud y defnydd strategol gorau o adnoddau ariannol a rheoli gweithrediadau mewnol yn effeithiol.

Jessica Hannagan-Jones
Partner Cysylltiadau Cleientiaid

Jessica Hannagan-Jones

Partner Cysylltiadau Cleientiaid

Daw Jessica i Chwarae Teg o gefndir codi arian a'r celfyddydau, gan ddod â’i phrofiad creadigol er mwyn adeiladu ar ddarparu gweithdai a chyflwyniadau.

Gan weithio gyda chyflogwyr Chwarae Teg, mae Jessica yn mwynhau gweld y gwahaniaethau mawr y mae sefydliadau ar draws pob sector yn eu gwneud i frwydro yn erbyn anghydraddoldeb yng Nghymru a thu hwnt. “Mae gweld y gwaith sy'n cael ei wneud gan y sefydliadau rwy'n gweithio gyda nhw a gwybod sut mae'n gwneud gwahaniaeth yn anhygoel, dyna pam rwy'n mynd i'r gwaith!”

Yn yr hirdymor, mae Jessica yn rhannu uchelgais pawb yn Chwarae Teg, sef sicrhau cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. Mae'n gweithio gyda changen fasnachol Chwarae Teg i sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael i bawb a bod pawb yn gallu cael gafael ar gymorth, hyfforddiant a modd i ddatblygu fel sefydliad neu fel menyw sy'n symud ymlaen yn ei gyrfa ac yn yr economi.

Joanna Moorman
Partner Hyfforddiant a Chymwysterau - Datblygu e-Ddysgu

Joanna Moorman

Partner Hyfforddiant a Chymwysterau - Datblygu e-Ddysgu

Fel y Partner E-ddysgu Hyfforddiant a Chymwysterau, mae Jo yn gweithio ar draws Chwarae Teg i ddatblygu a chynyddu ein cynnig dysgu cyfunol, gan sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth diddorol o ansawdd uchel sy'n galluogi pob un o'n dysgwyr a'n cleientiaid i gyflawni eu nodau yn effeithiol, p'un a yw hynny'n gymhwyster Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) achrededig, ennill yr hyder i gamu mewn i fywyd cyhoeddus, neu i gael gweithlu mwy amrywiol. Yn athrawes gymwysedig, gwiriwr arweiniol ac asesydd dyslecsia, mae Jo wedi gweithio yn y maes dysgu a datblygu a rheoli ansawdd ers dros 10 mlynedd, ac mae ganddi gyfoeth o brofiad o ddatblygu rhaglenni diddorol, hygyrch a pherthnasol sy'n galluogi dysgwyr i ddangos eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth.

Mae gweithio gyda Chwarae Teg yn caniatáu i Jo arfer ei hangerdd dros gydraddoldeb a chynhwysiant, gan ddefnyddio ei sgiliau i gefnogi menywod Cymru fel eu bod yn gallu rhagori.

Joanne Fitzpatrick
Arweinydd Pobl

Joanne Fitzpatrick

Arweinydd Pobl

Mae Jo yn weithiwr proffesiynol yn y maes Adnoddau Dynol ac yn meddu ar gymhwyster y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, gyda phrofiad o Reoli ac Ymgynghori yn y maes Adnoddau Dynol. Mae’n ymdrin â materion Adnoddau Dynol mewn dull sy’n seiliedig ar werthoedd ac sy’n canolbwyntio ar unigolion, ac mae wedi cynorthwyo gyda sawl rhaglen i newid sefydliadau a diwylliannau. Mae’n ysgogwr brwd i brosiectau gan ddefnyddio prosesau llywio a symleiddio, sy’n ysgogi’r gweithlu ac yn creu cyfleoedd i weithwyr cyflogedig gael llais a chydnabyddiaeth ac yn sicrhau bod cynhwysiant a thegwch yn cael blaenoriaeth pan fydd yr holl benderfyniadau’n cael eu gwneud.

Julia Hames
Partner Marchnata

Julia Hames

Partner Marchnata

Julia has recently joined Chwarae Teg in the marketing team having been self-employed for the last 5 years. After finishing her MSc in Geographical Information Systems (GIS) in 2017, Julia decided to relocate to Wales from the Southeast of England. Prior to this move her career was in aviation and spanned a 12-year period working as cabin crew, frontline security as a team leader and then joining the incident crisis team in Gatwick as a communications and social media executive. Since moving to Wales, she has set up and run 2 businesses from scratch becoming an expert in all things from marketing and website building to cooking, cleaning, problem solving and hosting.

Julia Matthews
Partner Datblygu Dysgu

Julia Matthews

Partner Datblygu Dysgu

Mae fy nghefndir a’m profiad wedi bod yn y sector addysg yn bennaf, ar ôl gweithio fel rheolwr cwricwlwm a darlithydd mewn coleg addysg bellach lle bues yn rheoli a darparu ystod o gyrsiau amrywiol ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion.

Fel Partner Datblygu Dysgu, rwy’n cyflwyno’r rhaglen ILM achrededig a modiwlau dysgu ychwanegol ar hyd a lled y Gogledd.

Julie-Ann Parry
Partner Hyforddiant a Chymwysterau Symudol

Julie-Ann Parry

Partner Hyforddiant a Chymwysterau Symudol

Dros 20 mlynedd o brofiad fel tiwtor/hyfforddwr, yn darparu hyfforddiant yn y sector addysg bellach ac uwch i oedolion. Roedd fy mhrofiad cychwynnol ym maes TGCh, lle bûm yn cynorthwyo aelodau o'r gymuned i ddod yn hyddysg mewn TGCh, ac yn cyflawni'r cymhwyster ECDL i gefnogi staff y GIG gyda systemau TG newydd. Gan ddefnyddio dull cyfunol, cefnogais hyfforddiant gan ddefnyddio adnoddau ar-lein a chymhwysais fel tiwtor ar-lein gyda LearnDirect. Wrth weithio gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, cefnogais hyfforddwyr staff yn natblygiad a chyflwyniad y Prosiect Amnewid Radio Ambiwlans, ac yn hwyrach ymlaen cymerais ran yn achrediad hyfforddiant cymorth cyntaf masnachol a ddaeth ag incwm i'r Ymddiriedolaeth. Ymunais â Chwarae Teg ym mis Mehefin 2016. Fy swydd yw helpu i gefnogi ein Partneriaid Dysgu a Datblygu, sicrhau ansawdd y Rhaglen Datblygu Gyrfa ac ardystio bod adolygiadau achrededig y dysgwyr yn bodloni gofynion ILM, y corff dyfarnu. Rwyf hefyd yn darparu hyfforddiant, ac wir yn mwynhau cyfarfod â'n cyfranogwyr i'w gwylio yn tyfu a datblygu eu sgiliau a'u hyder er mwyn iddynt symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.

Karen Neill
Partner Datblygu Dysgu

Karen Neill

Partner Datblygu Dysgu

Symudais i’r trydydd sector dros ddeng mlynedd yn ôl, ar ôl gwneud sawl rôl Rheolwr Adnoddau Dynol. Cefais flas a bodlonrwydd mawr yn darparu mynediad i hyfforddiant proffesiynol i bobl heb brofiad o hynny.

Mae’n fraint gweithio gyda chymaint o fenywod – pob un o gefndiroedd amrywiol ond sy’n gobeithio datblygu’n bersonol, boed o ran sgiliau neu fagu hyder. Rwy’n gwybod pa mor lwcus ydw i, i gael teithio gyda’r menywod hyn, beth bynnag fo’u taith, a’u gweld yn ffynnu mewn hyder a sgiliau, defnyddio’r doniau nad oeddent yn sylweddoli oedd ganddynt a gwneud eu gorau glas – mae’n ddiguro!

Kathryn-Anne Chivers
Partner QPI

Kathryn-Anne Chivers

Partner QPI

Ymunodd Kath â Chwarae Teg fel Cynorthwyydd Personol gyda chefndir helaeth ym maes gweinyddu ar ôl gweithio yn y Sector Cyfrifyddiaeth gydol ei gyrfa fwy neu lai. Bu’n cynorthwyo’r Rheolwr Prosiect i ddarparu Rhaglen Cenedl Hyblyg 1, adrodd arni, ei monitro a gwneud gwelliannau parhaus iddi a hynny gyda chryn lwyddiant. Yna fe’i penodwyd i’r Tîm Gwella Ansawdd a Phrosesau (QPI) fel Partner QPI ac mae’n gyfrifol bellach am sicrhau bod Rhaglen Cenedl Hyblyg 2 yn cael ei monitro a’i gwerthuso’n effeithiol.

Laura McKeown
Partner Cydlynu - Busnes

Laura McKeown

Partner Cydlynu - Busnes

Laura yw un o’r ddau Gydgysylltydd ar gyfer Rhaglen Fusnes Cenedl Hyblyg 2, ac mae wedi gweithio i Chwarae Teg ers 9 mlynedd. Mae’n helpu’r Tîm Cyflawni a’r Swyddog Arweiniol er mwyn sicrhau y cynhelir y Rhaglen yn ddi-dor. Mae’n cynorthwyo gyda siwrne’r cleient drwy ein Systemau Rheoli Cleientiaid ac mae’n sicrhau ein bod, fel tîm, yn cydymffurfio ac yn gallu parhau i ddarparu gwasanaeth da i’r cleient a gwerth am arian i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru.

Laura Jones
Partner Cydlynu - Busnes

Laura Jones

Partner Cydlynu - Busnes

Ymunodd Laura â Chwarae Teg yn 2019 fel gweinyddwr ar gyfer Rhaglen y Menywod a nawr, fel un o’r Partneriaid Cydlynu ar gyfer y Rhaglen Fusnes, rôl Laura yw cynorthwyo’r gwaith o ddarparu’r Rhaglen Fusnes. Mae Laura yn mwynhau gweld a chlywed am yr effaith y mae'r prosiect wedi'i gael ar y cyfranogwyr sy'n cymryd rhan, ac mae Laura'n falch o fod yn rhan o dîm sy'n sicrhau canlyniadau mor bositif ar gyfer menywod ledled Cymru.

Lauren Strawford
Partner Cyflogwr

Lauren Strawford

Partner Cyflogwr

Lauren is a skilled HR, career development and training professional with experience across the public and private sector. Lauren’s skills include policy design and implementation, delivering on challenging strategies and providing excellent and up-to-date Employment Law and HR best practice advice and guidance. With Lauren having worked with a diverse portfolio of industries she can adapt and tailor her style to design and develop effective Equality, Diversity, and Inclusion strategies. Lauren is passionate about Chwarae Teg’s work supporting inclusion in the workplace.

Leanne Bibby
Arweinydd QPI

Leanne Bibby

Arweinydd QPI

Leanne yw Arweinydd QPI ar gyfer Chwarae Teg ac mae hi wedi bod yn y rôl hon ers Awst 2018 ac mae ganddi 13 mlynedd o brofiad ym meysydd archwiliad mewnol, rheoli ansawdd a dadansoddi data. Ymunodd Leanne â Chwarae Teg yn 2010 fel gweinyddwr ar brosiect Agile Nation 1. Cyn ymuno â Chwarae Teg, roedd Leanne wedi gweithio yn y sector preifat yn bennaf yn y diwydiannau gweithgynhyrchu ond wastad yn gweithio mewn rôl ansawdd a chydymffurfedd o fewn y sefydliadau hyn.

Liam O'Sullivan
Hyfforddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Liam O'Sullivan

Hyfforddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Liam is an Equality, Diversity and Inclusion trainer for the FairPlay Employer team. He is a qualified teacher and an experienced trainer working in both education and across a wide range of voluntary sector organisations delivering to many varied audiences including young people, vulnerable adults, professionals and practitioners. Liam has a background of delivery in Mental Health and Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence and has a passion for helping and supporting others to develop new skills.

Liz Wilson
Prif Weithredwr Dros Dro

Liz Wilson

Prif Weithredwr Dros Dro

Mae Liz yn gymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad ar lefel cyfarwyddwr, gyda phrofiad o weithio yn y sector preifat gyda chwmnïau marchnata, TG a chyhoeddi. Mae Liz wedi gweithio yn y sector elusennol ers y 13 blynedd ddiwethaf.

Sgiliau allweddol Liz yw gwneud newidiadau strategol a gweithredol er mwyn gweithio’n glyfrach nid yn galetach! Mae ganddi’r gallu i ymdopi ag amgylcheddau a blaenoriaethau newidiol, ac yn bwysicach, gweithio a datblygu tîm amrywiol i gyflawni ein hamcanion. Mae ei phrofiad o weithio ar lefel strategol yn caniatáu i Liz helpu i lywio dyfodol Chwarae Teg.

Mair Rowlands
Cydlynydd Prosiect - Menywod

Mair Rowlands

Cydlynydd Prosiect - Menywod

Ymunais â Chwarae Teg gyda chefndir eang ym myd cyllid a gweinyddiaeth, ar ôl gweithio ym myd masnach ac ar gyfer cwmni cyflenwi lleol. Fel cydlynydd prosiect, rwy’n helpu i ddarparu’r Rhaglen Menywod yn llwyddiannus, yn ogystal â chyflwyno adroddiadau, monitro’r rhaglen a’i gwella’n barhaus. Rwy’n falch o helpu i gyflwyno’r rhaglen trwy weinyddu a chydlynu gweithgareddau’n effeithiol ledled tîm y rhaglen menywod.

Makenzie Marshall
Partner Machnata

Makenzie Marshall

Partner Machnata

Makenzie is a Marketing Partner for Chwarae Teg specialising in digital copywriting and content. She has experience working on a wide range of content--from social media planning to corporate bid writing--in the US, Ireland, and Wales. She holds a BA in English Literary Studies, an MA in Welsh & Celtic Studies, and is currently pursuing a PhD in medieval Welsh manuscript studies at Cardiff University. She is a published author of fantasy novels and short literary fiction. A dedicated mother and passionate feminist, she feels strongly about advocating for women of all backgrounds across Wales.

Maggie Edwards
Uwch Partner Ymgysylltu

Maggie Edwards

Uwch Partner Ymgysylltu

Mae Maggie yn arwain Tîm Ymgysylltu Chwarae Teg. Mae'r tîm yn gyfrifol am ymgysylltu â menywod a busnesau ledled Cymru ar gyfer rhaglenni Cenedl Hyblyg 2. Mae gan Maggie agwedd sy'n sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud ac mae'n aelod go iawn o'r tîm, gan sicrhau mai safonau ac ansawdd yw'r brif flaenoriaeth bob amser. Mae Maggie yn angerddol am gydraddoldeb i bawb a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl

Michelle Coffey
Ymgynghorydd Cyflogwr AD

Michelle Coffey

Ymgynghorydd Cyflogwr AD

A self-motivated, pragmatic and experienced HR professional with a strong background in policies and procedures gained in a fast-paced environment. Lead adviser on wellbeing strategy and sickness management strategy. A keen eye for detail with a systems-oriented mindset and natural ability to interpret complex data. Operates with integrity and a high level of professionalism maintaining objectivity in challenging circumstances.

Michelle Holland
Partner Cyflogwyr

Michelle Holland

Partner Cyflogwyr

Mae Michelle yn weithiwr cyffredinol yn yr adran adnoddau dynol ac mae'n meddu ar graffter busnes cryf a chefndir cadarn o weithio gyda’r busnes ar bob lefel mewn amrywiaeth o sectorau gwahanol. Mae'n darparu gwasanaeth adnoddau dynol a yrrir yn fasnachol, gan gynorthwyo i ddarparu mentrau a strategaethau adnoddau dynol. Mae'n datblygu datrysiadau creadigol sy'n cyfrannu mewn modd positif at y sefydliad. Mae'n chwarae rôl allweddol wrth ddarparu cyflenwad llawn o brosesau adnoddau dynol i fusnesau lwyddo gyda'u gwaith o reoli pobl. Mae Michelle yn angerddol dros gyflwyno'r neges o hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae'n rhoi cymorth cadarnhaol a chreadigol i gwmnïau er mwyn helpu i weithredu arfer gorau mewn busnesau ledled Cymru.

Natalie Griffiths
Arweinydd Hyfforddi a Chymwysterau

Natalie Griffiths

Arweinydd Hyfforddi a Chymwysterau

Rydw i’n rheoli Canolfan Cymeradwyo’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth a’r swyddogaeth achrededig ar gyfer datblygu dysgu fel rhan o Brosiect Cenedl Hyblyg 2. Rwy’n arwain Partneriaid y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth a Hyfforddi a’r tîm gweinyddol er mwyn cynorthwyo gyda datblygiad a’r gwaith o gyflwyno hyfforddiant i’n dysgwyr, fel eu bod nhw’n cael profiad dysgu heb ei ail.

Rwyf wedi gweithio yn y sector elusennol ers dros 20 mlynedd ac ymunais â Chwarae Teg fel rhan o'r tîm cyflenwi ar gyfer Cenedl Hyblyg yn 2009. Fy mhrif feysydd o ddiddordeb ac arbenigedd yw arweinyddiaeth, sicrhau ansawdd, monitro a gwerthuso, a datblygu cyrsiau hyfforddi, sy'n berthnasol i'r gweithle.

Mae bod yn rhan o'r Tîm Hyfforddiant a Chymwysterau yn fy ngalluogi i weithio gyda grŵp gwych o bobl sy'n ymgorffori ethos gwelliant parhaus, i gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i gleientiaid fel y gallant ddatblygu eu sgiliau a'u hyder yn llwyddiannus ar gyfer twf personol a llwyddiant mewn busnes.

Natasha Davies
Arweinydd Polisi ac Ymchwil

Natasha Davies

Arweinydd Polisi ac Ymchwil

Mae Tash yn goruchwylio holl waith polisi ac ymchwil Chwarae Teg, gan gynnwys ein hymgysylltiad â'r Senedd, Llywodraeth Cymru, San Steffan a Llywodraeth y DU. Mae Tash yn sicrhau ein bod yn trosi ymchwil yn argymhellion polisi clir sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael ag achosion strwythurol anghydraddoldeb rhywedd, ac yn ceisio cyfleoedd newydd i ddylanwadu ar newid.

Mae gan Tash ddealltwiaeth gadarn o'r dirwedd bolisi yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â chydraddoldeb, tlodi, sgiliau a'r economi. Mae hi'n ased hanfodol i Chwarae Teg, wedi arwain yn ddiweddar ar yr Adolygiad Cydraddoldeb Rhywiol a'n Maniffesto ar gyfer Cydraddoldeb Rhywiol yng Nghymru, ac mae'n cynrychioli Chwarae Teg yn aml mewn digwyddiadau a sesiynau cyhoeddus

Nicole Bray
Partner Cydgysylltu Dysgu Digidol

Nicole Bray

Partner Cydgysylltu Dysgu Digidol

Fel y Partner Cydlynu Dysgu Digidol, rwy'n edrych ar ôl ein hystafell ddosbarth ar-lein, CT Connect, gan weithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan ddysgwyr ac aelodau staff, a darparu cymorth technegol ar ddiwrnodau dysgu. Rwyf hefyd yn cynorthwyo â datblygiad deunyddiau hyfforddi gan gynnwys datblygu cynnwys i gefnogi ein cynnig dysgu cyfunol. Mae gweithio i Chwarae Teg yn brofiad gwerth chweil, ac rwyf wrth fy modd yn clywed am yr effaith gadarnhaol mae'r rhaglen yn ei chael ar fenywod.

Penny Gregory
Uwch Partner Hyfforddiant a Chymwysterau

Penny Gregory

Uwch Partner Hyfforddiant a Chymwysterau

Ymunais â Chwarae Teg yn 2016 wedi gyrfa o 30 mlynedd yn y Post Brenhinol. Fel Uwch-bartner Hyfforddiant a Chymwysterau, rwy’n arwain tîm o Bartneriaid Dysgu a Datblygu sy’n cyflwyno Rhaglenni Datblygu Gyrfa blaengar Chwarae Teg. Ar y cyd â’r Arweinydd Hyfforddiant a Chymwysterau, rwy’n gyfrifol am ansawdd, dyluniad a darpariaeth rhaglenni dysgu a datblygu a'r dull dysgu cyfunol. Rwy’n cwmpasu deunyddiau, yn rheoli adborth ac yn sicrhau bod y gwaith o gyflenwi yn glynu at safonau achredu a'r sefydliad ac rwy'n gweithio o fewn Canolfan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM), i sicrhau safonau cyflenwi ac asesu uchel sy’n bodloni disgwyliadau dysgwyr, a safonau ansawdd y prosiect a'r corff sy'n dyfarnu.

Pip Gray
Partner Ymgysylltu

Pip Gray

Partner Ymgysylltu

Pip is a Community Engagement Partner with years of experience working alongside and within community projects and groups throughout Wales. Her time working within engagement for Welsh organisations including environmental charities has given her a passion for equality and access for all to the places and landscapes we live and work in. Pip has also previously run her own business and understands the importance of support networks and community within the workplace and beyond.

Rachel Wilson
Partner Ymgysylltu

Rachel Wilson

Partner Ymgysylltu

Mae Rachel yn rhan o'r tîm ymgysylltu. Fel partner ymgysylltu, rôl Rachel yw ymgysylltu â menywod a busnesau ledled Cymru ar gyfer rhaglenni Cenedl Hyblyg 2. Mae Rachel hefyd yn ymwneud â phrosiect Women Construct Wales, sy'n helpu menywod i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth a chael cyflogaeth o fewn y diwydiant adeiladu. Mae gan Rachel nifer o flynyddoedd o brofiad o weithio ar brosiectau a ariennir o fewn awdurdodau lleol a’r trydydd sector. Mae Rachel yn angerddol am wneud gwahaniaeth ym mywyd unigolyn ac mae'n ymdrechu i rannu gweledigaeth Chwarae Teg yn ei bywyd proffesiynol a phersonol. Mae Rachel yn ymrwymedig i'r syniad o hunanwella ac mae'n gweithio tuag at Lefel 4 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar hyn o bryd.

Rhian Walstow
Partner Datblygu Dysgu

Rhian Walstow

Partner Datblygu Dysgu

Gyda thros 25 mlynedd o brofiad mewn addysg, rwy’n credu’n gryf yn y syniad o ddysgu gydol oes. Boed yn gymwysterau ffurfiol neu’n dysgu i fagu hyder a hunanymwybyddiaeth, mae’n rhywbeth rwy’n mwynhau ei rannu er mwyn helpu pobl i deimlo’n fwy grymus.

Arweinyddiaeth, gwaith tîm a seicoleg - dyna’r prif feysydd o ddiddordeb i mi. Gydag arbenigedd mewn ffitrwydd a gweithgareddau awyr agored hefyd, credaf fod iechyd a llesiant yn rhan o ddod yn fwy hunanymwybodol, ac yn gallu helpu i fagu hyder mewn sawl ffordd.

Rwy’n mwynhau cyflwyno ein modiwlau dysgu ac mae’n wych cwrdd â’r holl gyfranwyr a dysgu am eu gwaith a’u profiadau; yn enwedig eu helpu i wireddu eu potensial.

Rina Evans
Rheolwr Dysgu a Datblygu AD

Rina Evans

Rheolwr Dysgu a Datblygu AD

Mae Rina yn arbenigwr dysgu a datblygu â chymhwyster Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu. Cyn hynny, hi oedd yn gyfrifol am gyflwyno Rhaglen Menywod Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg. Mae hi bellach yn goruchwylio’r gwaith o gynllunio, datblygu a chyflwyno gweithgarwch dysgu a datblygu Cyflogwr Chwarae Teg. Mae gan Rina dros 20 mlynedd o brofiad yn datblygu rhaglenni rheoli a thîm ar gyfer cwmnïau telathrebu, gan gynnwys BT, O2 a Telefonica. Gweithiodd hefyd gyda Phrifysgol Abertawe ar raglenni arweinyddiaeth LEAD Cymru ac ION. Mae hi'n hyfforddwr profiadol ac yn angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae hi'n mwynhau llunio ymyriadau hyfforddi ar gyfer sefydliadau ac unigolion sydd wedi'u cynllunio i herio, hysbysu a chyffroi.

Sarah Clement
Partner Datblygu Gyrfa (Gorllewin Cymru a'r Cymoedd)

Sarah Clement

Partner Datblygu Gyrfa (Gorllewin Cymru a'r Cymoedd)

I am a Career Development partner with Chwarae Teg. I have a background in management in the social housing sector, am a qualified trainer and have long experience of working to improve the participation and progression of women in the workplace, particularly in the science, engineering, construction and technology sectors. I am a passionate believer in gender equality where women and men can aspire and achieve their full potential in their personal and professional lives, whatever their chosen career path. This fantastic job gives me the opportunity to work directly with women embarking on a change in their lives, supporting them to challenge and stretch themselves and identify concrete steps to take to progress along their career path.

Sian Davies
Partner Datblygu Gyrfa

Sian Davies

Partner Datblygu Gyrfa

Ymunais â Chwarae Teg yn 2017 gyda phrofiad helaeth mewn rheoli, addysg a chyngor ac arweiniad. Mae fy rôl fel Partner Datblygu Gyrfa o fewn rhaglen y menywod wedi fy ngalluogi i ddefnyddio fy mhrofiad, sgiliau a gwybodaeth i gynorthwyo menywod gyda'u dysgu ac ar eu taith gyrfa. Rwy’n angerddol am fy rôl ac rwy'n cael boddhad mawr o fod yn rhan o’r rhaglen datblygu gyrfa, gan weld drosof fy hun yr effaith bositif y mae’r rhaglen yn ei chael ar fenywod. O'r cyfarfod Dod i'ch Adnabod cychwynnol i'r adolygiad ar ôl cwblhau'r rhaglen, fy rôl i yw cefnogi menywod i weld beth yw eu sgiliau a'u cryfderau, i ddatblygu eu hyder a'u hannog i ddiffinio a chynllunio eu nodau gyrfa.

Fel mam brysur i ddau o blant, rwy'n gwerthfawrogi ei bod hi weithiau'n anodd i fenywod gael cyfle i ystyried eu taith gyrfa a chanolbwyntio ar ddatblygu eu gyrfa ac rwy'n falch o fod yn rhan o raglen sy'n hyrwyddo hyn yn weithredol ac sydd yn cael cymaint o effaith bositif ar fywydau menywod.

Stephanie Griffiths
Cyfarwyddwr Masnachol

Stephanie Griffiths

Cyfarwyddwr Masnachol

Mae Stephanie yn gyfrifol am oruchwyliaeth strategol ac arweinyddiaeth weithredol menter fasnachol Chwarae Teg. Mae'n gyfrifol am gynllunio, datblygu a gweithredu gweithgareddau sy'n cynhyrchu incwm a chodi gwarged sy'n seiliedig ar nodau ac amcanion Chwarae Teg. Mae gan Stephanie hanes profedig o arwain ar y blaen, gan reoli timau gwerthu llwyddiannus ar gyfer sefydliadau byd-eang, wrth gydbwyso nifer o gyfrifoldebau mewn amgylcheddau heriol, wedi’u targedu. Mae Stephanie yn angerddol ynglŷn â chydraddoldeb i bawb ac mae'n cael ei hysgogi gan newidiadau cymdeithasol cadarnhaol.

Tomos Evans
Partner Polisi a Materion Cyhoeddus

Tomos Evans

Partner Polisi a Materion Cyhoeddus

Mae Tomos yn cefnogi materion cyhoeddus a gwaith polisi Chwarae Teg. Yn ei rôl, mae'n gyfrifol am ein hymgysylltiad â'r Senedd, Llywodraeth Cymru, San Steffan a Llywodraeth y DU. Mae Tomos yn gweithio i nodi'r newid sydd ei angen i fynd i'r afael ag achosion strwythurol anghydraddoldeb rhywedd drwy ddrafftio papurau polisi, ymatebion i ymgynghoriadau ac erthyglau. Mae gan Tomos ddealltwriaeth fanwl o wleidyddiaeth a pholisi Cymru ac mae ar hyn o bryd yn y broses o gwblhau ei ddoethuriaeth mewn gwleidyddiaeth Brydeinig ym Mhrifysgol Caerfaddon.

Eisiau’r newyddion diweddaraf

Cofrestrwch I dderbyn diweddariadau am ein gwaith yn ymladd yn erbyn anghyfartaledd rhywedd yng Nghymru. Byddwn yn anfon y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am ymgyrchoedd, digwyddiadau a chyfleoedd I chi gymryd rhan.

Cofrestru yma >