Chwarae Teg - Amdanom ni
Torri tir newydd i fenywod a'r gweithlu
Gyda mwy na phymtheg mlynedd o brofiad, Chwarae Teg yw'r brif asiantaeth broffesiynol ym maes datblygiad economaidd menywod yng Nghymru.
Rydym yn hyrwyddo addysg, entrepreneuriaeth, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a gweithio hyblyg, gan helpu menywod i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag gwneud cyfraniad llawn a chyson yn yr economi.
Fodd bynnag, mae mwy i Chwarae Teg na dim ond chwalu rhwystrau. Mae gwrando ar anghenion busnesau ac unigolion a chreu cysylltiadau effeithiol gyda sefydliadau partner yn ein helpu i symbylu arferion gwaith arloesol:
- Yn y cartref ac yn y gweithle, mae menywod ledled Cymru yn anelu'n uwch gyda chyngor gan staff medrus a phrofiadol Chwarae Teg.
- Mae ein cymorth ymarferol yng nghyswllt gweithio hyblyg a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn cynnig manteision sylweddol i unrhyw fusnes, drwy helpu cyflogwyr i fanteisio i'r eithaf ar botensial eu hased mwyaf gwerthfawr, sef gweithlu talentog ac amrywiol.
- Mae ein gweithdai a'n digwyddiadau hyfforddi ac ymgynghori hwylus yn cyfrannu'n weithredol at lwyddiant menywod unigol ac at ganlyniadau gwaelodlin cyflogwyr.
- Drwy weithio gyda ni, gall menywod ddysgu sgiliau newydd, cychwyn busnesau newydd a chymryd mwy o ran mewn penderfyniadau lefel uchel ac uwch reoli.
- Rydym yn defnyddio ymchwil arloesol, polisi cyfredol ac arfer gorau i gynhyrchu buddiannau ariannol a busnes i gyflogwyr.
Gan fod meithrin cysylltiadau cadarn wrth wraidd gwaith Chwarae Teg, byddwn yn datblygu partneriaethau ysbrydoledig gyda chyflogwyr, cyrff dylanwadol a sefydliadau.
Gwerthusiad o'r Defnydd o Gymorth Cyllid Craidd yr Adran Plant. Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS) ar gyfer Chwarae Teg
Yn dilyn argymhelliad archwiliad a wnaethpwyd ym mis Mawrth 2008, comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ymgynghoriad mewnol i werthuso'r defnydd o gefnogaeth cyllid craidd APADGOS ar gyfer Chwarae Teg. Os dymunwch ddarllen yr ymgynghoriad yna cliciwch yma.
Aelod Mewngofnodi
Ymweld a safwe Agile Nation