Ymgynghoriaeth
Ymgynghoriaeth Atebion Chwarae Teg
Mae Atebion Chwarae Teg yn darparu ymgynghoriaeth effeithiol ac ymarferol, sy'n cynnig atebion ar gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gweithio hyblyg, cydraddoldeb ac amrywiaeth ac adnoddau dynol i sefydliadau ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol.
Os yw’ch sefydliad yn arwain y ffordd, neu newydd gychwyn ar eich taith, byddwn yn gweithio gyda chi a'ch timau i gysoni eich strategaeth a'ch prosesau er mwyn sicrhau'r manteision gorau ar gyfer y busnes.
Mae ein gwasanaethau ymgynghori'n cynnwys:
- Ymgynghoriad cyntaf / archwiliad iechyd o weithio hyblyg am ddim
- Adolygu a datblygu polisïau
- Darpariaeth bwrpasol - byddwn yn gweithio'n agos â chi i ddyfeisio agenda arbennig sy'n diwallu union ofynion ac amcanion eich sefydliad
Gan fod ein gwasanaeth hyfforddi ac ymgynghori'n rhan o sefydliad Chwarae Teg gallwn fanteisio’n helaeth ar yr adnoddau deallusol a’r profiad a ddatblygwyd gennym dros 17 mlynedd.
Mae hyn yn cynnwys cynnal a chomisiynu ymchwil i arferion y gweithle, darparu prosiectau ar raddfa fawr, adolygu a datblygu polisïau, sef yr hyn sy'n gwneud Atebion Chwarae Teg yn ffynhonnell o wybodaeth arbenigol am arferion y gweithle sy’n ddibynadwy a mawr ei pharch.
Gan ein bod yn elusen, mae'n bwysig nodi ein bod wedi ymrwymo i ddefnyddio ein harbenigedd i ddarparu atebion diduedd sy'n creu manteision parhaol i fusnesau, sefydliadau a'u gweithwyr.
Ymhellach, nid ailwerthu atebion parod yw’n ffordd ni o weithredu.
Ein hymgynghorwyr
Mae ein hymgynghorwyr yn brofiadol ym maes cynllunio adnoddau dynol ac yn arbenigwyr yn eu meysydd. Maent wedi gweithio gyda sefydliadau o bob math, yn datblygu strategaethau busnes arloesol, yn gweithredu polisïau amrywiaeth ac yn arwain arferion gorau gan sicrhau'r safon uchaf o arbenigedd yn gyson.
Addasu i’ch anghenion
Byddwn yn gweithio'n agos â chi i lunio agenda arbennig sy’n diwallu union ofynion ac amcanion eich sefydliad.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch a Jane Nyhan [email protected], neu galwch 029 2047 8923
Aelod Mewngofnodi
Ymweld a safwe Agile Nation