Chwarae Teg - Aelodaeth

Eich ffordd chi o sicrhau chwarae teg i fenywod yng Nghymru

Mae Chwarae Teg yn anelu i sicrhau fod menywod yng Nghymru yn gallu byw mewn cymdeithas deg.  Er mwyn gallu gwneud hyn rydym yn cadw'r materion hynny sy'n effeithio menywod ar yr agenda gwleidyddol ac rydym yn gweithio'n agos gyda llywodraeth, academyddion a diwydiant i ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau i ymdrin â hwy.

Serch hynny, dim ond rhan fach o'r gwaith yr ydym yn ei wneud yw hyn.  Rydym ni'n credu ei bod yn bwysig i greu a chyflawni datrysiadau ymarferol sy'n rhoi cyfle i fenywod i wneud y mwyaf o'u potensial gyrfaol.  Rydym wedi bod yn gwneud hyn dros yr 17 mlynedd diwethaf trwy redeg rhaglenni mewn Mentergarwch, Gweithio Hyblyg, Gofal Plant, Gofal Cydraddoldeb ac Amrywioldeb ar draws Cymru, sydd wedi bod yn cefnogi menywod unigol i fynychu'r gweithle a datblygu eu gyrfaoedd yn llwyddiannus.

Dros yr 17 mlynedd diwethaf mae Chwarae Teg wedi bod ar flaen y gâd wrth drawsffurfio arferion gwaith, ymchwil, datblygu a helpu cyflogwyr i weithredu strategaethau effeithiol i recriwtio a chadw'r talent gorau.

Trwy ddefnyddio ein profiad i gyflawni cyngor a datrysiadau ymarferol i lywodraeth, cyflogwyr ac unigolion, rydym yn helpu i greu amgylchedd gwaith teg sy'n elwa'r cyflogwyr, eu timoedd a'r gymuned fusnes ehangach.

Aelodaeth Bersonol Chwarae Teg - yw £25 y flwyddyn - pris bach i'w dalu am gefnogi datblygiad economaidd i fenywod Cymru.

Aelodaeth Cyflogwr Chwarae Teg - yw £250 +TAW y flwyddyn - cyflogwyr gorau yn cefnogi Chwarae Teg.

Ymunwch a ni heddiw os hoffech chwarae rhan trwy helpu i sicrhau chwarae teg.

Aelod Mewngofnodi



Ymweld a safwe Agile Nation