Menywod yn yr economi
Creu Cymru lle mae menywod yn cyflawni a ffynnu ym mhob sector ac ar bob lefel o’r economi
Menywod mewn perygl
Creu Cymru lle mae gan fenywod y grym a’r gallu i gyflawni o’u gorau, waeth beth yw eu cefndir, statws cymdeithasol neu leoliad daearyddol
Cynrychioli menywod
Creu Cymru lle mae menywod yn weledol a dylanwadol ym mhob sector o’r economi, cymdeithas ac mewn bywyd cyhoeddus
Dyma oedd ein heffaith yn 2020/2021
Gweithio gyda menywod a merched i ehangu gorwelion, meithrin hyder a sgiliau.
Gyda’i gilydd, mae menywod sydd wedi cael cymorth gan ein Rhaglen Datblygu Gyrfa ledled Cymru wedi cynyddu eu cyflogau o
Yn ogystal:
Dathlu llwyddiannau menywod
44 o deilyngwyr Gwobrau Womenspire. 1 digwyddiad ysbrydoledig. 10 Enillydd Gwobrau Womenspire
Ymunodd dros 6K o bobl â ni ar facebook a twitter ar gyfer Gwobrau Womenspire 2021 gyda’r ffrwd fyw yn cyrraedd bron i 30K o bobl. Gwnaethom ddathlu llwyddiannau 44 o deilyngwyr anhygoel…
Gweithio gyda chyflogwyr i greu gweithleoedd cynhwysol lle mae cyfraniad pawb yn cyfrif
Rydym yn rhoi cydraddoldeb, amrywiaeth ac arferion gwaith cynhwysol wrth wraidd y gwasanaethau ymgynghori a hyfforddi a gynigir gennym. Nid yw’n ychwanegiad, nac yn negodadwy, dyna ffocws popeth a wnawn. O wella pobl, prosesau a newid ffyrdd o feddwl, rydym wedi ymrwymo i adeiladu sefydliadau lle mae pawb yn bwysig, man lle mae pob gweithiwr yn falch o berthyn.
Mynychodd 151 o bobl o fusnesau ledled Cymru ddigwyddiadau oedd yn canolbwyntio ar weithio ystwyth, hiliaeth yn y gwaith a sut i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
29 busnes wedi’i gefnogi drwy Raglen Fusnes Cenedl Hyblyg 2
26 o’r rhain wedi mabwysiadu neu wella’u strategaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth
11 wedi ennill ein gwobr Cyflogwr Chwarae Teg, sy’n arddangos busnesau sy’n enghreifftiau o arfer gorau ac ymrwymiad tuag at greu gweithleoedd teg a hyblyg
Gweithio gyda dylanwadwyr, addysgwyr a phenderfynwyr.
Rydym yn gweithio gyda dylanwadwyr, addysgwyr a phenderfynwyr i newid agweddau ac ymddygiadau er mwyn creu cymdeithas sy’n gwerthfawrogi, yn cefnogi ac o fudd cyfartal i fenywod a dynion.
Mae ein hallbwn polisi ac ymchwil yn ein rhoi ar flaen y gad o ran meddwl am gydraddoldeb rhywiol yng Nghymru ac mae’n ein galluogi i gynnig cyngor a gwaith dadansoddi polisi o ansawdd uchel, gan arwain yr ymgyrch dros newid sy’n ein symud tuag at ein gweledigaeth o Gymru lle mae’r rhywiau’n gydradd.
Ein hymgynghoriadau
Mae ein cynrychiolwyr yn eistedd ar nifer o baneli i roi cyngor ac arweiniad
Cyfathrebu’r effaith a wneir gennym
Cyfranwyr rheolaidd ar y teledu, y radio ac yn y cyfryngau print gan ddarparu dadansoddiadau arbenigol o gydraddoldeb rhywiol ar gyfer materion cyfredol a chodi mwybyddiaeth o’n hymgyrchoedd a’n gwaith cyflawni ac amlygu’r heriau y mae menywod yn eu hwynebu.
Gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Cymru well: