Vilash Harji

4th February 2021

Vilash Sanghera: Ei phrofiad Datblygu Gyrfa Cenedl Hyblyg 2

Cwblhaodd Vilash Sanghera y Rhaglen Datblygu Gyrfa yn hwyr yn 2020. Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb gennym gyda Vilash, a rannodd ei stori datblygu gyrfa, gan nodi syniadau am yr hyn a ddysgodd, awgrymiadau i gyfranogwyr yn y dyfodol, a pham ei bod yn bwysig i ni wella sefyllfa economaidd menywod yng Nghymru.

Eich enw: Vilash Sanghera
Ble rydych chi’n gweithio: General Dynamics UK Ltd

Ynglyn â’r rhaglen

Sut y gwnaethoch chi glywed am y Rhaglen Datblygu Gyrfa?

Cysylltodd aelod o’r adran Adnoddau Dynol yn General Dynamics UK Ltd â mi. Dyna oedd y tro cyntaf i mi glywed am y rhaglen.

Pam y gwnaethoch wneud cais am y Rhaglen Datblygu Gyrfa?

Y rheswm pennaf ar gyfer gwneud cais am y rhaglen oedd magu fy hyder a gwella fy sgiliau cyfathrebu. Yn ogystal, roedd y rhaglen i’w gweld yn ddiddorol o ran dysgu sgiliau newydd a datblygu agwedd feddwl gadarnhaol a chred yn eich hun. Rheswm arall oedd y cyfle i ennill cymhwyster cydnabyddedig ar ddiwedd y rhaglen.

Ar yr hyn a ddysgwyd

A yw’r rhaglen wedi dysgu unrhyw beth i chi amdanoch eich hun?

Gwnaeth y rhaglen fy helpu i ddeall bod gennyf amrywiaeth o sgiliau mewn gwirionedd ac i sylweddoli bod gennyf agwedd gadarnhaol yn barod. Yr unig broblem oedd diffyg hyder, ond mae hyn wedi gwella ers cwblhau’r rhaglen.

Oes unrhyw beth wedi newid yn eich gwaith ers i chi gwblhau’r rhaglen?

Dim eto, ond rwyf wedi symud i brosiect arall, a allai gynnig cyfleoedd pellach yn y dyfodol.

Ydych chi wedi defnyddio’r hyn rydych wedi’i ddysgu yn eich bywyd y tu allan i’r gwaith? Os ydych, sut?

Creu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, yn enwedig yn ystod COVID-19 a gweithio gartref. Canolbwyntio mwy ar fy anghenion a dysgu sut i ddweud ‘Na’, pan fo hynny’n briodol.

Eich neges i gyfranogwyr y dyfodol

Beth fyddech yn ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried gwneud cais?

Mae’n werth gwneud y rhaglen. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd a ffyrdd newydd o feddwl, ac yn ennill cymhwyster cydnabyddedig ar y diwedd. Byddwch hefyd yn dysgu llawer amdanoch chi’ch hun, eich cryfderau a’r sgiliau sydd gennych eisoes, nad ydych wedi sylwi arno o bosib o’r blaen. Mae gennyf fwy o gred ynof fy hun, rwyf wedi magu hyder, ac rwy’n teimlo fy mod yn dod yn fwy pendant. Byddwch hefyd ar eich ennill wrth ddilyn y rhaglen trwy fod gyda phobl â’r un meddylfryd, sy’n cynnig ymdeimlad o berthyn ac yn eich grymuso.

Beth fyddech yn ei ddweud wrth rywun sy’n pryderu am ysgrifennu aseiniadau?

Mae aseiniadau’n gallu peri gofid ond mae cynnwys y cwrs a’r ffyrdd yr ydych yn defnyddio’r hyn yr ydych yn ei ddysgu heb mor anodd ag y tybiwch yn gyntaf. Mae tîm Chwarae Teg yn gefnogol wrth i chi gwblhau aseiniadau ac ar gael i’ch helpu chi gydag unrhyw gwestiynau, materion neu bryderon sydd gennych. Mae hefyd adolygiad o aseiniadau wrth iddynt gael eu cyflwyno am y tro cyntaf, a fydd yn rhoi peth adborth fel y gellir ailwampio’ch aseiniadau pan fo hynny’n briodol. Yn ystod trafodaethau grŵp, rydych yn clywed safbwyntiau eraill a ffyrdd gwahanol o ystyried pethau, sydd hefyd o gymorth wrth i chi gwblhau’ch aseiniadau.

Ar rymuso menywod i gyflawni eu potensial

Pam rydych chi’n credu ei bod yn bwysig i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i greu Cymru sy’n lle tecach i fenywod fyw a gweithio ynddo?

Yn y gorffennol, bu llawer mwy o arweinwyr sy’n ddynion na rhai sy’n fenywod, ond mae hyn wedi newid yn ddiweddar. Credaf fod menywod yr un mor alluog â dynion. Nid oes gwahaniaeth. Maent yn gyfartal a dylent dderbyn yr un fath o gyfleoedd i wella a datblygu eu gyrfaoedd. Gydag agwedd feddwl gadarnhaol, hyder a phenderfyniad, nid oes yr un rheswm pam na all menywod ddatblygu i fod yn arweinwyr cryf. Gadewch i ni greu Cymru decach i fyw a gweithio ynddi, gyda chynrychiolaeth fenywaidd gref.