Anableddau 'Anweladwy' a Rhagfarn Ddiarwybod

21st November 2019
Ysgrifennwyd yr erthygl gan Jessica, Tîm Cyflogwr Chwarae Teg.

Rydw i wedi cael llawer o amser i ystyried, ac yn anffodus, mae gen i lawer o brofiad yn seiliedig ar ‘anableddau anweladwy’.

Rydw i’n ymwybodol o’r effaith y gallant ei chael ar fywyd gwaith, bywyd cymdeithasol… ar FYWYD unigolyn.

Y cefndir

Pan oeddwn yn 14 oed, es i ŵyl gerddoriaeth gyda fy nheulu ac ychydig o ffrindiau. Roedd yna atyniad o’r enw ‘The Brain Machine’ lle’r oedd dyn y tu allan i’r babell fawr yn galw pobl i mewn. Ni ofynnodd i mi na’m ffrindiau a oedd epilepsi arnom ni, neu a oedd hanes ohono yn ein teulu. Yr unig beth wnaeth e oedd gwneud i ni eistedd ar gadeiriau a rhoi sbectol fawr a chlustffonau i ni. Chwaraeodd gerddoriaeth ‘trance’ drwy’r clustffonau yn rhy uchel o lawer a fflachiwyd golau strôb yn syth i mewn i’n llygaid drwy’r sbectol ar amlder dwi nawr yn gwybod sy’n anghyfreithlon. Dyna pryd ges i fy nhrawiad cyntaf.

Dyw e ddim wastad wedi bod yn wael ond dyw e byth wedi bod dan reolaeth lwyr. Mae gen i ddigonedd o straeon doniol am drawiadau; Dihunais o drawiad unwaith gyda mam fy ffrind yn hanner noeth ac yn sefyll drosta i, a minnau heb unrhyw syniad beth oedd yn digwydd. Â minnau yng nghanol trawiad, dyma fy ffrind yn galw am ei chymorth, a’r fam newydd ddod allan o’r gawod yn rhedeg i’m helpu!

Dihunais unwaith ar ysgwydd dyn dieithr ar y tiwb. Roeddwn wedi closio ato gan feddwl taw fy nghariad ydoedd, ond yn lle, dyn mawr, moel ac wedi’i ddychryn yn llwyr ydoedd oedd wedi gadael i mi ‘gwtcho lan’ ato nes i’r parafeddygon gyrraedd. Roedd yn rhaid iddo wedyn ddelio gyda minnau’n sgrechain o sioc yn ei wyneb, pan sylweddolais taw nid fy mhartner ydoedd – druan arno.

Rydw i’n ceisio chwerthin amdano gymaint ag y gallaf. “Mae’n ymarfer corff gwych”, “dwi’n gallu brec-ddawnsio’n well na ti”, a’m hoff un “#Seizingtheday”.

Rydw i’n fwy na hapus i bobl chwerthin gyda fi, ond ddim arnaf i. Rydw i wedi cael profiad o’ddau, yn y gwaith a thu allan iddo. Dyw e ddim wastad yn ddoniol a gallaf ddim wastad weld yr ochr ysgafn.

  • Dyw e ddim yn ddoniol bod rhywun unwaith wedi dweud wrthyf i adael fy ngŵr a oedd yn eistedd wrth f’ymyl ar y pryd. Roedd gen i ddwy lygad ddu ac roedd y dieithryn yn meddwl mai fy ngŵr oedd ar fai.
  • Dyw e ddim yn ddoniol mod i wedi dihuno unwaith yn gorwedd ar y ffordd gyda dau ddyn yn hanner codi ac yn hanner llusgo fi i’r pafin – nid nhw oedd y bobl gyntaf i’m ffeindio, gwnaeth yr unigolyn cyntaf fy mygio.
  • Dyw e ddim yn ddoniol mod i, ar fy ngwaethaf, yn profi tri thrawiad y dydd ac o ganlyniad wedi colli fy sgiliau iaith (roedd mor wael eu bod nhw’n meddwl mod i wedi dioddef strôc) ac wedi colli bron tair blynedd o’m cof am y rhan fwyaf o 2015.

Dyma fi gydag wyneb bach hyfryd wedi chwyddo, ei gleisio a’i grafu.

Llun hyfryd arall – treuliais y rhan fwyaf o 2014-2016 gydag aeliau fel rapper o’r 90au

Cafodd hyn effaith ENFAWR ar fy hyder yn y gwaith ac yn fy mywyd personol. O bosib dim ond nawr dwi’n dechrau rhoi fy mywyd yn ôl at ei gilydd. Yn ei dro, cafodd hyn effaith anferth ar fy nghynnydd (neu diffyg cynnydd) yn y gwaith…

Pam ydw i’n dweud hyn wrthych?

Hynny yw, ar wahân i’r awydd i ddangos y lluniau prydferth hyn i chi.

Ychydig o resymau… Rydw i’n meddwl ei fod e’n bwysig siarad am anableddau anweledig, nid dim ond fy rhai i. Mae’n bwysig bod pobl yn teimlo eu bod yn gallu gofyn cwestiynau – sut arall ydyn ni’n dysgu? Dwi’n meddwl ei fod e’n bwysig iddo beidio â bod yn bwnc dirgel – diar annwyl, roedd yna gymeriad epileptig ar EastEnders, rydyn ni’n fwy neu lai yn ffasiynol!

Nid yw anableddau anweladwy a/neu anhwylderau hirdymor bob amser yn anweladwy. Pe bawn i’n cael trawiad, byddech yn ei weld. Efallai byddech yn gweld rhywun sydd â diabetes yn gwirio ei lefel inswlin, neu byddech yn gweld rhywun yn cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd, ond mae llawer yn anweladwy; iselder, anhwylder deubegynol, anhwylder straen wedi trawma – mae’r rhestr yn hir.

Os dydyn ni ddim yn gallu eu gweld, efallai rydym yn gallu eu clywed – i wneud hynny, rhaid siarad amdanynt.

Gan ystyried hynny, os ydych yn darllen hwn ac mae gennych anabledd anweladwy, ond dydych chi ddim wedi gallu dweud wrth eich cydweithwyr amdano, dwi’n eich annog i wneud hynny. Os oes gennych ffrind neu gydweithiwr sydd ag anabledd neu anhwylder hirdymor, ac rydych wastad wedi eisiau gofyn rhywbeth iddynt, ewch amdani, dywedwch mai fi a ddywedodd wrthych am wneud!

Wedi dweud hynny, dwi ddim yn dweud wrthych i ddechrau bloeddio amdano os dydych chi ddim eisiau – ar yr un pryd, dwi ddim yn awgrymu bod ffrindiau a chydweithwyr yn gwthio i gael atebion os dydyn nhw ddim yn eu cynnig o’r gwirfodd. Ond, os oes rhywbeth sydd wedi bod yn eich trafferthu – efallai bod eich rheolwr wedi camddeall rhywsut, neu fod yr unigolyn ar y ddesg gyferbyn yn cario golau strôb ar gyfer ei feic, dywedwch wrtho.

Yr unig ffordd i newid anwybodaeth, p’un a ydyw ar ddamwain neu beidio, yw drwy ddechrau ychydig o drafodaethau – does dim ots pa mor lletchwith gallent fod.

Rhagfarn Ddiarwybod

Mae rhagfarn ddiarwybod yn bwnc llosg ar hyn o bryd, a dwi wedi bod wrthi’n meddwl am sut mae wedi effeithio arnaf i. Byddech yn meddwl ei fod wedi effeithio arnaf yn llai gan fod e ddim yn weladwy yn ei hun, a dwi’n meddwl mod i’n cytuno gyda hynny i raddau helaeth, ond…

Faint o hysbysebion swyddi ydych chi wedi gweld sy’n dweud ‘Gyrrwr yn ofynnol’? Oes rhaid i bawb allu gyrru? Nid oes hawl gen i yrru – mae pobl yn edrych yn wael ar rywun sy’n cael trawiad wrth yrru. Fodd bynnag, dwi’n gallu dal trên neu fws- a dweud y gwir, dwi’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad neu am ddim #dyma’rbywyd #cenfigennus?

Felly, dwi ddim yn gwneud cais am y swyddi hynny. Hoffwn ddweud taw eu colled nhw ydyw… a’u colled nhw ydyw’n wir… ond fy ngholled i ydyw hefyd.

Mae p’un ai i ddweud/pryd i ddweud wrth reolwyr am fy epilepsi wastad yn ddilema. Mae’r blog hwn yn gam enfawr i mi, ond mae’n rhaid i mi ddweud wrthynt. Yn rhannol er mwyn gwneud addasiadau rhesymol – mae newidiadau bach yn y gweithle’n gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i rywun sy’n byw gydag anabledd – anabledd anweladwy neu beidio.

Dwi ddim yn mynd i enwi unrhyw un, nid dyna’r bwriad, ond gwnaeth un o’r cwmnïau ble nes i weithio wrthod rhoi sgrin ffiltro ar fy nghyfrifiadur – clawr bach llwyd ydyw sydd yn y bôn yn tywyllu’r golau glas o’r sgrin (maent yn costio tua £40). Cefais drawiad yn fy swyddfa (roedd fy nghydweithwyr yn wych!) a’r diwrnod wedyn, deuthum i’r gwaith a chredwch neu beidio roedd un ar fy nesg.

Rhagfarn ymwybodol iawn

Er mod i’n llwyddo i gael swyddi, dwi wedi dweud wrth ddau gyflogwr gwahanol (ar gontract dim oriau) bod gen i epilepsi ac yn sydyn “does dim oriau” wedi bod ar gael i mi.

Gweithio’n hyblyg

Dyma’r tro cyntaf i mi weithio mewn amgylchedd gweithio hyblyg yma yn Chwarae Teg. Mae yna sawl ffordd o weithio’n hyblyg; oriau cywasgedig neu wedi’u haddasu; rhannu swydd; gweithio gartref.

Yma yn Chwarae Teg, rydyn ni’n dilyn y model gweithio ar sail canlyniadau. Mae hyn yn golygu ein bod yn cael ein monitro ar sail ein hamcanion, llwyddiannau a chanlyniadau ac NID ar sail yr oriau rydym yn treulio yn y swyddfa.

Galla i ddim pwysleisio’r gwahaniaeth mai hyn wedi’i wneud i’m bywyd gwaith.
O’m safbwynt i, os ydw i’n dihuno a ddim yn gallu codi o’r gwely’n syth, gallaf aros heb fecso am yr amser. Os oes angen i mi eistedd yn y tywyllwch i osgoi meigryn, gallaf weithio o gartref (mae’n well na gwisgo sbectol haul yn y swyddfa). Os oes gen i apwyntiad yn yr ysbyty, does dim rhaid i mi fecso am ddweud wrth bawb a phopeth.

Cymerodd dipyn o amser i mi ddeall hyn! Ond mae wedi newid fy ngallu i wneud fy swydd heb amheuaeth, ac wedi lleihau’r pryder gan helpu fy epilepsi yn aruthrol. O ganlyniad, rydw i bellach yn ôl ar lwybr gyrfa yr oeddwn arno cyn mynd yn sâl iawn, yn lle gorfod osgoi unrhyw beth anodd rhag ofn iddo effeithio ar fy iechyd.

O safbwynt cyflogwyr, maent yn cael y gorau allan ohonof. Mae cymaint o gyflogwyr blaenorol wedi dweud wrthyf “i fynd adref” pan mai’r cyfan oedd angen arnaf oedd awr ychwanegol. Ers bod yn Chwarae Teg dwi heb gymryd un diwrnod o salwch – dwi ddim wedi gorfod gwneud.

A dweud y gwir, mae astudiaethau diweddar yn dangos bod 72% o gyflogwyr yn y DU sy’n cynnig oriau hyblyg yn dweud eu bod wedi cael effaith gadarnhaol ar foddhad staff ac mae 61% ohonynt yn nodi cynnydd yn elw’r cwmni!.

Pam ddylen ni helpu a sut gallwn ni helpu?

Mae anableddau anweladwy yn effeithio ar gymaint o bobl bob dydd. Fel gwlad, dwi’n teimlo ein bod yn cymryd camau i fod yn ymwybodol o anableddau anweladwy, yn benodol cyflyrau iechyd meddwl, ond gallwn bob amser wneud mwy.

Mae epilepsi’n effeithio ar 1 o bob 100 o bobl yn y DU a bydd 1 o bob 10 yn profi trawiad yn ei fywyd (gan gynnwys adweithiau absenoldeb a myoclonig).

Rydw i’n gwybod bod trafod y materion hyn yn gallu bod yn frawychus dros ben i unigolion ac i fusnesau ond mae yna help ar gael.

Os ydych yn fusnes ac eisiau sicrhau eich bod ar y llwybr cywir neu efallai’n teimlo gallech wneud mwy ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, beth am ffonio ni.

Mae ein rhaglen fusnes yn gallu helpu i ddangos ‘lle rydych chi nawr’ a ‘sut i symud ymlaen’ a gallwn gynnig ystod o ddiwrnodau ymgynghori sy’n trafod materion o ragfarn ddiarwybod i weithio hyblyg.

Boed yn unigolyn neu’n fusnes, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â fi neu’m cydweithwyr os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu os hoffech drefnu cyfarfod.

Diolch am ddarllen
Jessica

Tîm Cyflogwr Chwarae Teg
fairplayemployer@chwaraeteg.com

25th Nov 2018
FairPlay Employer
Project