Mae gwaith ymchwil diweddar gan Chwarae Teg wedi datgelu effaith Coronafeirws ar Fenywod yng Nghymru.
Cafwyd mwy na 1,000 o ymatebion mewn arolwg a gynhaliwyd gan yr elusen. Rhannodd menywod eu profiadau o’r pandemig Covid-19 a’r cyfnod clo, gan dynnu sylw at yr effaith a gafodd ar bob agwedd ar eu bywydau.
Nid oes un profiad cyffredinol o Covid-19 ymhlith menywod yng Nghymru. Yr effaith ar fenywod o liw, menywod anabl, a menywod ar incwm isel sydd wedi bod fwyaf arwyddocaol oherwydd eu safle yn y gwaith, eu hangen i gysgodi neu risg uwch o’r firws, a’r ffaith eu bod wedi colli incwm.
Roedd y mwyafrif o ferched yn rhannu pryderon cyffredin am iechyd a llesiant, cyflogaeth a sicrwydd ariannol, bywydau teuluol gan gynnwys gofal ac addysgu gartref, a diogelwch a llesiant.
Drwy gydol Covid-19, mae menywod ddwywaith yn fwy tebygol na dynion o fod yn weithwyr allweddol, yn fwy tebygol o fod yn gwneud gwaith â chyflog isel ar gontractau ansicr mewn sectorau wedi’u cau gan y feirws, a gartref, roedd menywod yn treulio dwywaith gymaint o amser yn addysgu’u plant gartref.
Canfu’r adroddiad fod ffyrlo yn brofiad negyddol i fenywod, a oedd yn gadael bwlch sylweddol yn eu hunaniaeth sy’n seiliedig ar waith. Dim ond 33.6% o ymatebwyr yr arolwg a oedd wedi’u rhoi ar ffyrlo oedd yn credu y byddent yn dychwelyd i’w rôl flaenorol.
Dywedodd un ymatebydd:
“Rydw i wedi mynd o fod yn fam sy’n gweithio’n llawn amser i fod yn fam sy’n aros gartref erbyn hyn… ac rwy’n teimlo fod cael gwaith wedi’i dynnu oddi arna i yn gwneud i mi golli fy hunaniaeth fel unigolyn a phwy oeddwn i cyn dod yn fam.”
Roedd achosion hefyd o fenywod a wrthododd fynd ar ffyrlo – er gwaethaf y cymorth y byddai’n ei ddarparu er mwyn dod i ben â gofal plant – oherwydd ofnau am gynnydd eu gyrfa, gan eu rhoi o dan bwysau mawr.
Nid oedd menywod a oedd yn weithwyr allweddol drwy’r pandemig bob amser yn gallu cael gafael ar PPE priodol, a oedd yn ffitio’n dda, oherwydd prinder a hierarchaethau dyrannu, gan eu rhoi mewn perygl.
Roedd menywod a oedd, neu a ddaeth yn ddi-waith drwy’r pandemig, yn poeni’n fawr am eu hincwm, gyda’r system fudd-daliadau yn anhyblyg ac yn methu â diwallu eu hanghenion. Mae ansicrwydd ychwanegol i fenywod ar gontractau tymor penodol neu ansicr oherwydd natur ansefydlog cyflogaeth ar hyn o bryd.
Tynnodd un ymatebydd sylw at ei phryderon ynghylch bod yn weithiwr rhan-amser:
“Rwy’n pryderu y bydd diswyddiadau yn fy ngweithle yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf… ac mai fy rôl i fydd un o’r rhai cyntaf i fynd oherwydd ei bod yn rhan-amser”.
Roedd menywod hunangyflogedig hyd yn oed yn llai tebygol o gael mynediad at gymorth ariannol Llywodraeth y DU na dynion hunangyflogedig. Roedd cael gafael ar gymorth ariannol i’w busnesau yn arbennig o anodd i fenywod hunangyflogedig sydd wedi bod ar absenoldeb mamolaeth, neu wedi bod mewn rôl ran-amser yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Fodd bynnag, tynnodd yr ymchwil sylw at rai pethau cadarnhaol.
Er bod profiadau o weithio gartref yn gymysg, roedd menywod a oedd yn gallu gwneud hynny’n cydnabod bod hyn yn eu diogelu rhag risgiau iechyd ac economaidd mwyaf y pandemig. Mae llawer o fenywod hefyd wedi mwynhau manteision gweithio gartref, yn enwedig yr hyblygrwydd, ac yn gobeithio y byddant yn gweld newid parhaol o ran ffyrdd o weithio. Mae adferiad o’r pandemig yn gyfle pwysig i ymgorffori arferion gweithio hyblyg ac ystwyth.
Mae rhai menywod hefyd wedi cael eu hannog i ddechrau neu ehangu eu busnesau eu hunain drwy gydol yr argyfwng.