Mae Chwarae Teg yn gofyn i sefydliadau ledled Cymru fynd ati i #GolfeidioCyfiawnder a chael hwyl ynghylch codi arian ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth).
Mae’r elusen wedi datblygu adnoddau i gefnogi sefydliadau sydd â diddordeb mewn codi arian er budd ei waith hanfodol i ddileu anghyfartaledd ar sail rhywedd yng Nghymru.
Mae llu o awgrymiadau, o gwisiau i gweithgareddau adeiladu tîm a syniadau nawdd i’w gweld yn chwaraeteg.com/projects/international-womens-day-2023.
Drwy gofrestru ac ymuno, gall gweithleoedd cynllunio digwyddiadau i’w gweithwyr a chwsmeriaid er mwyn ddod at ei gilydd a hybu lles, ymgysylltu a gwneud daioni.
Ffeithiau allweddol i gofio am y Diwrnod Rhyngwladol Merched hwn o adroddiad Cyflwr y Genedl 2023 gan Chwarae Teg:
- Mae 93.5% o droseddau rhywiol yn cael eu cyflawni yn erbyn Menywod.
- 11.3% yw’r bwlch cyflog ar sail rhywedd yng Nghymru ar hyn o bryd.
- Mae 50% o fenywod 16-34 oed wedi profi o leiaf un math o aflonyddu yn y flwyddyn ddiwethaf.
- Mae 23% o fenywod yng Nghymru yn teimlo’n ddiogel yn cerdded ar ei phen ei hun ar ôl iddi dywyllu.