Swyddogion heddlu benywaidd blaenllaw yn anelu at ysbrydoli menywod ifanc

26th November 2020
Bydd prosiect i annog arweinwyr benywaidd y dyfodol yn canolbwyntio ar yrfaoedd yn yr heddlu drwy ddigwyddiad rhithwir yr wythnos nesaf.

Mae’r rhaglen LeadHerShip yn dod â phum menyw ysbrydoledig o bob rhan o’r Heddlu yng Nghymru at ei gilydd ar gyfer gweminar ar 2 Rhagfyr rhwng 12-1.30yp.

Mae LeadHerShip, sy’n cael ei redeg gan Chwarae Teg, wedi’i anelu at fenywod 16-25 oed a’i nod yw sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli’n well mewn rolau sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ac yn rhoi llwyfan iddyn nhw leisio’u barn.

Y rhai fydd yn cymryd rhan yw:

  • Siobhan Aldridge, Swyddog Heddlu a Hyrwyddwr Recriwtio BAME, Heddlu De Cymru
  • Prif Arolygydd Lisa Gore, Heddlu De Cymru
  • Prif Arolygydd Emma Naughton, Heddlu Gogledd Cymru
  • Robina Ahmed, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Heddlu Gogledd Cymru
  • Ditectif Brif Arolygydd Tracey Rankine, Heddlu De Cymru

Bydd y weminar yn rhoi cipolwg ar eu swyddi bob dydd, sut y gwnaethon nhw gyrraedd eu gyrfaoedd, ac yn edrych ar arweinyddiaeth ac amrywiaeth o fewn yr heddlu. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau.

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y weminar, i rannu fy mrwdfrydedd a'm hangerdd dros fod yn dditectif gydag eraill a'u hannog i wneud yr un peth. Mae'n ddiddorol, yn heriol, rwy'n cael gweithio gyda phobl wych, helpu eraill ac mae wedi bod yn yrfa hynod werth chweil a chyffrous.

Detective Chief Inspector Tracey Rankine
Heddlu De Cymru ac enillwr yn y category Arweinydd yng ngwobrau Womenspire 2020

Rwy’n wirioneddol gredu, os gallaf i fod yn Swyddog Heddlu, y gall unrhyw un, ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi yw’r tân yn eich bol a’r penderfyniad hwnnw i gefnogi ac i ysbrydoli gwahaniaeth - Gallwch chi gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl! Mae pawb yn unigryw, dyna sy’n eich grymuso, ac rwy’n ymdrechu i seilio fyw fy mywyd ar hynny.

PC Siobhan Aldridge
Swyddog Heddlu a Hyrwyddwr Recriwtio BAME, Heddlu De Cymru

Rwy'n falch iawn bod gennym grŵp mor fedrus yn barod i rannu eu profiadau gyda menywod ifanc. Mae swyddogion yr heddlu'n ymwneud â gwaith mewn amrywiaeth o rolau yn yr heddlu, felly mae rhywbeth i bawb fod â diddordeb ynddo, ac rwy'n siŵr y bydd yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.

"Y weminar hon yw'r gyntaf o'n cyfres newydd o ddigwyddiadau LeadHerShip, a fydd yn parhau gyda rhagor o sgyrsiau gyrfa ar-lein gydag arweinwyr uchelgeisiol ar draws y sectorau yng Nghymru

Emma Tamplin
Rheolwr Cydweithredu, Chwarae Teg