Mae ymchwil a gyhoeddwyd heddiw (12.10.22) yn datgelu bod angen i wasanaethau cyngor ac arweiniad gyrfaoedd wneud mwy i sicrhau bod menywod ifanc yn cael y cymorth gorau posibl ar yr amser cywir.
Mae adroddiad “Profiadau Merched Ifanc o Gyngor ac Arweiniad Gyrfaoedd yng Nghymru” gan Chwarae Teg yn astudio’r darlun cyfredol o wasanaethau cyngor gyrfaoedd i fenywod ifanc yng Nghymru.
Ond er mawr siom, mae gormod o ddewisiadau gyrfa yn dal i gael eu harwain gan stereoteipiau rhywedd hirsefydlog. Mae’r duedd hon yn arbennig o amlwg yn newisiadau merched ifanc o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is. Mae’r dylanwad sydd gan stereoteipiau rhywedd dros ddewisiadau gyrfa yn ffactor mawr o ran arwahanu rhywedd yn y gweithle a’r bwlch cyflog ar sail rhywedd parhaus sydd yng Nghymru.
Mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael â stereoteipiau rhywedd o oedran cynnar er mwyn sicrhau bod menywod ifanc yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi i ddewis y gyrfaoedd y maen nhw eu heisiau, yn hytrach na’r hyn a ystyrir yn draddodiadol fel “gwaith menywod”.
Yn ffodus, mae gan Gymru eisoes rwydwaith cryf o ddarparwyr gwasanaethau gyrfaoedd a gweithwyr proffesiynol sy’n frwd dros ddarparu cyngor gyrfaoedd da. Fodd bynnag, mae’r gwaith pwysig y mae’r gwasanaethau hyn yn ei wneud wedi mynd yn fwyfwy heriol gan fod toriadau mewn cyllid wedi’i gwneud hi’n anodd iawn darparu’r cymorth y mae menywod ifanc yn dweud y maen nhw ei eisiau a’i angen.
Pan ofynnwyd iddyn nhw, dywedodd 42% o fenywod ifanc eu bod yn teimlo eu bod wedi cael yr hyn yr oedd ei angen arnyn nhw gan wasanaethau cyngor ac arweiniad gyrfaoedd o’i gymharu â 26% o fenywod ifanc a deimlai nad oedden nhw’n wedi cael yr hyn yr oedd ei angen arnyn nhw. Mae’n amlwg bod lle i wella er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n cyflawni ar gyfer menywod ifanc.
Nid oes yr un dull sy’n addas i bawb ar gyfer cyngor ac arweiniad gyrfaoedd sy’n gallu ddiwallu anghenion pob merch ifanc. Mae’n hanfodol felly bod gwasanaethau cymorth gyrfa a gweithwyr proffesiynol cyngor gyrfa yn cael yr offer sydd ei angen ar gyfer rhoi cymorth deinamig a hyblyg sy’n cynnig gwybodaeth am amrywiaeth eang o swyddi.
Mae cyngor a gwasanaethau cymorth gyrfa’n hanfodol er mwyn sicrhau yr eir i’r afael ag achosion sylfaenol a pharhaus anghydraddoldeb rhywedd mewn cymdeithas. Dyna pam bod angen gweithredu er mwyn gwella’r ddarpariaeth a’r nifer sy’n manteisio ar wasanaethau ymhlith merched ifanc. Mae’r casgliadau’n cynnwys yr angen i Lywodraeth Cymru gynyddu buddsoddiad mewn gwasanaethau addysg ac arweiniad gyrfaoedd, ac i ddarparwyr gwasanaethau gefnogi eu gweithwyr proffesiynol drwy ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwydiannau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg a gwneud hyfforddiant cydraddoldeb a thuedd anymwybodol yn orfodol.