Mae ymchwil a gyhoeddwyd heddiw (04/07/2022) gan elusen cydraddoldeb rhywedd flaenllaw yng Nghymru, Chwarae Teg, yn datgelu bod gan ddigidoleiddio a’r pontio i economi gwyrdd y potensial i wreiddio safle economaidd anghyfartal menywod yn ddyfnach.
Mae “Tuag at Gydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru: Ymateb i Economi sy’n Trawsnewid” yn gosod allan sut mae ein byd economaidd yn trawsnewid ar gyfradd nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen trwy’r tueddiadau i ddigidoleiddio a’r angen i bontio i economi gwyrdd. Mae’r trawsnewid hwn, fodd bynnag, yn effeithio ar fenywod a grwpiau ymylol eraill yn wahanol.
Wrth i’n heconomi a’n bywydau ddod yn fwyfwy dibynnol ar dechnoleg, mae menywod yn wynebu mwy o berygl o golli eu swyddi. O’r holl rolau gaiff eu gweld yn wynebu’r perygl mwyaf o awtomeiddio, mae 64% o weithwyr yn y rolau hynny’n fenywod o gymharu â 36% o ddynion. Yn ogystal â hyn, mae menywod o leiafrifoedd ethnig yn wynebu hyd yn oed mwy o berygl o golli eu swyddi yn sgil awtomeiddio. I gymhlethu’r mater, mae menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli yn y sectorau sy’n debygol o weld twf mewn rolau sy’n gofyn am sgiliau ac sy’n talu’n dda o ganlyniad i ddigidoleiddio ac awtomeiddio. 23% o fenywod sy’n weithwyr proffesiynol a gweithwyr proffesiynol cysylltiol ym maes gwyddoniaeth, ymchwil a thechnoleg yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffordd mae menywod yn cael eu heffeithio lawer yn fwy gan yr argyfwng hinsawdd a’r gweithredu i leihau allyriadau. Mae gofalu am yr amgylchedd wedi golygu bod stereoteipio rhywedd yn dod yn fwyfwy amlwg o ran pwy sy’n cymryd cyfrifoldeb am newidiadau yn y cartref.
Mae menywod yn parhau i fod yn llai tebygol o elwa o fuddsoddiad gan y llywodraeth a swyddi a hyfforddiant newydd a grëir o ganlyniad i weithredu sero net. Mae ffocws y llywodraeth ar ddigarboneiddio diwydiannau fel adeiladu ac ynni, lle mae gwahanu o ran rhywedd yn gyffredin, yn golygu bod menywod yn colli cyfleoedd i ddatblygu yn eu gyrfaoedd a mynd i’r afael â chyfleoedd newydd. Yn wyneb y tueddiadau trawsnewidiol yn sgil hyn, rhaid i ni ofyn i ni’n hunain pa fath o economi yr ydym eisiau yn y dyfodol. Dyna pam, yn eu hadroddiad “Tuag at Gydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru: Ymateb i Economi sy’n Trawsnewid”, mae Chwarae Teg yn galw am weithredu gan y llywodraeth a busnesau er mwyn paratoi ar gyfer y tueddiadau hyn a sicrhau nad ydyn nhw’n effeithio’n ddrwg ar fenywod a grwpiau ymylol eraill.
Mae argymhellion Chwarae Teg yn cynnwys galwad i Lywodraeth Cymru ddatblygu llwybr prentisiaeth glir i gymwysterau lefel gradd ddigidol, mabwysiadau diffiniad eangach o “economi gwyrdd” sy’n symud tu hwnt i ddigarboneiddio diwydiant, a sicrhau bod rhaglenni i ôl-osod cartrefi’n cael eu defnyddio er mwyn cyflawni nodau cyfiawnder cymdeithasol.
Dim ond trwy fynd i’r afael â mesurau rhagweithiol nawr y gallwn ni sicrhau bod trawsnewid ein heconomi’n declyn i daclo anghydraddoldeb yn hytrach na’i wreiddio ymhellach.