Plac Porffor - Val Feld

8th March 2019

Val Feld

Valerie Breen Turner, ganed ym Mangor, 29 Hydref 1947, bu farw yn Abertawe 17 Gorffennaf 2001.

Val oedd un o’r aelodau mwyaf uchel ei pharch yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar draws yr holl sbectrwm gwleidyddol, ac roedd yn un o brif benseiri datganoli a gyflawnwyd ym 1997.

Val fu’n bennaf gyfrifol am hyrwyddo cyfranogiad menywod mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru, ac roedd 25 o’r 60 o aelodau’n fenywod. Cabinet Cymru oedd y cyntaf ar hyd a lled y byd Ile’r oedd mwyafrif yr aelodau yn fenywod, a oedd yn anhygoel o ystyried diwylliant gwleidyddol traddodiadol a gwrywaidd iawn Cymru.

Roedd gwleidyddiaeth Val bob amser yn seiliedig ar ei gwaith gyda phobl, fel Cynghorydd yn Chorley, Swydd Gaerhirfryn, lle bu’n gweithio fel gweithiwr lles, hawliau a thai. Dychwelodd i Gymru ym 1982 yn Gyfarwyddwr cyntaf Shelter Cymru. Fel sefydliad Cymru gyfan, yn annibynnol ar y sefydliad yn Lloegr, roedd yn bwysig iddi hi bod yr elusen hawliau tai wedi ei leoli yn Abertawe, ac roedd ei gwerthoedd a’i hegwyddorion hi o wrando, ymwneud a hyrwyddo eraill yn hanfodol.

Ar ôl cwblhau cwrs mewn Astudiaethau Menywod yng Nghaerdydd, penodwyd Val yn Gyfarwyddwr y Comisiwn Cyfle Cyfartal yng Nghymru. Bu’n allweddol yn y gwaith o sicrhau bod Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn cynnwys cymalau lle’r oedd yn ofynnol rhoi sylw dyledus i gyfle cyfartal.

Ei hymrwymiad i gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, dyna oedd wrth wraidd holl waith Val, ac roedd yn rym nerthol i fenywod a grwpiau lleiafrifol, gan gefnogi Canolfan Menywod Abertawe, Treftadaeth Jazz Cymru, Archif Menywod Cymru, Rhwydwaith Menywod o Leiafrifoedd Ethnig (MEWN Abertawe), ymysg nifer o achosion eraill.

Roedd Val yn rhan o’r gwaith o sefydlu sefydliadau fel Chwarae Teg, sy’n hyrwyddo sgiliau menywod. Ym 1999, cafodd ei phenodi’n Gadeirydd Pwyllgor Datblygu’r Economi Llywodraeth Cymru, swydd bwysig a ddaeth ar adeg pan oedd yr economi’n symud o fod yn ddibynnol ar ddiwydiant trwm i wasanaethau a’r diwydiant electronig, ac roedd hi’n frwd yn ei hymdrech i sicrhau bob amser bod menywod wedi’u paratoi ac yn cael pob cymorth.