Seneddau sy’n sensitif i rywedd: y tu hwnt i’r dull ‘ychwanegwch fenywod a chymysgwch’

9th February 2022

Seneddau sy’n sensitif i rywedd: y tu hwnt i’r dull ‘ychwanegwch fenywod a chymysgwch’

Mae pob penderfyniad y mae aelod seneddol yn ei wneud yn gyfle i hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd. O ddewis pwnc ar gyfer ymchwiliad goruchwylio i ddrafftio gwelliannau deddfwriaethol, gall craffu sy’n sensitif i rywedd helpu i ddod ag anghydraddoldebau i’r wyneb a dod o hyd i atebion.

Mae’r syniad o ‘senedd sy’n sensitif i rywedd‘ wedi esblygu dros amser. Cafodd diffiniad newydd ei lunio yn ddiweddar:

“Mae senedd sy’n sensitif i rywedd yn gwerthfawrogi ac yn blaenoriaethu cydraddoldeb rhywedd fel amcan cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol, ac yn ailgyfeirio ac yn trawsnewid diwylliant, arferion ac allbynnau sefydliadol senedd tuag at yr amcanion hyn.”

Childs, S. aand Palmieri, S. “Gender sensitive parliaments: Feminizing Formal Political Institutions” in Sawer, M., Banaszak, L., True, J., and Kantola, J. (eds), Handbook of Feminist Governance [ar y gweill]

Mae hyn yn golygu, er bod cyfranogiad gwleidyddol cyfartal yn hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau cynrychioliadol, “mae angen i seneddau wneud mwy nag ychwanegu menywod” i ddod yn sensitif i rywedd. Mae angen iddynt drawsnewid eu diwylliant, eu strwythurau a’u gweithdrefnau mewnol yn strategol er mwyn creu amgylchedd lle gellir datblygu cydraddoldeb rhywedd.

Mae hyn yn cynnwys lleihau rhwystrau i gyfranogiad a mynd i’r afael â rheolau a normau gwahaniaethol. Ond mae hefyd yn golygu ymgorffori rhywedd ym mhob gwaith seneddol, boed yn gynrychioliadol, yn ddeddfwriaethol neu o ran goruchwylio.

Mae craffu sy’n sensitif i rywedd yn ffordd i aelodau seneddol hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd mewn cymdeithas drwy ddeddfu a goruchwylio camau gweithredu a gwariant y llywodraeth.

Creu hinsawdd seneddol ar gyfer craffu sy’n sensitif i rywedd

Mae seneddau’n ymgorffori rhywedd a chydraddoldeb mewn craffu mewn gwahanol ffyrdd, drwy drawsnewid diwylliant mewnol a chreu mecanweithiau penodol.

Mae arfer da rhyngwladol yn pwysleisio pwysigrwydd pwyllgorau a chawcysau arbenigol pwrpasol. Mae gan tua dwy ran o dair o siambrau is yn y byd gorff rhywedd, corff menywod, neu gorff cydraddoldeb pwrpasol.

Ond mae llawer o fesurau eraill i helpu i brif ffrydio rhywedd yn y broses graffu:

  • Gosododd Fforwm Oireachtas Iwerddon ar Senedd Deulu-gyfeillgar a Chynhwysol nod i sicrhau bod Tai’r Oireachtas yn cael eu cefnogi ac â’r adnoddau i ystyried materion rhywedd a chydraddoldeb wrth ddeddfu. Mae hyn yn cynnwys cynnal asesiadau o effaith Biliau ar sail rhywedd, mynediad at arbenigedd, a chynyddu amrywiaeth y grwpiau sy’n ymwneud ag ymgynghoriadau cyhoeddus (gan gynnwys drwy gasglu tystiolaeth o bell);
  • Yn Sweden, mae Llefarydd y Grŵp Cydraddoldeb Rhywedd yn darparu hyfforddiant, ymchwil, digwyddiadau a chefnogaeth i Aelodau Seneddol hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd;
  • Mae Rheolau Sefydlog Senedd Fiji yn ei gwneud yn ofynnol i bob pwyllgor ystyried cydraddoldeb rhywedd a sicrhau bod yr effaith ar ddynion a menywod yn cael ei harchwilio ym mhob mater;
  • Sefydlodd Cynulliad Deddfwriaethol Costa Rica uned dechnegol ar gydraddoldeb rhywedd i hyrwyddo prif ffrydio rhywedd drwy ddarparu hyfforddiant, cyngor arbenigol, cydlynu camau gweithredu sefydliadol, a chyfathrebu â’r gymdeithas sifil;
  • Comisiynodd Senedd y DU archwiliad rhywedd annibynnol yn 2016, a arweiniodd at raglen waith gan gynnwys targedau rhywedd ar gyfer tystion pwyllgorau; ac
  • Mae Siambr Dirprwyon yr Eidal yn treialu dadansoddiadau o’r effaith ar ryweddau ar bob Mesur.

Dull systematig o graffu sy’n sensitif i rywedd

Mae dull o graffu croestoriadol sy’n sensitif i rywedd yn golygu, pwy bynnag yw’r gwleidydd, beth bynnag fo’u plaid, pa bwnc bynnag y maent yn craffu arno, eu bod yn gwneud hynny drwy lens rhywedd.

Mae prosiect datblygu seneddol rhyngwladol INTER PARES wedi datblygu model pum cam syml, hyblyg ar gyfer craffu sensitif i rywedd [cyhoeddiad i ddod]:

  1. Ymgorffori rhywedd o’r dechrau (h.y., cymryd yn ganiataol y bydd pob pwnc yn cael effeithiau gwahanol ar bobl o wahanol ryweddau, a hefyd gwahanol oedrannau, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhywiol, ymhlith ffactorau eraill)
  2. Deall y sefyllfa drwy gasglu tystiolaeth (mae hyn yn golygu deall anghydraddoldebau cyfredol mewn maes penodol, ac effaith ragamcanol y cynnig)
  3. Gofyn y cwestiynau (sensitif i rywedd) cywir
  4. Ysbrydoli newid (gan ddefnyddio’r cyfle a’r pŵer sydd ar gael i gyflawni newid)
  5. Monitro’r canlyniad (er mwyn deall a oedd y newid wedi arwain at fwy o anghydraddoldeb yn ymarferol, ac unrhyw ganlyniadau anfwriadol).

Ond ochr yn ochr ag offer systematig fel hyn, mae’n hanfodol gyrru diwylliant seneddol ehangach sy’n gwerthfawrogi ac yn blaenoriaethu cydraddoldeb.

Cynrychiolaeth rywedd y Senedd ar flaen y gad, a’i heffaith

Nid yw cyfran Aelodau etholedig y Senedd sy’n fenywod erioed wedi gostwng o dan 40%. Ac yn 2003 gwnaeth ein senedd hanes fel y corff deddfwriaethol cyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb rhywedd perffaith.

Canfu ymchwil ar effaith y cydraddoldeb hwn, bod ystyried ‘materion menywod’ yn y senedd yn dibynnu ar bwy oedd yr aelodau senedd benywaidd. Canfuwyd bod ‘hanes personol o weithredu ffeministaidd’ unigolion yn sail i ddylanwad nodedig menywod sy’n ‘hyrwyddwyr cydraddoldeb’.

Canfu hefyd fod y pwyllgor cydraddoldebau penodedig yn “fecanwaith ar gyfer ailstrwythuro dimensiynau rhywedd pŵer”, a bod “menywod yn fwy tebygol na’u cymheiriaid gwrywaidd o ddefnyddio’r mecanweithiau sefydliadol […] i hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd mewn polisi a chyfraith.” Roedd y pwyllgor hefyd yn caniatáu i actorion cymdeithas sifil sy’n gweithio ar faterion rhywedd gael mynediad at gynrychiolwyr etholedig yn barhaus.

Nid oedd gan y Senedd bwyllgor cydraddoldeb penodol rhwng 2011 a 2021, er bod cydraddoldeb wedi’i gynnwys yng nghylch gwaith pwyllgorau eraill.

Newidiodd hyn yn 2021, pan sefydlwyd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Mae ganddo’r pŵer i “ymchwilio i unrhyw faes polisi o safbwynt y materion trawsbynciol o fewn ei gylch gorchwyl, gan gynnwys[..]: cydraddoldeb a hawliau dynol, a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.” Mae hyn yn rhoi cyfle newydd, unigryw i Aelodau ddefnyddio ‘lens cydraddoldeb’ ar unrhyw fater y mae’r Senedd yn ei ystyried.

Cyflwynodd y Senedd system monitro amrywiaeth ar gyfer tystiolaeth pwyllgorau yn ddiweddar hefyd, er mwyn deall yn well pwy sy’n rhoi tystiolaeth, pwy nad ydynt yn gwneud hynny, a beth allai’r rhwystrau fod o ran cyfranogi. Nod y strategaeth gyfnewid gwybodaeth yw arallgyfeirio’r dystiolaeth ymchwil sydd ar gael i Aelodau a phwyllgorau, ac mae’r tîm ymgysylltu â dinasyddion yn casglu tystiolaeth yn uniongyrchol gan bobl sydd â phrofiadau byw amrywiol.

Mae’r gwasanaeth ymchwil mewnol yn darparu cyngor ac ymchwil arbenigol i Aelodau a phwyllgorau ar gydraddoldeb, yn cyhoeddi erthyglau ar faterion cydraddoldeb, ac yn cynnig hyfforddiant ar graffu sy’n sensitif i gydraddoldeb i staff ac Aelodau.

Y daith i’r dyfodol

Ni ellir disgrifio unrhyw senedd yn y byd fel un sy’n gwbl sensitif i rywedd eto. Ond gall Cymru fod yn falch o gyflawniadau ei senedd yn y gorffennol ac edrychwn ymlaen at gynnydd pellach yn y dyfodol.