Rydym yn falch o weld adroddiad heddiw ac argymhellion y Pwyllgor i sefydlu cwotâu rhywedd ac ehangu maint y Senedd.
Rydym wedi galw ers tro ar Gymru i gael y senedd y mae’n ei haeddu. Mae cwotâu rhywedd a chynyddu nifer aelodau’r Senedd yn hanfodol i gyrraedd y nod hwn.
“Er y gall cwotâu rhywedd ymddangos yn radical, mae tystiolaeth ryngwladol yn profi eu bod yn gweithio. Gwyddom fod materion gwahanol yn cael eu trafod a bod penderfyniadau gwell yn cael eu gwneud pan fydd menywod yn yr ystafell.
“Er i’w groesawu, rydym yn gwybod na fydd cwotâu yn unig yn trwsio’r diffyg cynrychiolaeth o fenywod, pobl o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl a grwpiau eraill o’n sefydliadau gwleidyddol. Mae angen i ni sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ac mae’n ddyletswydd ar bleidiau gwleidyddol Cymru i weithredu nawr i ddod â mwy o bobl i mewn i fyd gwleidyddiaeth.
“Mae adroddiad heddiw yn gam arall tuag at greu democratiaeth wirioneddol gynrychioliadol i Gymru. Edrychwn ymlaen at weld rhagor o fanylion am sut y bydd adroddiad y Pwyllgor yn cael ei roi ar waith ac ymgysylltu â’r broses ddeddfwriaethol dros y misoedd nesaf.
Natasha Davies
Arweinydd Polisi ac Ymchwil, Chwarae Teg