Ymateb Chwarae Teg i Ddatganiad yr Hydref

17th November 2022

Mae datganiad heddiw yn gyfle a gollwyd i greu economi sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac sy’n cefnogi menywod.

“Gyda chanlyniadau’r argyfwng costau byw yn disgyn yn anghymesur ar fenywod, mae’n anffodus bod y Canghellor wedi dewis cychwyn ar daith o galedi-ysgafn. Yn enwedig gan fod menywod a chymunedau ledled Cymru yn dal i gael trafferth gyda chanlyniadau’r rhaglen ddiwethaf o lymder. Bydd penderfyniadau’r Canghellor unwaith eto yn gweld y rhai tlotaf mewn cymdeithas yn talu am gamgymeriadau na wnaethant.

“Ni fydd cyfyngiadau arfaethedig ar wariant y sector cyhoeddus yn gwneud llawer i gefnogi ein heconomi. Bydd y mesurau hyn yn effeithio’n anghymesur ar fenywod sy’n fwy tebygol o ddefnyddio a gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan wneud mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ar sail rhywedd hyd yn oed yn fwy anodd.

“Er mwyn cwrdd â’r her economaidd bresennol a darparu economi sy’n gweithio i fenywod, roedd angen i ni weld buddsoddiad mewn pobl, sgiliau a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae cefnogi mwy o fenywod i mewn ac i symud ymlaen yn y gwaith yn ffordd hanfodol o sicrhau tegwch a thwf yn yr economi. Mae cynigion y Canghellor yn llawer is na hyn.

“Er bod ymrwymiadau i uwchraddio budd-daliadau yn unol â chwyddiant, cynyddu’r Cyflog Byw Cenedlaethol a rhai camau cychwynnol tuag at drethiant mwy blaengar ar gyfoeth i’w croesawu, mae cyfyngiadau ar wariant cyhoeddus, mwy o amodau i’r rhai ar Gredyd Cynhwysol a newidiadau i’r cap ar brisiau ynni am weld llawer o fenywod a theuluoedd heb fod yn well eu byd.

“Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ar sail rhywedd yn ei phenderfyniadau cyllidebol er mwyn cefnogi menywod yn well, a chwrdd â heriau economaidd presennol yn uniongyrchol.

Natasha Davies
Arweinydd Polisi ac Ymchwil, Chwarae Teg