Ymateb Chwarae Teg a Grŵp Cyllideb Menywod Cymru i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru

14th December 2022

Rydym yn gwerthfawrogi’r penderfyniadau anodd y mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod eu gwneud yn y broses o wneud y gyllideb ddrafft eleni, ond rydym yn credu bod mwy y gellid ei wneud i gefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn perygl oherwydd yr argyfwng costau byw.

“Ar y cyfan, rydym yn croesawu penderfyniad y llywodraeth i ganolbwyntio cefnogaeth ar wasanaethau cyhoeddus, y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw, a chefnogi’r economi trwy gyfnod heriol. Mae menywod yn fwy tebygol o gael eu cyflogi mewn gwasanaethau cyhoeddus a dibynnu arnynt, ac ar ôl deng mlynedd o galedi rydym yn gwybod bod gwasanaethau cyhoeddus eisoes wedi’u hymestyn i’r brig.

“Er ein bod yn cytuno â’r ffocws hwn, gallai fod mwy o fanylion ar sut y mae penderfyniadau cyllidebol yn mynd i effeithio ar wasanaethau ar lawr gwlad.

“Yn benodol, mae’r ffaith bod gofal plant wedi’i hepgor fel gwasanaeth cyhoeddus rheng flaen yn y gyllideb ddrafft yn siomedig. Fel llawer o sefydliadau menywod, rydym wedi tynnu sylw at y ffaith bod cost gynyddol gofal plant mewn perygl o wthio menywod allan o’r farchnad lafur. Rydym yn glir mai gofal plant am ddim i bawb yw’r uchelgais ac y dylai penderfyniadau ariannu gefnogi’r uchelgais hwn. Er ein bod yn croesawu buddsoddiadau mewn gofal plant drwy Dechrau’n Deg, dylid cyflymu buddsoddiadau i sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar gael i bob rhiant ledled Cymru.

“Yn ogystal, hoffem weld mwy o eglurder ar effaith cynlluniau gwariant y llywodraeth mewn nifer o feysydd. Nodir y risg o ddiweithdra cynyddol, ond o’r manylion sydd ar gael ar hyn o bryd nid yw’n glir sut y bydd ailflaenoriaethu’r gyllideb, pwysau chwyddiant a diwedd rhaglenni a ariennir gan yr UE yn effeithio ar gwmpas ac argaeledd cymorth cyflogadwyedd drwy 2023-24.

“Ymhellach i’r penderfyniadau ariannol sydd yn y gyllideb ddrafft, rydym yn croesawu gwelliannau i Asesiad Effaith Integredig Strategol y llywodraeth. Rydym hefyd yn falch o weld diweddariadau pellach ar y cynlluniau peilot cyllidebu ar sail rhywedd ac yn aros am werthusiadau llawn a chynlluniau i brif ffrydio offer cyllidebu ar sail rhywedd ar draws y llywodraeth mewn cyllidebau yn y dyfodol.

“Rydym yn edrych ymlaen at archwilio’r gyllideb ddrafft yn fanylach dros yr wythnosau nesaf, a pharhau i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod asesiad effaith effeithiol a dadansoddi cydraddoldeb yn rhan o brosesau’r gyllideb.

Natasha Davies
Arweinydd Polisi ac Ymchwil Chwarae Teg, wrth ymateb ar ran Chwarae Teg a Grŵp Cyllideb Menywod Cymru