Mae’r hyn rydym yn defnyddio eich gwybodaeth ar ei gyfer yn dibynnu ar pam rydych chi’n ei darparu. Byddwn yn defnyddio’ch data’n bennaf at y dibenion canlynol:
Darparu’r gwasanaethau, y cynhyrchion neu’r wybodaeth yr ydych wedi gwneud cais amdanynt
Rydym yn cynnal gwasanaethau amrywiol ar gyfer unigolion a busnesau. Bydd y gwasanaeth rydych yn ceisio cael mynediad iddo yn dibynnu ar yr hyn sy’n gweddu orau i’ch amgylchiadau chi a gellid ei ddarparu fel rhan o brosiect neu ar sail fasnachol.
Bydd mynediad i’r data hwn wedi’i gyfyngu bob amser i unigolion priodol sydd â buddiant cyfreithiol mewn darparu’r gwasanaethau hyn.
Rydym hefyd yn casglu data er mwyn i chi gymryd rhan mewn digwyddiad neu raglen, mewn perthynas â pholisi ac ymchwil, hyfforddiant a datblygu, ein prosiectau, gwirfoddoli, codi arian a gweithio gyda ni.
Os ydych yn mewngofnodi eich manylion ar un o’n ffurflenni ar-lein, ac nad ydych yn pwyso ‘anfon’ neu ‘cyflwyno’, gallwn gysylltu â chi i weld a allwn eich helpu gydag unrhyw broblemau sydd gennych o bosibl gyda’r ffurflen neu gyda’n gwefannau.
I wybod beth yw’r ffordd orau o gysylltu â chi.
Rydym yn cofnodi dewisiadau cyfathrebu er mwyn sicrhau ein bod yn cysylltu â chi yn y ffyrdd yr hoffech glywed gennym yn unig.
I gyflawni’n rhwymedigaethau fel cyflogwr
Rydym yn sicrhau bod y data a gesglir yn ystod ein proses recriwtio yn gyfreithlon ac at ddiben penodol cyflawni naill ai ein rhwymedigaethau cyfreithiol (e.e., cymhwysedd i weithio yn gwiriadau’r DU) neu i sicrhau dull teg a thryloyw o recriwtio a chysylltu ag ymgeiswyr.
Ar gyfer Gweithwyr byddwn yn casglu data ystod at ddibenion cyfreithlon, sy’n gysylltiedig â gwybodaeth sy’n ofynnol tra’n gweithio. Os byddwch yn manteisio ar fuddion y gweithwyr, rydym yn cynnig yna byddwn yn rhannu data personol penodol gyda darparwr buddion o’r fath.
I anfon Marchnata Uniongyrchol atoch
Yr unig adeg y byddwn yn cysylltu â chi gyda marchnata uniongyrchol am ein gwaith, ein gweithgareddau a’n hymgyrchoedd yw gyda’ch caniatâd penodol chi. Rydym yn ei gwneud yn hawdd i chi ddweud wrthym sut rydych am i ni gyfathrebu â chi, a’r hyn sydd o ddiddordeb i chi. Rydym yn cynnwys gwybodaeth hefyd am y ffordd o optio allan pan fyddwn yn anfon gwybodaeth farchnata atoch.
Nid ydym yn gwerthu nac yn rhannu manylion personol i drydydd parti at ddibenion marchnata. Ond o dro i dro, gallwn gynnwys gwybodaeth yn ein cyfathrebiadau gan sefydliadau partner neu sefydliadau sy’n ein cefnogi.
Os ydych yn newid eich meddwl ar unrhyw adeg, a ddim am glywed rhagor gennym, mae hynny’n iawn. Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn darparu eich data gan e-bostio [email protected]
I gadw cofnod o’ch cysylltiad â ni
Mae’n bwysig i ni fod gennym gofnodion clir am y ffordd rydych wedi’n cefnogi neu wedi cael cefnogaeth gennym yn y gorffennol. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod eich profiadau gyda Chwarae Teg y gorau y gallant fod.
Efallai y byddwn yn casglu a chadw eich gwybodaeth os ydych yn anfon adborth am ein gwasanaethau, yn ein canmol neu’n gwneud cwyn.
Deall sut gallwn wella ein gwasanaethau, ein cynhyrchion neu’n gwybodaeth.
Credwn ei bod yn bwysig sicrhau bod ein holl wasanaethau y gorau y gallant fod. Dyna pam rydym yn eu gwerthuso.
Efallai y byddwn yn cysylltu ar ôl i chi fod ar ein rhaglenni, neu gymryd rhan yn unrhyw un o’n hymgyrchoedd codi arian, efallai y byddwn yn cysylltu â’ch holi am eich profiadau gyda phob agwedd ar Chwarae Teg a gwaith ei is-gwmni masnachu. Does dim rheidrwydd i gymryd rhan, ond mae wir yn helpu i dynnu sylw at ffyrdd y gallwn ni wneud pethau’n well yn y dyfodol.
Rydym yn defnyddio technegau proffilio a sgrinio i sicrhau bod cyfathrebiadau’n berthnasol ac amserol, ac er mwyn rhoi gwell profiad. Mae proffilio yn ein galluogi i dargedu ein hadnoddau’n effeithiol hefyd.
Wrth adeiladu proffil gallwn ddadansoddi gwybodaeth ddaearyddol, demograffeg a mathau eraill o wybodaeth sy’n berthnasol i chi er mwyn deall yn well eich diddordebau a’ch dewisiadau er mwyn cysylltu â chi gyda’r cyfathrebiadau mwyaf perthnasol.
Wrth wneud hyn, gallwn ddefnyddio gwybodaeth ychwanegol o ffynonellau trydydd parti pan fydd ar gael. Mae gwybodaeth o’r fath yn cael ei chrynhoi gan ddefnyddio’r data cyhoeddus sydd ar gael arnoch chi, er enghraifft, cyfeiriadau, swyddi cyfarwyddwyr a restrir neu enillion arferol yn eich maes penodol.
Rydym yn gwneud hyn oherwydd mae’n ein galluogi i ddeall cefndir y bobl rydym yn cydweithio â nhw.