Caiff Cenedl Hyblyg2 ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Wedi’i gyflenwi gan Chwarae Teg, mae’r prosiect wedi’i ddatblygu er mwyn gwella sefyllfa menywod sy’n gweithio yn y sector preifat neu’r trydydd sector/sector gwirfoddol.

Sefydlwyd y prosiect Cenedl Hyblyg2 gan fod menywod yn dal i gael eu tangynrychioli ar lefel reoli ledled Cymru. Ei nod yw gwella’r sefyllfa hon drwy:
  • Weithio gyda menywod cyflogedig sy’n gweithio neu’n byw yng Nghymru i ddatblygu sgiliau, a hyder i symud ymlaen yn y gweithle.
  • Gweithio gyda busnesau bach a chanolig i ddatblygu recriwtio effeithiol, arferion gwaith ar gyfer cadw staff yn well a datblygu gweithlu amrywiol.
Datblygwyd y rhaglen fel ymateb uniongyrchol i gorff o dystiolaeth sy’n dangos bod angen amlwg am gymryd camau cadarnhaol er mwyn cefnogi datblygiad menywod yng Nghymru.

Mae’r dystiolaeth hon yn cynnwys:

  1. Mae ffigurau cenedlaethol yn dangos bod 8% o fenywod yn cael eu cyflogi fel rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion o’i gymharu â 11.4% o ddynion
  2. Mae menywod yn cael eu tangynrychioli mewn diwydiannau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) allweddol, yn enwedig mewn prentisiaethau a swyddi rheoli
  3. Mae ymchwil yn dangos y gallai cydraddoldeb rhywiol llawn ychwanegu £13.6 biliwn at economi Cymru erbyn 2028.
2nd Apr 2021
AN2 - Career Development for Women in Wales
Project

Byddwch yn Gyflogwr Chwarae Teg Cenedl Hyblyg2!

  • Enillwch Ddyfarniad Cyflogwr Chwarae Teg ac ewch â’ch busnes ymlaen fel cyflogwr o ddewis
  • Datblygwch weithlu amrywiol gan roi hwb i dwf a phroffidioldeb
  • Gallwch wella lefelau ymgysylltu a chynhyrchiant staff, lleihau salwch a chyfraddau gadael staff ac arbed ar gostau recriwtio
  • Datblygwch eich tîm rheoli eich hun ar arferion allweddol drwy ein gweithdai a gyllidir yn llawn

Fe gewch chi:

  • Hyd at 42 awr o ymgynghoriaeth a gweithdai rhad ac am ddim
  • Gwerth tua £4,200

Meini prawf cymhwyster:

  • Busnes bach neu ganolig wedi’i leoli yng Nghymru
  • 10 – 250 o weithwyr
  • Mwyafswm trosiant o 35M
  • Gweithio o fewn y sector preifat, y trydydd sector neu’r sector gwirfoddol

Gemma Littlejohns
Uwch Bartner Busnes

Gemma Littlejohns

Uwch Bartner Busnes

Mae Gemma yn arbenigwr profiadol yn y maes Adnoddau Dynol ac mae wedi cydweithio â 80 a mwy o fusnesau ledled y De er mwyn rhoi arferion gweithio gwell ar waith. Mae Gemma yn wych am nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithredu ac mae’n adnabyddus am ddwyn busnesau ynghyd er budd pawb. Mae’n Gemma’n brofiadol ac yn meddu ar gymwysterau yn y maes arweinyddiaeth strategol, Adnoddau Dynol a hyfforddiant, ac mae’n goruchwylio’r broses o ddarparu elfen ymgynghori’r Rhaglen Fusnes.

Amanda McNamara
Partner Cyflogwyr

Amanda McNamara

Partner Cyflogwyr

Mae Amanda yn gweithio o fewn y Tîm Busnes, gan gyflenwi rhaglenni pwrpasol ar gyfer mentrau bach a chanolig yng Nghymru. Trwy ei chyngor, hyfforddiant a dull hyfforddi, mae'n cefnogi arweinwyr busnes i adolygu eu polisïau a'u gweithdrefnau a sicrhau bod newid diwylliannol, cadarnhaol yn digwydd.

Mae Amanda yn weithiwr rheoli, adnoddau dynol strategol, hyfforddiant a chydraddoldeb proffesiynol sy’n huawdl ac yn hawdd mynd ati, sydd wedi gweithio'n helaeth gyda chleientiaid o fewn y sectorau preifat a chyhoeddus ledled y DU. Mae ganddi fwy nag ugain mlynedd o brofiad o gefnogi arweinwyr a rheolwyr i wella'r busnes ac effeithiolrwydd personol, gan ymgysylltu’n llawn â’u gweithlu, i gyflawni eu nodau strategol.

Mae ganddi wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o ddatblygu sefydliadol trwy arwain a rheoli pobl yn effeithiol. Bu'n gweithio am 20 mlynedd fel Asesydd a Chynghorydd ar gyfer y Wobr Buddsoddwyr mewn Pobl.

Bob Hicks
Partner Cyflogwyr

Bob Hicks

Partner Cyflogwyr

Mae Bob yn weithiwr adnoddau dynol proffesiynol profiadol a chymwys sydd â hanes profedig o gyflawni wrth alinio polisïau, arferion a phrosesau adnoddau dynol ag amcanion busnes yn y DU ac UDA. Mae wedi cynnal ei fusnes ei hun gyda 30 aelod o staff, ac fel Ymarferydd IIP, ac mae wedi gweithio gyda mwy na 200 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru gan addasu i nifer o arddulliau rheoli amrywiol. Mae Bob yn mwynhau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i berfformiad sefydliadau, ac fel Partner Cyflogwyr, mae wedi gwella effeithiolrwydd ym maes rheoli pobl trwy welliannau mewn amrywiaeth ar sail rhyw, recriwtio, cyfathrebu, gweithio hyblyg, dysgu a datblygu, rheoli perfformiad, a chyfraith cyflogaeth.

Caroline Mathias
Partner Datblygu Adnoddau Dynol

Caroline Mathias

Partner Datblygu Adnoddau Dynol

Mae Caroline yn gyffredinolwr Adnoddau Dynol wedi’i chymhwyso gyda’r CIPD, ac mae ganddi flynyddoedd o arbenigedd yn gweithio ym maes cydraddoldeb a chynhwysiant gyda sefydliadau o bob maint ac ar draws pob sector. Gynt yn aelod o'n Tîm Cenedl Hyblyg, lle bu'n gweithio i gefnogi cyfranogwyr ein prosiectau i weithredu gweithdrefnau newid ac arferion gorau er budd y busnes a'u pobl, mae ganddi wybodaeth ymarferol eang am bob agwedd ar reoli busnes, yn ogystal â bod yn hyfforddwr gweithredol cymwysedig.

Mae ein Partneriaid Datblygu Adnoddau Dynol yn sicrhau bod ganddynt y wybodaeth ddiweddaraf am y syniadau mwyaf cyfoes sy'n gysylltiedig â maes arweinyddiaeth, adnoddau dynol, arferion gweithio cynhwysol a chyfraith cyflogaeth. Maent yn datblygu ac yn darparu cynhyrchion pwrpasol o ansawdd er mwyn rhannu gwybodaeth am ddulliau arfer gorau sy'n cyfrannu at ddatblygiad parhaus eich sefydliad.

Gan ddarparu gwasanaethau cymorth Adnoddau Dynol sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, mae ganddynt yr ateb Cyflogwr Chwarae Teg wedi'i deilwra i chi a'ch sefydliad.

Eve Jones
Partner Cydlynu - Busnes

Eve Jones

Partner Cydlynu - Busnes

Mae gan Eve gefndir cadarn yn y meysydd lletygarwch a theithio ac mae'n rhagori wrth drefnu pobl. Mae Eve wedi bod gyda Chwarae Teg ers 2014, gan weithio mewn nifer o rolau cymorth gweinyddol yn y meysydd adnoddau dynol, TGCh, y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM), a Menywod. Mae Eve wedi bod yn ymgyfarwyddo â'i rôl newydd ers mis Mai 2020 fel un o'r Partneriaid Cydlynu ar gyfer y Rhaglen Fusnes, lle mae'n cefnogi’r gwaith o gyflwyno'r Rhaglen Fusnes hyd at fis Ebrill 2023.

Hannah Botes
Partner Cyflogwyr

Hannah Botes

Partner Cyflogwyr

Mae Hannah yn gyffredinolwr Adnoddau Dynol sydd â phrofiad o amrywiaeth o ddiwydiannau gan gynnwys; gweithgynhyrchu, argraffu, manwerthu, meddygol, gwasanaeth gyrfaoedd, ffermydd gwin, amaethyddiaeth, gwestai a lletygarwch, twristiaeth a gofal cymdeithasol. Cafodd Hannah ei magu yn Saudi Arabia, ac mae wedi gweithio yn Abu Dhabi ac yn Ne Affrica yn ogystal ag yng ngorllewin Cymru.

Mae hi'n teimlo'n angerddol ynglŷn â phobl ac adnoddau dynol, mae hi'n mwynhau ychwanegu at werth ei chleientiaid drwy gael ffocws gweithrediadol cryf ar ddatblygu pobl a chydnabod amrywiaeth fel cryfder y cwmni. Mae gan Hannah radd mewn Gweinyddu Busnes o Brifysgol Caerdydd, ac mae hi'n aelod o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu. Ei rôl yn Chwarae Teg yw helpu busnesau i ddatblygu eu strategaethau amrywiaeth drwy fesur eu harferion gwaith a diwylliant presennol y sefydliad a chreu cynllun gwaith i fynd i'r afael â diffygion, rhoi newid ar waith a gweithdrefnau arferion gorau.

Jane Griffiths
Partner Cyflogwyr

Jane Griffiths

Partner Cyflogwyr

Mae Jane yn weithiwr adnoddau dynol a dysgu a datblygu proffesiynol profiadol iawn. Gan ennill cymhwyster o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) ym 1996, mae hi wedi treulio'r 20 mlynedd a mwy diwethaf yn gweithio yn y proffesiwn adnoddau dynol. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio yn y maes adnoddau dynol ar lefel uwch ar draws nifer o ddiwydiannau ac mae ganddi hefyd brofiad llwyddiannus o weithio fel ymgynghorydd adnoddau dynol. Mae Jane wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau, yn amrywio o rhai blaengar i fusnesau bach a chanolig. Mae hi'n brofiadol iawn yn y maes rheoli perfformiad a dysgu a datblygu ac mae wedi cynllunio a chynnal nifer o raglenni arweinyddiaeth ar gyfer ystod o gleientiaid. Mae Jane yn angerddol dros ddatblygu ac ysgogi asedau pobl mewn busnes a helpu gweithwyr i fod y gorau y gallant fod. Wedi'i chymhwyso'n llawn i gynnal profion seicometrig, mae Jane yn deall sut y gall cefnogi busnesau i ddatblygu eu pobl arwain at fuddion busnes go iawn.

Laura McKeown
Partner Cydlynu - Busnes

Laura McKeown

Partner Cydlynu - Busnes

Laura yw un o’r ddau Gydgysylltydd ar gyfer Rhaglen Fusnes Cenedl Hyblyg 2, ac mae wedi gweithio i Chwarae Teg ers 9 mlynedd. Mae’n helpu’r Tîm Cyflawni a’r Swyddog Arweiniol er mwyn sicrhau y cynhelir y Rhaglen yn ddi-dor. Mae’n cynorthwyo gyda siwrne’r cleient drwy ein Systemau Rheoli Cleientiaid ac mae’n sicrhau ein bod, fel tîm, yn cydymffurfio ac yn gallu parhau i ddarparu gwasanaeth da i’r cleient a gwerth am arian i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru.

Michelle Holland
Partner Cyflogwyr

Michelle Holland

Partner Cyflogwyr

Mae Michelle yn weithiwr cyffredinol yn yr adran adnoddau dynol ac mae'n meddu ar graffter busnes cryf a chefndir cadarn o weithio gyda’r busnes ar bob lefel. Mae ganddi brofiad o weithio o fewn amrywiaeth o sectorau gwahanol. Bu'n darparu gwasanaeth adnoddau dynol a yrrir yn fasnachol, gan gynorthwyo i ddarparu mentrau a strategaethau adnoddau dynol. Mae'n datblygu datrysiadau creadigol sy'n cyfrannu mewn modd positif at y sefydliad. Bu'n chwarae rôl allweddol wrth ddarparu cyflenwad llawn o brosesau adnoddau dynol. Mae'n weithiwr proffesiynol sy'n darparu cefnogaeth gadarnhaol i gwmnïau trwy helpu i weithredu arfer gorau mewn busnesau ledled Cymru.

As a direct result of the programme Avia has added a revenue stream and enabled the growth of the business to sustain a new member of staff.

Hayley Pells
Cyfarwyddwr, Avia Sports Cars Ltd

Rydym yn hynod falch o fod wedi gweithio gyda'r tîm gwych yn Chwarae Teg, mae eu cefnogaeth drwy gydol y rhaglen wedi bod o'r radd flaenaf. Rydym hefyd yn falch iawn o fod wedi derbyn y wobr sy'n cydnabod ein hymrwymiad i deulu Glamorgan Brewing

Tyrone Pope
Cyfarwyddwr, Glamorgan Brewing