Cyflogwr Chwarae Teg - Beth rydyn ni’n ei wneud

Rydym yn rhoi cydraddoldeb, amrywiaeth ac arferion gwaith cynhwysol wrth wraidd y gwasanaethau ymgynghori a hyfforddi rydym yn eu cynnig. Nid elfennau ychwanegol mo’r rhain, ac nid ydynt yn agored i drafodaeth, dyma ffocws popeth a wneir gennym. O wella pobl, prosesu a newid meddylfryd, rydym wedi ymrwymo i adeiladu sefydliadau lle mae pawb yn bwysig, lle mae pob gweithwyr yn falch o berthyn.

Mae tri phrif faes cymorth:

FairPlay Employer Award

Adolygu a Chydnabod eich dull o gynnwys pawb yn eich gweithle.

FairPlay Employer Solutions

Eich cefnogi chi â’ch anghenion AD fel gweithle cynhwysol.

FairPlay Employer Leadership

Datblygu eich arweinwyr, Ymgorffori cynhwysiant yn niwylliant eich gweithle.

Gweithiwch gyda ni i helpu i greu byd lle gall menywod gyflawni a ffynnu; lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydynt a beth maent yn ei wneud.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni heddiw i drafod sut y gall y rhaglen fod o fudd i’ch busnes.

07428 783 874

[email protected]

FairPlay Employer - Polisi Preifatrwydd

Ein gweledigaeth: dileu anghydraddoldeb rhywedd yn y gweithle.
Gweithiwch gyda ni i helpu i greu byd lle gall menywod gyflawni a ffynnu; lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydynt a beth maent yn ei wneud.

Sefydlwyd Cyflogwr Chwarae Teg ym mis Ebrill 2020 a dyma yw cangen fasnachu a chynnig masnachol Chwarae Teg.

Mae elw o Masnachu Chwarae Teg yn cael ei ail-fuddsoddi i mewn i Chwarae Teg i gefnogi’r genhadaeth gyffredinol i ddileu anghydraddoldeb rhywedd.

Felly pan fyddwn yn eich cefnogi i greu gweithleoedd cynhwysol, rydych yn ein cefnogi i helpu menywod i gyflawni a ffynnu ac adeiladu gwell cymunedau yn eu tro.

Pwy yw Tîm Cyflogwr Chwarae Teg?

Rydym yn dîm o unigolion ymroddedig, brwdfrydig ac angerddol o ystod eang o ddisgyblaethau, o ymgynghorwyr AD, hyfforddi gyrfa, mentora ac hyfforddiant arweinyddiaeth i graffter masnachol a rheoli digwyddiadau, sy’n gweithio gyda’n gilydd i weithredu arferion gwaith cynhwysol, a datgloi talent unigolion yn eich busnes er mwyn adeiladu gweithleoedd gwell, mwy proffidiol, gan ddileu anghydraddoldebau rhywedd.

Cyfarfod â’ch tîm Cyflogwr Chwarae Teg:

Alison Dacey
Partner Cyflogwr Chwarae Teg

Alison Dacey

Partner Cyflogwr Chwarae Teg

Mae Alison yn weithiwr adnoddau dynol proffesiynol ac yn Gymrawd Siartredig o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) ac mae ganddi agwedd bragmataidd, rhagweithiol ac ymarferol ynghyd ag athroniaeth gallu gwneud. Mae ganddi brofiad sylweddol o weithio'n llwyddiannus gydag amrywiaeth o sefydliadau a phersonoliaethau, i gyflenwi gwerth a chyflawni nodau heriol.

Mae'n gyfathrebwr rhagorol, a chanddi wybodaeth helaeth am gyfraith cyflogaeth a chydraddoldeb ac amrywiaeth, ac fel Partner Cyflogwyr sy'n darparu ein Gwasanaethau Cyflogwyr Chwarae Teg, nid yw ofn herio'n adeiladol ac yn greadigol i helpu i lunio a datblygu sefydliad a chofleidio arfer gorau.

Elizabeth East
Partner Datblygu HR

Elizabeth East

Partner Datblygu HR

Mae Elizabeth yn weithiwr Adnoddau Dynol proffesiynol wedi’i chymhwyso gyda’r CIPD ac mae ganddi brofiad helaeth o'r diwydiant. Yn fwy diweddar, gan arbenigo mewn Dysgu a Datblygu, mae'n canolbwyntio ar atebion er mwyn sicrhau bod busnesau'n gallu gwerthfawrogi eu gweithlu a sicrhau canlyniadau gwirioneddol sy'n cael effaith gadarnhaol ar eu llinell waelod.

Gynt, roedd yn aelod o'n Tîm Hyfforddiant a Chymwysterau lle llwyddodd i greu a chyflwyno amrywiaeth o raglenni hyfforddi, fel:

• Hyfforddiant a Chymwysterau Arweinyddiaeth a Rheoli wedi’u hachredu gan ILM

• Hyfforddiant Rheoli Llinell, wedi’i gynllunio i gwmpasu Arferion Gweithio Cynhwysol

Mae ein Partneriaid Datblygu Adnoddau Dynol yn sicrhau bod ganddynt y wybodaeth ddiweddaraf am y syniadau mwyaf cyfoes sy'n gysylltiedig â maes arweinyddiaeth, adnoddau dynol, arferion gweithio cynhwysol a chyfraith cyflogaeth. Maent yn datblygu ac yn darparu cynhyrchion pwrpasol o ansawdd er mwyn rhannu gwybodaeth am ddulliau arfer gorau sy'n cyfrannu at ddatblygiad parhaus eich sefydliad.

Gan ddarparu gwasanaethau cymorth Adnoddau Dynol sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, mae ganddynt yr ateb Cyflogwr Chwarae Teg wedi'i deilwra i chi a'ch sefydliad.

Jessica Hannagan-Jones
Partner Cysylltiadau Cleientiaid

Jessica Hannagan-Jones

Partner Cysylltiadau Cleientiaid

Daw Jessica i Chwarae Teg o gefndir codi arian a'r celfyddydau, gan ddod â’i phrofiad creadigol er mwyn adeiladu ar ddarparu gweithdai a chyflwyniadau.

Gan weithio gyda chyflogwyr Chwarae Teg, mae Jessica yn mwynhau gweld y gwahaniaethau mawr y mae sefydliadau ar draws pob sector yn eu gwneud i frwydro yn erbyn anghydraddoldeb yng Nghymru a thu hwnt. “Mae gweld y gwaith sy'n cael ei wneud gan y sefydliadau rwy'n gweithio gyda nhw a gwybod sut mae'n gwneud gwahaniaeth yn anhygoel, dyna pam rwy'n mynd i'r gwaith!”

Yn yr hirdymor, mae Jessica yn rhannu uchelgais pawb yn Chwarae Teg, sef sicrhau cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. Mae'n gweithio gyda changen fasnachol Chwarae Teg i sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael i bawb a bod pawb yn gallu cael gafael ar gymorth, hyfforddiant a modd i ddatblygu fel sefydliad neu fel menyw sy'n symud ymlaen yn ei gyrfa ac yn yr economi.

Caroline Mathias
Partner Datblygu Adnoddau Dynol

Caroline Mathias

Partner Datblygu Adnoddau Dynol

Mae Caroline yn gyffredinolwr Adnoddau Dynol wedi’i chymhwyso gyda’r CIPD, ac mae ganddi flynyddoedd o arbenigedd yn gweithio ym maes cydraddoldeb a chynhwysiant gyda sefydliadau o bob maint ac ar draws pob sector. Gynt yn aelod o'n Tîm Cenedl Hyblyg, lle bu'n gweithio i gefnogi cyfranogwyr ein prosiectau i weithredu gweithdrefnau newid ac arferion gorau er budd y busnes a'u pobl, mae ganddi wybodaeth ymarferol eang am bob agwedd ar reoli busnes, yn ogystal â bod yn hyfforddwr gweithredol cymwysedig.

Mae ein Partneriaid Datblygu Adnoddau Dynol yn sicrhau bod ganddynt y wybodaeth ddiweddaraf am y syniadau mwyaf cyfoes sy'n gysylltiedig â maes arweinyddiaeth, adnoddau dynol, arferion gweithio cynhwysol a chyfraith cyflogaeth. Maent yn datblygu ac yn darparu cynhyrchion pwrpasol o ansawdd er mwyn rhannu gwybodaeth am ddulliau arfer gorau sy'n cyfrannu at ddatblygiad parhaus eich sefydliad.

Gan ddarparu gwasanaethau cymorth Adnoddau Dynol sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, mae ganddynt yr ateb Cyflogwr Chwarae Teg wedi'i deilwra i chi a'ch sefydliad.

Yn ogystal, cefnogir Tîm Cyflogwr Chwarae Teg gan y tîm cyfan yn Chwarae Teg er mwyn defnyddio arbenigedd ac adnoddau ychwanegol o bolisi ac ymchwil, hyfforddiant a chymwysterau ac ymgysylltu.

Cyfarfod â’r bwrdd:

Stephanie Griffiths
Cyfarwyddwr Masnachol

Stephanie Griffiths

Cyfarwyddwr Masnachol

Stephanie has strategic oversight and operational leadership of Chwarae Teg’s commercial enterprise. Responsible for planning, developing and implementing income generation and surplus raising activities based on Chwarae Teg’s goals and objectives. Stephanie has a proven record of leading from the front, managing successful sales teams for global organisations, while juggling multiple responsibilities in high pressure, targeted environments. Stephanie is passionate about equality for all and driven by positive societal changes

Liz Wilson
Cyfarwyddwr – Cyllid a Gweithrediadau

Liz Wilson

Cyfarwyddwr – Cyllid a Gweithrediadau

Mae Liz yn gymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad ar lefel cyfarwyddwr, gyda phrofiad o weithio yn y sector preifat gyda chwmnïau marchnata, TG a chyhoeddi. Mae Liz wedi gweithio yn y sector elusennol ers y 13 blynedd ddiwethaf.

Sgiliau allweddol Liz yw gwneud newidiadau strategol a gweithredol er mwyn gweithio’n glyfrach nid yn galetach! Mae ganddi’r gallu i ymdopi ag amgylcheddau a blaenoriaethau newidiol, ac yn bwysicach, gweithio a datblygu tîm amrywiol i gyflawni ein hamcanion. Mae ei phrofiad o weithio ar lefel strategol yn caniatáu i Liz helpu i lywio dyfodol Chwarae Teg.

Cerys Furlong
Prif Weithredwr

Cerys Furlong

Prif Weithredwr

Daeth Cerys i Chwarae Teg yn 2017, ar ôl treulio pymthneg mlynedd yn gweithio yn y sector addysg a sgiliau. Fel Prif Weithredwr, Cerys sy’n gyfrifol am osod cyfeiriad strategol Chwarae Teg ac estyn ein dyheadau wrth i ni ymroi i sicrhau bod Cymru’n arwain y gad ym maes cydraddoldeb rhywiol ledled y byd. Mae’n meithrin partneriaethau â busnesau a sefydliadau eraill er mwyn gwireddu ein huchelgeisiau a grymuso cydweithwyr i gyflawni eu rolau mor effeithiol â phosib, gan arwain trwy esiampl a dangos beth allwn ni ei wneud trwy gydweithio.

Alison Thorne
Sylfaenydd, atconnect

Alison Thorne

Sylfaenydd, atconnect

Mae Alison Thorne yn gyfarwyddwr anweithredol, yn ymddiriedolwr ac yn aelod pwyllgor, a hi hefyd yw sylfaenydd y cwmni datblygu busnes a phobl atconnect.

Alison yw arweinydd Cymru ar gyfer Women on Boards ar hyn o bryd, ac mae hefyd yn un o aelodau bwrdd Chwaraeon Cymru, lle y saif ar y Pwyllgor Cyllid ac Archwilio. Yn flaenorol, bu'n gyfarwyddwr anweithredol ar gyfer ymgynghoriaeth manwerthu ac mae'n ymddiriedolwr gyda'r Tropical Forest Trust (rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy).

Mae ganddi yrfa gorfforaethol ym maes manwerthu, gan gael swyddi ar fyrddau gweithredol Mothercare, George at Asda ac Otto UK a swyddi arwain yn Kingfisher a Storehouse, gan arbenigo mewn prynu, marsiandïo a chyrchu.

Mae Alison wedi bod yn ymddiriedolwr gyda Chwarae Teg ers mis Mawrth 2016 ac wedi eistedd ar y Pwyllgor Cyllid a Risg a'r Grŵp Arloesedd Masnachol. Cafodd ei phenodi'n gadeirydd ym mis Gorffennaf 2019.

Christopher Warner
Is-gyfarwyddwr – Cyfansoddiad a Chyfiawnder, Llywodraeth Cymru

Christopher Warner

Is-gyfarwyddwr – Cyfansoddiad a Chyfiawnder, Llywodraeth Cymru

Ar ôl graddio mewn Saesneg o Goleg Sant Ioan, Rhydychen, gweithiodd Christopher fel rheolwr prosiect yn gyfrifol am farchnata, cynhyrchu a dosbarthu amrywiaeth o adnoddau print ac adnoddau ar gyfer y we i ysgolion ar ran cleientiaid y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Yna, ymunodd Christopher â Llywodraeth Cymru ar Lwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil a threuliodd wyth mlynedd yn gweithio'n bennaf ar bolisi economaidd ac adfywiad a hefyd fel Uwch Ysgrifennydd Preifat i'r Dirprwy Brif Weinidog. Ar ôl pum mlynedd yng Nghomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Dychwelodd Christopher i Lywodraeth Cymru fel Dirprwy Gyfarwyddwr - Cyfansoddiad a Chyfiawnder.

Mae gan Christopher ddwy ferch ifanc ac mae’n benderfynol o adeiladu Cymru decach lle gallant gyflawni a ffynnu. Daeth Christopher yn aelod o’r bwrdd ym mis Mawrth 2016.

Robert Lamb
Cyfarwyddwr, Expectation State

Robert Lamb

Cyfarwyddwr, Expectation State

Mae Expectation State yn gweithio er mwyn cynyddu maint ac ansawdd buddsoddiadau’r sector preifat mewn gwledydd sy’n dioddef gwrthdaro. Roedd gan Robert rolau arweiniol uwch mewn cwmni buddsoddi preifat blaenllaw. Mae ganddo arbenigedd sylweddol mewn gwneud penderfyniadau ar fuddsoddiadau a chyd-drafod trefniadau masnachol, gan fod yn gyfrifol yn bersonol am gaffael a rheoli gwerth $8 biliwn a mwy o fuddsoddiad cyfalaf yn y DU, y Dwyrain Canol ac Affrica, ac mae wedi bod yn aelod gyda hawl i bleidleisio ar nifer o bwyllgorau buddsoddi.

Mae Robert yn un o Ymddiriedolwyr Tŷ Hafan, elusen gofal lliniarol pediatrig a Chymraeg yw ei famiaith.

Daeth Robert yn aelod Cyfetholedig o’r bwrdd ym mis Mehefin 2018.

FairPlay Employer Award

FairPlay Employer Award

Rhaglen arloesol i gefnogi, cysylltu a chydnabod sefydliadau sy’n arwain ar dwf cynhwysol. Cyfle i feincnodi’ch sefydliad yn erbyn rhai eraill yn eich diwydiant a’ch rhanbarth gan ddysgu pa rai yw prif feysydd eich llwyddiant a pa rai sydd angen eu datblygu a chychwyn ar daith o gefnogaeth a gwelliant dan arweiniad.

Beth am sicrhau eich Dyfarniad Cyflogwr Chwarae Teg ac ymuno â channoedd o gwmnïau ledled Cymru a’r DU ar daith o flwyddyn i flwyddyn er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhywedd yn eich busnes, ac yn sgil hynny, buddion gweithlu sy’n wirioneddol gynhwysol? Anelwch at sicrhau gwelliannau parhaus, a chydnabyddiaeth yn wobr am eich llwyddiannau.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni heddiw i drafod sut y gall y rhaglen fod o fudd i’ch busnes.

07428 783 874

[email protected]

FairPlay Employer Solutions

FairPlay Employer Solutions

Gwasanaethau ymgynghori pwrpasol sy’n grymuso sefydliadau ag arfer gorau ar gyfer twf a datblygiad cynhwysol, gan gefnogi cydraddoldeb rhywedd yn eich busnes, gan roi buddion gweithlu gwirioneddol gynhwysol i chi.

Byddwn yn teilwra ein cefnogaeth er mwyn eich helpu chi gydag unrhyw heriau penodol rydych chi’n eu hwynebu o ran amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae agor meddyliau i’r buddion a ddaw yn sgil meddwl amrywiol yn dechrau trwy fynd i’r afael â’r canlynol:

  • Rhagfarn Ddiarwybod - Cydnabod sut y gall rhagfarn ddiarwybod effeithio ar gydraddoldeb rhywedd yn y gweithle a rhoi camau ar waith i wrthsefyll hyn.
  • Recriwtio a dethol - Gellir atgyfnerthu ac ail-greu anghydraddoldebau yn anfwriadol drwy brosesau recriwtio sy’n agored i ragfarn ddiarwybod. Gallwn edrych ar eich prosesau cyfredol drwy lens rhywedd, gweithredu ffyrdd newydd o recriwtio a hyfforddi rheolwyr llinell mewn recriwtio cynhwysol.
  • Brand cyflogwr - Creu brand cyflogwr cynhwysol, a fydd yn eich cefnogi i ddod yn fwy cystadleuol; denu, ymgysylltu a chadw talent gwell a mwy amrywiol wrth wella cynhyrchiant ar yr un pryd.
  • Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd - Adolygu a datblygu eich polisïau; a yw’ch polisïau cyfredol yn ffafriol i gydraddoldeb, amrywiaeth ac yn darparu amgylchedd lle gall yr holl weithwyr fod y gorau y gallant fod?
  • Amgylcheddau gwaith cynhwysol - Darganfyddwch y buddion a’r heriau go iawn i’ch busnes o gymryd agwedd ragweithiol tuag at fyd newydd gweithio hyblyg.
  • Menopos - Merched sy’n mynd trwy’r menopos yw’r ddemograffig sy’n tyfu gyflymaf yn y gweithle. Trwy fynd i’r afael â’r mater hwn a’ch cefnogi i ddelio uniongyrhcol â hyn, gall gynorthwyo menywod i aros mewn gwaith, gwella eu hiechyd a’u llesiant gan sicrhau eich bod fel busnes yn cadw eich talent profiadol.
  • Dynion fel cynghreiriaid - Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau arferion gwaith cynhwysol; yn wrywod a benywod, rydyn ni i gyd yn elwa ond mae angen cefnogaeth arnom gan bawb yn eich sefydliadau.
  • Bwlch Cyflog ar sail Rhywedd - Darganfyddwch sut i fanteisio i’r eithaf ar eich data, ewch ymhellach nag adrodd yn unig er mwyn sicrhau eich bod yn gweld buddion y wybodaeth rydych chi’n ei chasglu er mwyn ymgorffori cydraddoldeb trwy’ch sefydliad.

Cyflwynir hyn yn y ffyrdd canlynol:

Gweithdai

Cyflwynir y rhain mewn sesiynau 2, 3 neu 4 awr; mae ein holl weithdai’n rhyngweithiol ac yn annog dysgu archwiliadol. Mae cyfranogwyr yn gadael yn meddu ar wybodaeth arfer gorau a’r gallu i gymhwyso hyn yn eu gweithle a’u rôl eu hunain.

Gweminarau

Wedi’u cynllunio er mwyn rhannu arfer gorau â’ch tîm, gan eu haddysgu ar bynciau allweddol a darparu gwybodaeth werthfawr er mwyn iddynt wella diwylliant a phrosesau mewnol.

Grwpiau ffocws

Yn cynnwys hyd at 16 o’ch staff, dan ofal ein harbenigwyr a fydd wedyn yn darparu adroddiad llawn i chi yn dadansoddi adborth staff, yn tynnu sylw at themâu allweddol ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau i gefnogi newid effeithiol.

Adolygiadau Polisi

Gellir ymgymryd â’r rhain ar wahanol lefelau a byddwn yn dadansoddi eich polisïau a’ch prosesau cyfredol ac yn darparu adborth. Mae hyn yn cynnwys ymarfer edrych yn drwyadl ar bethau drwy lens rhywedd a hynny’n tynnu sylw at welliannau posibl i brosesau a hyfforddiant yn y dyfodol.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni heddiw i drafod sut y gall y rhaglen fod o fudd i’ch busnes.

07428 783 874

[email protected]

FairPlay Employer Leadership

FairPlay Employer Leadership

Bydd cyrsiau Arweinyddiaeth Cyflogwr Chwarae Teg yn gyfle datblygu unigryw i’ch gweithwyr benywaidd a fydd yn rhoi’r sgiliau a’r hyder iddynt i’w gwneud yn arweinwyr sy’n cael eu hysgogi gan gydraddoldeb. Mae’n hollbwysig ar hyn o bryd ein bod yn parhau i fuddsoddi yn nysgu a datblygu ein harweinwyr.

Mae pob un o’n cyrsiau Arweinyddiaeth Cyflogwr Chwarae Teg wedi’u hachredu gan ILM.

Aspiring Leaders - I’r rhai sy’n symud o fod yn aelod tîm i fod yn arweinydd tîm am y tro cyntaf.

  • Menywod mewn unrhyw sector neu rôl sydd naill ai’n newydd mewn rôl rheoli neu orychwylio neu sy’n anelu at rôl o’r fath.
  • Menywod sydd eisiau meithrin eu sgiliau a’u hyder i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa.
  • Menywod nad oes ganddynt unrhyw gymhwyster blaenorol mewn arweinyddiaeth a rheolaeth ar lefel 2 neu’n uwch ar hyn o bryd
  • Menywod a fyddai’n gallu cael dyrchafiad ond sydd â diffyg hyder i ymgeisio am rolau newydd neu eu cyflawni.


Advancing Leaders - Ar gyfer arweinwyr tîm gweithredol sy’n symud i’r lefel nesaf.

  • Mae’r rhaglen hon ar gyfer menywod sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb rheoli, ond ag ychydig neu ddim hyfforddiant ffurfiol ac sydd o ddifrif ynglŷn â datblygu eu galluoedd.
  • Mae Arweinwyr sy’’n Datblygu yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn bod yn arweinwyr effeithiol, hyderus ac uchelgeisiol i arweinwyr tîm gweithredol sy’n edrych i symud i fyny i’r lefel reoli nesaf.

Evolving Leaders - Ar gyfer rheolwyr canol gweithredol neu benaethiaid adran sydd am baratoi ar gyfer uwch reolaeth.

  • Wedi’i hanelu at benaethiaid adrannau cyfredol, rheolwyr prosiect neu reolwyr canol, mae’r rhaglen Arweinwyr sy’n Esblygu yn cefnogi menywod i drawsnewid eu sgiliau meddwl a’u sgiliau arwain strategol.
  • Ar gyfer menywod sydd eisoes yn ymarfer rheolwyr canol sydd o ddifrif am adeiladu eu gyrfa ac eisiau paratoi ar gyfer uwch reolaeth.
  • Mae Arweinwyr sy’n Esblygu yn rhoi hyder ac offer i fenywod asesu eu perfformiad arweinyddiaeth, datblygu sgiliau meddwl beirniadol, cyflawni nodau sefydliadol a gwneud penderfyniadau rheoli cryf a gwybodus.

Llenwch ffurflen gais cwrs Arweinyddiaeth Cyflogwr Chwarae Teg

Cysylltwch â ni

Os nad ydych chi’n meddwl eich bod chi’n barod i lenwi’r ffurflen gais, peidiwch â phoeni. Cysylltwch â ni heddiw a gallwn drafod sut y gall y rhaglen fod o fudd i chi neu i’ch busnes.

07428 783 874 [email protected]