Lawrlwythwch eich adnoddau gan ddefnyddio’r dolenni at y dde.

Os nad ydych wedi cofrestru’n barod, gwnewch hynny yma.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae’r diwrnod hefyd yn alwad am gyflymu gwaith o sicrhau cydraddoldeb rhywedd. Mae gweithgarwch sylweddol i’w weld ledled y byd wrth i grwpiau ddod at ei gilydd i ddathlu cyflawniadau menywod neu alw am gydraddoldeb i fenywod.

Yn cael ei nodi’n flynyddol ar 8 Mawrth, mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod (IWD) yn un o ddiwrnodau pwysicaf y flwyddyn ar gyfer:

  • Dathlu llwyddiannau menywod
  • Codi ymwybyddiaeth am gydraddoldeb menywod
  • Lobïo am gyflymu cydraddoldeb rhywedd
  • Cefnogi elusennau fel Chwarae Teg i frwydro dros Gymru decach

Thema ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2023: #CofleidioCyfiawnder

Nid rhywbeth fyddai’n ddymunol yw cyfiawnder, ond rhywbeth yn mae’n rhaid ei gael. Mae angen i ffocws ar degwch rhywedd fod yn rhan o DNA pob cymdeithas. Mae cyfiawnder yn golygu creu byd teg a chyfartal.

Gall pob un ohonom fynd ati i gefnogi a chofleidio tegwch o fewn ein cylch dylanwad ein hunain. Gallwn i gyd herio stereoteipiau rhywedd, tynnu sylw at wahaniaethu a rhagfarn, a chwilio am gynhwysiant. Gweithredu ar y cyd sy’n sicrhau newid. O weithredu ar lawr gwlad i fomentwm ar raddfa eang, gall pob un ohonom gofleidio cyfiawnder.

Nid yw ymladd dros gyfiawnder rhywedd wedi’i gyfyngu i fenywod yn unig. Mae cynghreiriaid hefyd yn hynod o bwysig ar gyfer datblygiad cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, a gwleidyddol menywod.

Wrth gofleidio cyfiawnder, rydym yn cofleidio amrywiaeth, ac rydym yn cofleidio cynhwysiant. Rydym yn cofleidio cyfiawnder er mwyn creu harmoni ac undod, ac er mwyn helpu i sbarduno llwyddiant i bawb. Cydraddoldeb yw’r nod, a chyfiawnder yw’r ffordd o sicrhau hynny. Trwy gyfiawnder, gallwn gyrraedd cydraddoldeb.

Peidiwch â jest dweud. Meddyliwch, byddwch, gwnewch, gwerthfawrogwch a gwir gofleidiwch gyfiawnder yn ei holl ffurfiau.

Mae Chwarae Teg wedi ymrwymo i Gymru lle mae menywod i gyd yn cael eu cynrychioli a’u grymuso ac yn gallu ffynnu ar bob lefel yn yr economi a bywyd cyhoeddus beth bynnag fo’u cefndir neu eu statws cymdeithasol

Rydym yn ymchwilio, yn ymgyrchu ac yn cyflwyno prosiectau er mwyn sicrhau Cymru sy’n gyfartal o ran rhywedd. Crëwch newid ar gyfer cydraddoldeb rhywedd drwy roi ar ein tudalen JustGiving heddiw.

Diolch i chi am gofrestru i bartneru â Chwarae Teg y Diwrnod Rhyngwladol Menywod hwn er mwyn helpu i frwydro dros Gymru decach lle gall menywod gyflawni a ffynnu - bydd eich rhoddion i Chwarae Teg yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Athina Summerbell
Arweinydd Grantiau a chodi Arian

Athina Summerbell

Arweinydd Grantiau a chodi Arian

Mae Athina’n gweithio yn y tîm Cyflawni fel Arweinydd Grantiau a chodi Arian. Rôl Athina yw datblygu syniadau newydd ar gyfer prosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fenywod yng Nghymru a chanfod a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau tra'n meithrin perthynas gynaliadwy a chredadwy â rhanddeiliaid. Mae gan Athina gefndir sylweddol ym maes cynhyrchu incwm a datblygu prosiectau a nifer o flynyddoedd o brofiad o weithio ar brosiectau cymunedol yn y sector preifat a'r trydydd sector. Mae Athina hefyd yn rheoli’r ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol Menywod a phrosiect bathodyn Cydraddoldeb Rhywedd Girlguiding Cymru.

16th Jan 2023
Safe and Inclusive Spaces
Project