Sefydliad newydd, annibynnol, nid-er-elw yw Grŵp Cyllideb Menywod Cymru sy’n dwyn ynghyd academyddion, gwneuthurwyr polisi, rhwydweithiau menywod a meddylwyr economaidd blaenllaw.
Ei nod yw gweithio gyda’r llywodraeth a’r gymdeithas sifil er mwyn mynd ar drywydd Cymru sy’n fwy ffyniannus a chyfartal drwy sicrhau bod effaith trethiant a gwario yng Nghymru’n deg ac yn gyfartal o ran rhywedd.
Bydd yn gwneud hyn drwy:
- annog y defnydd o offerynnau cyllidebu ar sail rhywedd ym mhrosesau cyllidebu’r llywodraeth. Mae’r offerynnau hyn yn tynnu sylw at sut mae penderfyniadau ar drethiant a chyllidebau yn effeithio ar fenywod a dynion mewn ffyrdd gwahanol. Maent hefyd yn helpu i sicrhau bod polisïau economaidd a chyllidol yn chwarae rôl weithredol wrth gyflawni nodau cydraddoldeb.
- darparu dadansoddiad annibynnol o benderfyniadau gwariant a pholisi cyllidol y llywodraeth i wella prosesau gwneud penderfyniadau a chyllidebol.
- meithrin gallu ar draws y symudiad menywod yng Nghymru, er mwyn cymryd rhan mewn trafodaeth economaidd yng Nghymru, drwy hyfforddiant, digwyddiadau ac adnoddau.
- gweithredu fel pont rhwng cyrff ymchwil a’r symudiad menywod yng Nghymru. Bydd yn sicrhau bod ymchwil economaidd yng Nghymru’n darparu tystiolaeth gadarn, gan gyflwyno’r achos am newidiadau sy’n helpu menywod yng Nghymru i gyflawni eu potensial.
Mae Llywodraeth Cymru’n gwneud penderfyniadau gwario sy’n effeithio ar bob rhan o’n bywydau – addysg a sgiliau, gofal plant, gofal cymdeithasol, tai a datblygu economaidd i enwi ond ychydig. Mae’r penderfyniadau hyn yn effeithio ar fenywod, dynion a phobl anneuaidd yn wahanol. Bydd Grŵp Cyllideb Menywod Cymru’n gweithio i sicrhau bod y gwahaniaethau hyn yn cael eu hystyried gan weinidogion a swyddogion Cymru fel bod penderfyniadau gwariant yn helpu i greu Cymru sy’n gyfartal o ran rhywedd.
Mae gennym gyllid am flwyddyn i feithrin gallu ym mhedair cenedl y DU. Yng Nghymru, mae’r arian hwn yn canolbwyntio ar sefydlu Grŵp Cyllideb Menywod Cymru fel sefydliad nid-er-elw annibynnol.
Eisiau gwybod mwy?
Gallwch gymryd rhan drwy ein helpu ni i lunio dyfodol Grŵp Cyllideb Menywod Cymru. Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â’n grŵp llywio a’n pwyllgor rheoli.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i dderbyn gwybodaeth am newyddion, digwyddiadau a chyhoeddiadau yn y dyfodol, anfonwch e-bost at Rebecca Rickard, Cydlynydd y Prosiect, yn [email protected].