Meddwl am newid i yrfa mewn technoleg?
Rydym yn gweithio gyda FinTech Cymru ac mewn partneriaeth â Code First Girls a’r Brifysgol Agored i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth menywod mewn rolau technolegol a digidol ar draws y sector FinTech.
Cyrsiau technegol wedi’u hariannu’n llawn (ydyn, maen nhw am ddim!) sy’n cael eu darparu gyda rhaglen datblygu gyrfa gan Chwarae Teg i ferched sydd eisiau symud i’r diwydiant technoleg. Rhaglen Ddyfodol Newydd wedi ei hariannu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith a Chronfa Gymorth Covid-19.
Byddwch yn derbyn *
- Hyfforddiant Datblygu Gyrfa
- Hyfforddiant technegol am ddim (cyflwyno ar-lein)
- Cyfle i gwrdd â chyflogwyr
*Os oes angen help arnoch gyda chostau cludiant i fynychu digwyddiadau neu gostau gofal plant i gwblhau hyfforddiant, cysylltwch â [email protected]