Mynd i’r Afael ag Aflonyddu Rhywiol yn y Gweithle
Mae aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn ymddygiad digroeso o natur rywiol sy’n treisio urddas gweithiwr neu’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu gas. Mae’n cael ei gydnabod o dan nifer o gytundebau a deddfau rhyngwladol fel gwahaniaethu ar sail rhyw ac mae’n rhaid cael gwared ag ef wrth greu cymdeithasau a gweithleoedd sy’n gyfartal o ran rhywedd.
Mewn ymdrech pedair cenedl i gael gwared ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle ar draws y DU, mae Chwarae Teg, Fawcett Society, WRDA a Close the Gap wedi cyfuno i greu ymgyrch DU gyfan dros newid.
Mae’r prosiect, wedi’i ariannu gan gronfa her Rosa: Now’s the Time, wedi ymgymryd ag ymchwil ar sut mae cyflogwyr, rheolwyr a menywod yn gweld profiadau cyfredol o aflonyddu rhywiol ac yn nodi pum gofyniad allweddol i greu gweithle nad yw’n goddef aflonyddu rhywiol, sef diwylliant, polisi, hyfforddiant, dulliau adrodd, a’r ffordd y mae cyflogwyr yn ymateb i adroddiadau. Gellir gweld yr adroddiad llawn yma: adroddiad Fawcett.
Mae’r canfyddiadau allweddol o’r adroddiad diweddaraf yn dangos y canlynol:
- Mae o leiaf 40% o fenywod wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gweithle, ac mae menywod sy’n cael eu gwthio i’r cyrion am resymau eraill, megis hil neu anabledd, yn wynebu risg uwch a mathau gwahanol o aflonyddu rhywiol
- Mewn arolwg diweddar, adroddodd 45% o fenywod eu bod yn profi aflonyddu ar-lein trwy negeseuon rhywiol, aflonyddu seiber a galwadau rhywiol
- Dywedodd bron i chwarter o’r menywod a oedd wedi profi aflonyddu rhywiol fod yr aflonyddu wedi cynyddu neu wedi gwaethygu ers dechrau’r pandemig tra oeddent yn gweithio gartref
- Gwnaeth bron i saith ym mhob deg (68%) o fenywod anabledd adrodd cael eu haflonyddu’n rhywiol yn y gwaith, o’i gymharu â 52% o fenywod yn gyffredinol
- Gwnaeth gweithwyr o leiafrif ethnig (menywod a dynion) adrodd cyfraddau uwch (32%) o aflonyddu rhywiol na gweithwyr gwyn (28%) dros y 12 mis diwethaf
- Canfuodd pleidlais o weithwyr LHDT fod 68% wedi profi rhyw fath o aflonyddu yn y gweithle
Mae’r prosiect hefyd wedi gweithio gyda gweithwyr ledled y DU i hyrwyddo arferion gorau gwrth-aflonyddu rhywiol yn eu sefydliadau ac wedi creu adnoddau sy’n canolbwyntio ar y cyflogwr i hyrwyddo diwylliant rhagweithiol ac ymatebol.
Mae pecyn cymorth o adnoddau sy’n canolbwyntio ar y cyflogwr wedi’i greu, gan gefnogi cyflogwyr i fod yn fwy rhagweithiol yn eu hymdrechion tuag at gael gwared ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
Bydd y pecyn cymorth yn:
- Helpu cyflogwyr i ddeall beth yw aflonyddu rhywiol
- Rhoi hyder a sgiliau i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gwaith
- Datblygu polisïau gwrth-aflonyddu rhywiol annibynnol
- Creu diwylliannau sy’n rhydd o aflonyddu yn eu sefydliadau
Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys y canlynol:
- Adroddiad ar Fynd i’r Afael ag Aflonyddu Rhywiol yn y Gweithle
- Lle i ddechrau – Canllaw i gyflogwyr
- Templed arolwg hinsawdd
- Templed Polisi a Chanllawiau Aflonyddu Rhywiol
- Fideo Ymgyrch
- Templed Posteri Ymgyrch
- Posteri Ymgyrch Enghreifftiol (Heddlu De Cymru)
- Astudiaethau Achos (Cyflogwyr a Goroeswyr)
- Deunyddiau Hyfforddi Arloeswyr ASH
- Cymorth ac Arweiniad Pellach i Gyflogwyr
- Sefydliadau Cymorth a Llinellau Cymorth i Gyflogwyr
- Croestoriadedd – Canllawiau i Gyflogwyr