Mae angen enbyd am fwy o fenywod mewn swyddi arwain. Amlygodd ein Hadroddiad Cyflwr y Genedl diweddaraf ar gyfer 2020-21 y canlynol:
Mae 32% o brif weithredwyr cynghorau yn fenywod a dim ond 27% yn arweinwyr cynghorau
Er bod cynnydd yn cael ei wneud ar dargedau rhywedd, mae llawer rhy ychydig o fenywod mewn swyddi arweinyddiaeth uwch o hyd ac mae’r diffyg amrywiaeth yn parhau i fod yn syfrdanol o wael. Dim ond wyth o blith 100 cwmni gorau’r DU sydd â menywod yn brif weithredwyr, neb ohonynt yn cynnwys merched o liw.
Mae Chwarae Teg a’i bartneriaid yn cynnig cyfle cyffrous sydd â’r nod o annog mwy o fenywod i swyddi Cyfarwyddwr Anweithredol, gan ddarparu rhaglen fentora un i un, cyfleoedd cysgodi a hyfforddiant sgiliau dros 12 mis.
Bydd y cyfleoedd a hyfforddiant cysgodi i gyfarwyddwyr anweithredol yn digwydd mewn sefydliadau fel Building Communities Trust, Sport Wales, Torfaen Leisure Trust, Football Association of Wales, Citizens Advice, Cyfannol Womens Aid and Tenovus Cancer Care.
Beth rydym ni’n ei gynnig
- Mentora gan Gyfarwyddwr Anweithredol o’ch sefydliad dewisol
- Mentora/Cysgodi gan Uwchweithredwyr
- Cyfle i fynychu a chymryd rhan yng nghyfarfodydd y Bwrdd
- Hyfforddiant a gynigir i Gyfarwyddwyr Anweithredol
- Hyfforddiant rhagarweiniol a redir gan Chwarae Teg ar gyllid a llywodraethu da ar gael i chi
- Talu treuliau
- Tystysgrif ar ddiwedd y cynllun, yn crynhoi’ch llwyddiannau dysgu
Beth rydym ni’n chwilio amdano
Rydym yn chwilio am fenywod sy’n barod i ymrwymo a mynychu tua 12 o gyfarfodydd Bwrdd yn ystod cyfnod y rhaglen, mynychu digwyddiadau cynllunio strategol a’r cyfleoedd hyfforddi perthnasol a gynigir i chi.
Manyleb person
- Mae gennych ddiddordeb mewn dysgu sut i fod yn Gyfarwyddwr Anweithredol
- Mae gennych yr ysfa a’r awydd i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl
- Rydych chi’n credu mewn tegwch a chyfadraddoldeb
- Rydych chi’n frwd dros heriau newydd
- Mae gennych ffocws cadarnhaol
Applications are now closed and will reopen in July 2023 for the next round