Mae gwasanaethau cyngor ac arweiniad gyrfaoedd effeithiol yn hanfodol o ran sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r achosion sylfaenol a pharhaus sydd wrth wraidd anghydraddoldeb rhywedd yn y gymdeithas.
Mae’r gwaith ymchwil hwn yn archwilio i ba raddau y mae gwasanaethau cyngor ac arweiniad gyrfaoedd yn diwallu anghenion menywod ifanc yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod angen i wasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru wneud mwy i sicrhau bod gan fenywod ifanc yr offer angenrheidiol i wneud penderfyniadau cytbwys ynglŷn â’u haddysg a’u gyrfaoedd, ac er mwyn siapio’u dyfodol. Ar hyn o bryd, mae gormod o fenywod ifanc yn methu â chael gafael ar y gwasanaethau y mae arnyn nhw eu heisiau neu eu hangen.
Yn rhwystredig ddigon, mae llawer o ddewisiadau o ran gyrfa yn cael eu siapio gan stereoteipiau sy’n seiliedig ar rywedd. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos y rhai a ddaw o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, ac mae’n factor pwysig ym mharhad arwahanu ar sail rhywedd a welir mewn gweithleoedd. Er mwyn ymdrin ag anghydraddoldeb rhywedd, rhaid i ni sicrhau bod menywod ifanc yn cael y cyngor a’r arweiniad gorau ar gyfer eu gyrfaoedd, a hynny ar yr adeg iawn.
Er bod gan Gymru rwydwaith cryf o weithwyr proffesiynol a darparwyr gwasanaethau gyrfaoedd sy’n danbaid dros gynnig cyngor gyrfaoedd da, mae toriadau cyllid wedi ei gwneud hi’n anodd iawn darparu’r cymorth y mae menywod ifanc ei angen.
Yn yr adroddiad hwn, nodwn nifer o gamau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyngor gyrfaoedd er mwyn cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau a fydd yn cynorthwyo holl fenywod ifanc Cymru.