Disglair: Dyheadau Gyrfa Menywod Ifanc

1st October 2018

Ers sefydlu Chwarae Teg ym 1992, mae llawer o gynnydd wedi’i wneud ym maes cydraddoldeb rhywiol. Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, mae anghydraddoldeb rhywiol yn dal i fod yn broblem mewn bywyd cyhoeddus ac yn y byd gwaith. Mae menywod yn dal i gael eu tangynrychioli mewn diwydiannau STEM; mae menywod yn dal i ennill llai na dynion ac, os bydd y cynnydd yn parhau ar yr un cyflymder, bydd hi’n cymryd 62 o flynyddoedd i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae ein hymchwil diweddar i Ganfyddiad Dynion o Gydraddoldeb Rhywiol wedi dangos bod menywod yn dal i gael eu hystyried fel y prif ofalwyr ac mai menywod sydd yn y mwyafrif mewn swyddi rhan-amser a chyflog isel.

Ni all Cymru fforddio’r anghydraddoldeb hwn. Mae ymchwil wedi awgrymu y gall cydraddoldeb rhywiol sbarduno twf economaidd, gyda McKinsey and Co yn amcangyfrif y gallai cau bylchau rhwng y rhywiau ychwanegu £150 biliwn at GDP y DU erbyn 2025. Felly, rhaid i lywodraeth, addysgwyr a busnesau roi blaenoriaeth i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu menywod a sicrhau bod menywod ifanc yn cael cymorth i gychwyn gyrfaoedd llwyddiannus a chamu ymlaen yn y gyrfaoedd hynny.

Mae natur y gwaith a’r sgiliau sy’n ofynnol gan y gweithlu yn esblygu, ac mae llawer o sectorau y rhagwelwyd y byddan nhw’n tyfu yn adrodd ar fylchau mewn sgiliau yn barod. Mae llawer o’r sectorau hyn yn nodi hefyd nad oes yw menywod yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn eu gweithluoedd. Rhaid i bolisi cyhoeddus ymateb i’r newid hwn a pharatoi ar gyfer anghenion y dyfodol, gan sicrhau bod gan bobl ifanc y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu.

Nod yr ymchwil hwn yw archwilio’r disgwyliadau a’r syniadau sydd gan bobl ifanc, ac mae’n rhoi cipolwg ar sut mae menywod ifanc yng Nghymru yn gweld datblygiad eu gyrfaoedd. Mae’n amlinellu blaenoriaethau ar gyfer y gwaith a’r sectorau mae menywod yn eu dewis, mae’n amlygu eu pryderon am yr heriau sy’n eu hwynebu o ran cyflawni eu nodau ac mae’n codi cwestiynau am y cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i helpu menywod ifanc i lywio eu dewisiadau gyrfa. Mae’n nodi hefyd amryw o gamau y bydd angen eu cymryd i oresgyn yr heriau sy’n wynebu menywod ifanc wrth iddyn nhw geisio mynd ati i ffynnu yn y gyrfaoedd gwerth chweil maen nhw’n awyddus i’w cael.

Adroddiad llawn

Crynodeb