Mae’n rhaid i’r cwestiwn o waith boddhaol fod wrth wraidd trafodaethau ar gydraddoldeb rhywiol. Mae menywod yn parhau i wynebu anfantais yn y gweithle ac yn fwy tebygol o fod mewn gwaith ansicr â thâl gwael, sy’n cynnig ychydig iawn o gyfle i wneud cynnydd mewn gyrfa. Mae’r sectorau hynny sy’n fwy tebygol o gynnig gwaith o ansawdd gwael, megis gofal a manwerthu, yn fwy tebygol o gyflogi menywod hefyd.
Mae menywod yn teimlo cost yr anfantais hon, ac hefyd yr economi ehangach.
Felly, roedd Chwarae Teg yn falch o baratoi’r adroddiad hwn ar ran Oxfam Cymru yn ystod 2017. Mae cyd-destun y drafodaeth hon yng Nghymru wedi newid ychydig ers i’r adroddiad a’r argymhellion gael eu hysgrifennu. Mae cynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru wedi cael ei gyhoeddi, sy’n cynnwys ffocws ar sicrhau twf cynhwysol, sydd i’w groesawu. Yn benodol, mae gofal a bwyd a diod yn cael eu cynnwys fel sectorau sylfaenol allweddol a fydd yn elwa o gymorth a buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys camau i wella cynnydd mewn gyrfa yn eu plith.
Mae’r Bwrdd Gwaith Teg wedi’i sefydlu a Chadeirydd wedi’i benodi, ac fe’i gwnaed yn glir y bydd y Bwrdd yn gyfrifol am edrych ar faterion fel y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, yn ogystal â’r agenda gwaith teg ehangach.
Yn y cyd-destun hwn mae canfyddiadau’r adroddiad hwn, a’r adroddiadau eraill yn y gyfres hon o astudiaethau, yn bwysicach fyth. Mae’n rhaid i sicrhau gwaith boddhaol neu deg i bawb barhau i fod yn flaenoriaeth uchel i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn ffynnu mewn gwirionedd. Rhaid i’r trafodaethau hyn gynnwys lens rhyw bob amser, er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb economaidd parhaus a wynebir gan fenywod ledled Cymru a sicrhau bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau’n rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol.