|
Beth rydyn ni'n ei wneud
Mae nifer o fenywod Cymru yn wynebu rhwystrau
ac ni roddir yr un cyfle iddyn nhw ag a gaiff dynion yn yr
un sefyllfa. Ymysg y rhwystrau hyn ceir stereoteipiau, camwahaniaethu,
bwlch cyflog a diffyg gofal rhesymol ei bris i blant a’r
henoed.
Mae Chwarae Teg yn cynllunio ac yn rheoli prosiectau
sy’n
helpu menywod i oresgyn y rhwystrau hyn a chwarae rôl
fwy yn economi Cymru. Mae’r arbenigedd o fewn y mudiad
mewn meysydd megis sgiliau, addysg a gofal plant ar gael
i fusnesau Cymru am ffi ymgynghori.
Mae’r mudiad yn
comisiynu gwaith ymchwil er mwyn deall y sefyllfa bresennol
yng Nghymru yn well. Mae’n canfod
ffyrdd o fynd i’r afael â’r materion hyn
cyn gwneud argymhellion i helpu cyrff eraill i weithredu er
mwyn hyrwyddo cydraddoldeb.
Agwedd bwysig iawn arall ar waith
Chwarae Teg yw codi ymwybyddiaeth ynghylch materion cydraddoldeb
ymysg llunwyr polisïau,
pobl ifanc, llunwyr barn ac addysgwyr er mwyn sicrhau bod pawb
yn gwybod am y materion cyfredol a’r themâu newydd.
Mae
disgrifiad llawn o brosiectau presennol ar gael trwy ymweld â’r
adran Prif Themâu.
Amdanom ni | Prif
themau | Newyddion
a digwyddiadau | Ymchwil | Aelodaeth | Swyddfeydd | Cysylltwch â ni | Map
y wefan | Swyddi
Hafan | English
|
|
Canllawiau Gofal Plant i Gyflogwyr |
Lansio Adnodd Newydd i Hyrwyddo Manteision Busnes Darpariaeth Gofal Plant.
Date: 01/11/2003
Location:
Cliciwch yma am fanylion pellach
|
|
Beth Sy'n Newydd |
Prosiect Newydd - Ready SET Go... Annog mwy o ferched i feysydd anhraddodiadol o hyffordiant a chyflogaeth. Gweithio gyda phartneriaid, cyflogwyr, addysgwyr ac ymgynghorwyr i leihau stereoteipio yn ol rhyw. Am mwy o wybodaeth cysylltwch a thim Ready SET Go ar 01267 232434
Cliciwch yma am fanylion pellach
| |
Beth Sy'n Newydd |
Mae Grwp Cyllidebu ar Sail Rhyw Cymru yn lawnsio cyhoeddiad newydd, y bwriad yw tynnu i ffwrdd y 'stigma' sydd o gwmpas cyllideb rhyw.
Cliciwch yma am fanylion pellach
| |
Beth Sy'n Newydd |
Beth sydd ymlaen Edrychwch ar ein calendr digwyddiadau i weld pa gyrsiau hyfforddi a gweithgareddau sydd ar y gweill. Ffoniwch yn rhad ac am ddim ar 0800 052 2255 i siarad ag aelod o'ch tîm lleol
| |
Beth Sy'n Newydd |
Ein nôd ni fel cwmni yw i adnabod, mesur a helpu i ddelio a’r mater o fwlch cyflog yng Nghymru ac i rannu modelau arfer da trwy gydol Cymru, Prydain ac Ewrop. Am mwy o fanylion cysylltwch a 01248 670111
Cliciwch yma am fanylion pellach
| |
|