Gofal
Gofal Teulu
Trwy hyrwyddo datblygiad economaidd
menywod yng Nghymru, mae cryn dipyn o waith Chwarae Teg yn
canolbwyntio ar gael gwared â’r
rhwystrau sy’n atal menywod rhag datblygu hyd eithaf
eu gallu yn eu gyrfa.
Un o’r rhwystrau mwyaf arwyddocaol yw mai menywod yw’r
mwyafrif sy’n dal i ofalu am blant ac oedolion dibynnol
a hynny yn ddi-dâl. Golyga hyn y bydd menywod yn parhau
i gael trafferth cael gwaith neu ei gadw oni bai bod darpariaeth
gofal ddigonol, o safon dda y gellir ei fforddio ar gael. Mae’n
bwysig cofio hefyd, unwaith y bydd menywod yn gweithio, bod
cyflogwyr yn arddel arferion gweithio hyblyg ac yn ystyried
materion gofal er mwyn galluogi’r bobl hynny i fod yn
hapus yn eu gwaith ac i ddatblygu yr yrfa o’u dewis.
Yn ddiweddar rydym wedi cynnal gwaith ymchwil
pwysig ar effaith economaidd gofal yng Nghymru. Mae copi o
grynodeb gweithredol
y gwaith ymchwil hwn ar gael trwy glicio ar y ddolen isod.
Dadlau
o Blaid Gofal (Mawrth 2003)
I
islwytho Crynodeb Gweithredol o’r gwaith
ymchwil cliciwch
yma
Gofal Plant
Mae Chwarae Teg wedi ymchwilio cryn
dipyn i’r ddarpariaeth
gofal plant yng Nghymru, ac wedi llunio sawl cyhoeddiad sydd
wedi ei anelu at gyflogwyr, gweithwyr a phobl sy’n dymuno
dechrau busnes gofal plant. Gellir dadlwytho ein cyhoeddiadau
mwyaf diweddar trwy glicio ar y dolenni isod neu trwy gysylltu â’n
swyddfa genedlaethol. Rydym hefyd wedi bod yn ymwneud â phrosiectau
peilot gofal plant, ac rydym yn gweithio’n agos gyda
phartneriaethau gofal plant lleol er mwyn bwrw ymlaen â’r
agenda gofal plant yng Nghymru.
Gofal i Oedolion/Pobl Ddibynnol
Mae Chwarae Teg
wedi gweithio gyda sefydliadau partner i nodi ac archwilio
materion sy’n ymwneud â’r rhwystrau
sy’n atal y sawl sy’n gofalu am oedolion neu bobl
ddibynnol oedrannus rhag cael gwaith. Mae’r cyhoeddiad
Gofal Gwell Busnes Gwell yn tynnu sylw at rai o’r materion
hyn ac yn edrych ar sut y gall cyflogwyr wella eu polisïau
yn y gweithle ar gyfer gofalwyr. Rydym hefyd yn ymwneud â chynlluniau
peilot sy’n cefnogi gofalwyr yn y gwaith.
Gofalwyr
plant ag anableddau
Yn ei ddogfen ymchwil Dadlau o Blaid
Gofal (Mawrth 2003), cydnabu Chwarae Teg y gallai’r materion ar gyfer gofalwyr
plant anabl, y rhai sy’n gweithio a’r rhai nad
ydynt yn gweithio, fod yn aml yn llawer mwy difrifol a bod
angen rhoi mwy o ystyriaeth iddynt. Byddwn yn gweithio gyda
chyflogwyr a sefydliadau partner i archwilio’r materion
hyn a datblygu syniadau er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau
rhag gweithio.
Amdanom ni | Prif
themau | Newyddion
a digwyddiadau | Ymchwil | Aelodaeth | Swyddfeydd | Cysylltwch â ni | Map
y wefan | Swyddi
Hafan | English
|