|
Addysg a sgiliau
Mae addysg a datblygu sgiliau
yn cynnig cyfle gwych i greu newid yng Nghymru. Trwy roi
cyfle i fenywod sydd wedi’u
heithrio o fyd gwaith ddysgu sgiliau newydd, chwarae rolau
gwahanol a dringo ysgol gyrfa, byddai rhan enfawr o’r
boblogaeth yn weithgar yn economi Cymru am y tro cyntaf.
Mewn
cydweithrediad â phwyllgor Addysg a Dysgu Gydol
Oes y Cynulliad Cenedlaethol, Cyngor Cenedlaethol - ELWa
a llu o gyrff eraill, mae Chwarae Teg yn helpu i chwalu’r
rhwystrau sy’n wynebu menywod sydd eisiau datblygu’u
sgiliau a chael gafael ar gyfleoedd hyfforddi a gwaith.
Mae
rhwystrau megis darpariaeth gofal plant annigonol, amserlenni
nad ydynt yn deg i’r teulu, cludiant a chostau yn esbonio
pam na all llawer o fenywod fynychu nifer o gyrsiau hyfforddi.
Mae Chwarae Teg yn ymgyrchu ar ran y sawl sydd wedi’u
heithrio o fyd addysg ac yn codi proffil y materion hyn gyda’r
bobl a all wneud gwahaniaeth.
Trwy gyfrannu i’r broses benderfynu, gall Chwarae Teg
ymgyrchu dros gydraddoldeb yng nghamau cyntaf y broses gynllunio
a herio’r stereoteipiau sy’n ffurfio ym meddyliau
plant o oed cynnar.
Trwy gomisiynu gwaith ymchwil ac adeiladu
partneriaethau gyda chyrff diwydiant pwysig, mae Chwarae
Teg yn codi proffil yr
anghydraddoldebau sy’n bodoli ym maes addysg a hyfforddiant
ac yn sicrhau bod llunwyr barn a llunwyr penderfyniadau yn
gwbl ymwybodol o’r ffeithiau a’u bod yn barod i
newid a hyrwyddo cydraddoldeb mewn addysg i bawb.
Linciau Defnyddiol
ELWa
Gyrfa Cymru
Amdanom ni | Prif
themau | Newyddion
a digwyddiadau | Ymchwil | Aelodaeth | Swyddfeydd | Cysylltwch â ni | Map
y wefan | Swyddi
Hafan | English
|
|
Canllawiau Gofal Plant i Gyflogwyr |
Lansio Adnodd Newydd i Hyrwyddo Manteision Busnes Darpariaeth Gofal Plant.
Date: 01/11/2003
Location:
Cliciwch yma am fanylion pellach
|
|
Beth Sy'n Newydd |
Prosiect Newydd - Ready SET Go... Annog mwy o ferched i feysydd anhraddodiadol o hyffordiant a chyflogaeth. Gweithio gyda phartneriaid, cyflogwyr, addysgwyr ac ymgynghorwyr i leihau stereoteipio yn ol rhyw. Am mwy o wybodaeth cysylltwch a thim Ready SET Go ar 01267 232434
Cliciwch yma am fanylion pellach
| |
Beth Sy'n Newydd |
Mae Grwp Cyllidebu ar Sail Rhyw Cymru yn lawnsio cyhoeddiad newydd, y bwriad yw tynnu i ffwrdd y 'stigma' sydd o gwmpas cyllideb rhyw.
Cliciwch yma am fanylion pellach
| |
Beth Sy'n Newydd |
Beth sydd ymlaen Edrychwch ar ein calendr digwyddiadau i weld pa gyrsiau hyfforddi a gweithgareddau sydd ar y gweill. Ffoniwch yn rhad ac am ddim ar 0800 052 2255 i siarad ag aelod o'ch tîm lleol
| |
Beth Sy'n Newydd |
Ein nôd ni fel cwmni yw i adnabod, mesur a helpu i ddelio a’r mater o fwlch cyflog yng Nghymru ac i rannu modelau arfer da trwy gydol Cymru, Prydain ac Ewrop. Am mwy o fanylion cysylltwch a 01248 670111
Cliciwch yma am fanylion pellach
| |
|