CHWILIO:
geiriau cymal
 

Cyflogaeth

Os gall menywod weithio ar yr un lefel gyfartal â dynion sy’n gydweithwyr iddynt, yna mae’n hanfodol cynllunio polisïau ac arferion gwaith er mwyn sicrhau bod cydbwyso cyfrifoldebau gwaith a theulu mor rhwydd ag y bo modd.

Fel y prif sefydliad i hyrwyddo datblygiad economaidd menywod yng Nghymru, mae sbarduno newid mewn polisïau gwaith wastad wedi bod yn brif elfen yn ein cynllun busnes.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi mynd i’r afael â rhywfaint o faterion allweddol -

  • Cyflwyno trefniadau gweithio hyblyg - yn enwedig yn y sector cyhoeddus.
  • Cynyddu darpariaeth gofal plant o safon y gellir ei fforddio ac sydd ar gael yn rhwydd trwy godi ymwybyddiaeth ynghylch anghenion a chynnig adnoddau a chyllid.
  • Cynyddu nifer y menywod a benodir i rolau lle gwneir penderfyniadau.
  • Datblygu polisïau cyfle cyfartal gyda Busnesau Bach a Chanolig eu Maint ar draws yr holl sectorau, gan dynnu sylw at fanteision a hybu arferion gorau.
  • Herio canfyddiadau stereotypaidd ynghylch dewisiadau gyrfa a recriwtio a dethol.
  • Hybu a chefnogi menywod i ddechrau eu busnesau eu hunain trwy brosiectau Menter Menywod Cymru a Menter Rhieni Sengl.

Gwelwyd rhai newidiadau positif o ganlyniad i’r rhain ond pery nifer o faterion y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt.

Mae Chwarae Teg yn parhau i ennyn newid trwy:

1. Weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gynllun Cydbwyso Bywyd a Gwaith yn ogystal â phrosiect peilot gyda sefydliadau mawr yn y sector cyhoeddus a’r Gronfa Her ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig eu Maint.

2. Datblygu'r cynllun Partneriaeth mewn Gwaith, i hyrwyddo gwella busnes trwy ddenu gweithwyr i gyfranogi.

3. Codi ymwybyddiaeth ynghylch materion allweddol gan gynnwys deddfwriaeth newydd - DU ac Ewrop.

4. Datblygu argymhellion a wnaed gennym ni yn yr Astudiaeth Cwmpasu Gofal a baratowyd ar gyfer y Cynulliad.

5. Parhau â’r gwaith ar ddau brosiect Menter sy’n rhan o’r Cynllun Gweithredu Entrepreneuriaeth.

Linciau Defnyddiol

Safle We Cydbwysedd Bywyd a Gwaith
TUC Cymru
TUC
ACAS

Amdanom ni | Prif themau | Newyddion a digwyddiadau | Ymchwil | Aelodaeth | Swyddfeydd | Cysylltwch â ni | Map y wefan | Swyddi

Hafan | English

 

 


Canllawiau Gofal Plant i Gyflogwyr

Lansio Adnodd Newydd i Hyrwyddo Manteision Busnes Darpariaeth Gofal Plant.

Date: 01/11/2003
Location:

Cliciwch yma am fanylion pellach

Mae'n bleser gan Chwarae Teg gael ei anrhydeddu gan ddwy brif wobr

Gwobr Val Feld y Western Mail - am gyfraniad aruthrol i hyrwyddo rol menywod ym mywyd Cymru. Gwobr Flaenllaw Prowess - i gydnabod ein arferion a gwaith datblygu menter gyda menywod.

Date: 29/03/2005
Location:

Cliciwch yma am fanylion pellach

Beth Sy'n Newydd

Edrychwch ar ein calendr digwyddiadau i weld pa gyrsiau hyfforddi a gweithgareddau sydd ar y gweill. Ffoniwch yn rhad ac am ddim ar 0800 052 2255 i siarad ag aelod o'ch tîm lleol

 
Beth Sy'n Newydd

Ein nôd ni fel cwmni yw i adnabod, mesur a helpu i ddelio a’r mater o fwlch cyflog yng Nghymru ac i rannu modelau arfer da trwy gydol Cymru, Prydain ac Ewrop. Am mwy o fanylion cysylltwch a 01248 670111

Cliciwch yma am fanylion pellach

 
Beth Sy'n Newydd

Mae Grwp Cyllidebu ar Sail Rhyw Cymru yn lawnsio cyhoeddiad newydd, y bwriad yw tynnu i ffwrdd y 'stigma' sydd o gwmpas cyllideb rhyw.

Cliciwch yma am fanylion pellach

 
Islwythwch
Am fwy o wybodaeth ar Gydbwyso Bywyd Gwaith cliciwch yma.

Noder os gwelwch yn dda: dogfen ddwyieithog
dylunio a lletya
WiSS Ltd 2005