|
Mentergarwch
Mae Chwarae Teg wedi ymrwymo i annog menywod
i ystyried dechrau eu busnes eu hunain drwy Fenter Menywod
Cymru a Menter Rhieni
Sengl sy’n rhan o’r prosiect Potentia. Caiff
y mentrau hyn eu cyllido ar y cyd gan Awdurdod Datblygu Cymru
a chronfeydd strwythurol Ewrop, ac maent yn rhan annatod
o'r Cynllun Gweithredu Menter ar gyfer Cymru. Maent yn darparu
cefnogaeth ac arweiniad drwy weithdai, sesiynau cwnsela a
chyfleoedd rhwydweithio o Fôn i Fynwy.
Yn sail i'r ymrwymiad hwn i fenywod mewn menter,
mae Chwarae Teg hefyd yn cadeirio ac yn rheoli Gweithgor Menter
Merched
Cymru Gyfan. Wedi’i sefydlu ym 1995, mae’r Gweithgor
yn cynnwys cynrychiolwyr o asiantaethau a mudiadau amrywiol
ledled Cymru sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau
i gefnogi dechrau busnesau a datblygu busnesau a dyma’r
ysbrydoliaeth y tu ôl i brosiect Menter Menywod Cymru.
Nod cyffredinol y Gweithgor a gafodd ei ail-lansio ym mis Tachwedd
2002, yw lledaenu a chyfnewid arfer da ym maes menter menywod,
codi proffil menywod sy’n mentro a hybu a hyrwyddo datblygiad
gweithgareddau menter ar gyfer menywod.
Cysylltwch â Gweinyddydd Prosiect Menter,
Chwarae Teg, 02920 478926, [email protected] i gael rhagor
o fanylion.
Linciau Defnyddiol
Prowess
Amdanom ni | Prif
themau | Newyddion
a digwyddiadau | Ymchwil | Aelodaeth | Swyddfeydd | Cysylltwch â ni | Map
y wefan | Swyddi
Hafan | English
|
|
Canllawiau Gofal Plant i Gyflogwyr |
Lansio Adnodd Newydd i Hyrwyddo Manteision Busnes Darpariaeth Gofal Plant.
Date: 01/11/2003
Location:
Cliciwch yma am fanylion pellach
|
Mae'n bleser gan Chwarae Teg gael ei anrhydeddu gan ddwy brif wobr |
Gwobr Val Feld y Western Mail - am gyfraniad aruthrol i hyrwyddo rol menywod ym mywyd Cymru. Gwobr Flaenllaw Prowess - i gydnabod ein arferion a gwaith datblygu menter gyda menywod.
Date: 29/03/2005
Location:
Cliciwch yma am fanylion pellach
|
|
Beth Sy'n Newydd |
Edrychwch ar ein calendr digwyddiadau i weld pa gyrsiau hyfforddi a gweithgareddau sydd ar y gweill. Ffoniwch yn rhad ac am ddim ar 0800 052 2255 i siarad ag aelod o'ch tîm lleol
| |
Beth Sy'n Newydd |
Ein nôd ni fel cwmni yw i adnabod, mesur a helpu i ddelio a’r mater o fwlch cyflog yng Nghymru ac i rannu modelau arfer da trwy gydol Cymru, Prydain ac Ewrop. Am mwy o fanylion cysylltwch a 01248 670111
Cliciwch yma am fanylion pellach
| |
Beth Sy'n Newydd |
Mae Grwp Cyllidebu ar Sail Rhyw Cymru yn lawnsio cyhoeddiad newydd, y bwriad yw tynnu i ffwrdd y 'stigma' sydd o gwmpas cyllideb rhyw.
Cliciwch yma am fanylion pellach
| |
|