CHWILIO:
geiriau cymal
 

Gwaith Chwarae Teg gyda Chronfeydd Strwythurol Ewropeaidd

Mae Chwarae Teg yn chwarae rhan weithgar yn natblygiad Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd a Mentrau Cymunedol yng Nghymru trwy sicrhau bod cydraddoldeb yn parhau i fod ar frig yr agenda.

Gan weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau cydraddoldeb blaengar eraill a swyddogion Rhaglenni Ewropeaidd yng Nghymru, rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd o’r Bartneriaeth Cydraddoldeb Ewropeaidd, sy’n lobïo dros arferion cydraddoldeb da yn y Cronfeydd Strwythurol.

Prif swyddogaethau’r bartneriaeth hon yw:

  • Dylanwadu ar ddatblygu cynnwys dogfennau’r Rhaglen ar gydraddoldeb
  • Eistedd fel ymgynghorwyr ar Bwyllgorau Monitro Rhaglen / Byrddau Rheoli
  • Ysgogi cydbwysedd rhwng y rhywiau ar Bwyllgorau Cyllid Ewropeaidd

Cydnabu’r Comisiwn Ewropeaidd bod ein gwaith yn rhagorol ac mae’r ddogfen INTERREG yn cael ei dosbarthu’n awr i’r gwledydd newydd. I weld dogfennau’r Rhaglen, ynghyd â dogfennau INTERREG a CHYDRADDOLDEB, ymwelwch â gwefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Mae gwaith arall Chwarae Teg yn y maes hwn yn cynnwys

  • Hyfforddi aseswyr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, swyddogion Ewrop a swyddogion cydraddoldeb yr awdurdodau lleol, ac ymgynghorwyr y sector gwirfoddol yn Ewrop.
  • Ysgrifennu dwy set o ganllawiau ynghylch cydraddoldeb, sy’n esbonio sut dylai prosiectau fynd i’r afael â phrif-ffrydio cydraddoldeb mewn perthynas â’r Cronfeydd Strwythurol ac yn dangos sut dylai aseswyr ac ymgeiswyr ystyried cydraddoldeb mewn ceisiadau. Cliciwch yma am gopi o’r canllawiau.
  • Gweithio’n agos gydag Uned Cydraddoldeb y Ddau Ryw dan Gynllun Datblygu Cenedlaethol yr Adran Gyfiawnder, Iwerddon i roi cymorth hyfforddiant ac i annog arferion da.
  • Rheoli e-rwydwaith ar gyfer arbenigwyr ac ymarferwyr cydraddoldeb mewn Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ledled y DU ac Iwerddon, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac Uned Cydraddoldeb y Ddau Ryw yr NDP. Cysylltwch â Chwarae Teg os hoffech chi ymuno â’r rhwydwaith.
  • Helpu i sefydlu grwp cyllidebu’r ddau ryw yng Nghymru - cysylltwch â'r Comisiwn Cyfle Cyfartal am ragor o fanylion
  • Cyflwyno papurau ar brif-ffrydio cydraddoldeb mewn cynadleddau fel aelodau o Rwydwaith Anffurfiol Menywod ar Gyngor Ewrop.

 

Amdanom ni | Prif themau | Newyddion a digwyddiadau | Ymchwil | Aelodaeth | Swyddfeydd | Cysylltwch â ni | Map y wefan | Swyddi

Hafan | English

 

 



Canllawiau Gofal Plant i Gyflogwyr

Lansio Adnodd Newydd i Hyrwyddo Manteision Busnes Darpariaeth Gofal Plant.

Date: 01/11/2003
Location:

Cliciwch yma am fanylion pellach

Beth Sy'n Newydd

Prosiect Newydd - Ready SET Go...
Annog mwy o ferched i feysydd anhraddodiadol o hyffordiant a chyflogaeth.
Gweithio gyda phartneriaid, cyflogwyr, addysgwyr ac ymgynghorwyr i leihau stereoteipio yn ol rhyw.
Am mwy o wybodaeth cysylltwch a thim Ready SET Go ar 01267 232434

Cliciwch yma am fanylion pellach

 
Beth Sy'n Newydd

Mae Grwp Cyllidebu ar Sail Rhyw Cymru yn lawnsio cyhoeddiad newydd, y bwriad yw tynnu i ffwrdd y 'stigma' sydd o gwmpas cyllideb rhyw.

Cliciwch yma am fanylion pellach

 
Beth Sy'n Newydd

Beth sydd ymlaen

Edrychwch ar ein calendr digwyddiadau i weld pa gyrsiau hyfforddi a gweithgareddau sydd ar y gweill. Ffoniwch yn rhad ac am ddim ar 0800 052 2255 i siarad ag aelod o'ch tîm lleol

 
Beth Sy'n Newydd

Ein nôd ni fel cwmni yw i adnabod, mesur a helpu i ddelio a’r mater o fwlch cyflog yng Nghymru ac i rannu modelau arfer da trwy gydol Cymru, Prydain ac Ewrop. Am mwy o fanylion cysylltwch a 01248 670111

Cliciwch yma am fanylion pellach

 
dylunio a lletya
WiSS Ltd 2005