|
Aelodaeth - Ymunwch â ni!
Os oes gennych ddiddordeb mewn hybu datblygiad
economaidd merched yng Nghymru, pam na ymunwch chi â Chwarae
Teg.
Dyma rai o fanteision bod yn aelod o Chwarae
Teg.
- Cysylltiad ag asiantaeth datblygu economaidd merched
yng Nghymru.
- Llais yn y broses llunio polisi ym
maes datblygu economaidd a chyfle cyfartal.
- Gwahoddiadau
i ddigwyddiadau, seminarau a chynadleddau Chwarae Teg.
- Gostyngiad
ar brisiau Cynhadledd Flynyddol Genedlaethol Chwarae Teg.
- Copi am ddim o holl gyhoeddiadau ymchwil, taflenni,
cylchlythyr ‘Balans’ Chwarae Teg.
- Llu
o gyfleoedd rhwydweithio gyda phobl sy'n llunio barn yng
Nghymru.
- Cysylltiadau cyhoeddus a marchnata am ddim
i hyrwyddo hanesion pwysig o lwyddiant neu astudiaethau
achos o fewn eich
sefydliad.
- Aelodaeth yn rhad ac am ddim i’r
Grwp Gweithredu Menter Cymru Gyfan.
Gallwn
gynnig pecynnau aelodaeth wedi’u teilwrio’n
arbennig i weddu unigolion a sefydliadau. Gellir trafod prisiau
o fewn y canllawiau hyn.
Aelodau sylfaenol a chefnogwyr
Hoffai Chwarae Teg ddiolch i Awdurdod Datblygu Cymru (WDA),
Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal, TUC Cymru, Uned Gydraddoldeb y
GIG, Awdurdodau Lleol yng Nghymru, Job Centre Plus, Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae y mudiadau yma yn aelodau sylfaenol o Chwarae Teg ac maent
yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i ddatblygiad economaidd
merched yng Nghymru.
Amdanom ni | Prif
themau | Newyddion
a digwyddiadau | Ymchwil | Aelodaeth | Swyddfeydd | Cysylltwch â ni | Map
y wefan | Swyddi
Hafan | English |
|
|
Costau Aelodaeth |
|
|
Aelodaeth borffor |
Agored i unigolion, fusnesau bach (trosiant
rhwng £0 a £300K), mudiadau gwirfoddol, elusennau,
cyrff masnach a llyfrgelloedd. |
£50.00
+TAW |
|
Aelodaeth werdd |
Agored i fusnesau canolig (trosiant
rhwng £300K a £1,500K), prifysgolion, cyrff
cyhoeddus.
|
£100.00
+TAW |
|
Aelodaeth wen |
Agored i gyrff corfforaethol
(trosiant
dros £1,500).
Aelodau sylfaenol a chefnogwyr
|
£250
+TAW |
|