Arferion Cyflogaeth

Fel y prif sefydliad sy’n hyrwyddo datblygiad economaidd i fenywod yng Nghymru, mae gweithredu newid mewn polisiau cyflogaeth bob amser wedi bod yn allweddol yn ein cynllun busnes.

Rydym wedi taclo nifer o faterion allweddol –

  • Cyflwyno arferion gweithio hyblyg – yn enwedig yn y sector gyhoeddus
  • Cynyddu darpariaeth gofal plant fforddadwy, safonol sydd ar gael i bawb trwy godi ymwybyddiaeth o anghenion a chynnig adnoddau a chyllid
  • Cynyddu nifer y menywod sy’n cael eu apwyntio i rolau penderfynwyr
  • Datblygu polisiau cyfleoedd cyfartal gyda cwmniau bach a chanolig ar draws y sectorau, yn pwysleisio’r buddion a hybu arfer gorau.
  • Herio canfyddiadau ystradebol o ddewisiadau gyrfaol a recriwtio a dewis
  • Annog a chefnogi menywod i ddechrau eu busnesau eu hunain trwy’r prosiectau Menter Menywod Cymru a Menter Rhieni Sengl


Mae rhain i gyd wedi sicrhau newidiadau positif ond mae dal nifer o faterion sydd angen delio â hwy.
Mae Chwarae Teg yn parhau i ddylanwadu ar newid trwy:
1. Weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i symud y fenter Cydbwyso Bywyd a Gwaith ymlaen yng Nghymru.
2. Godi ymwybyddiaeth o faterion allweddol gan gynnwys deddfwriaeth newydd – Prydain ac Ewrop.
3. Y Prosiect Ready SET Go sy’n parhau i herio canfyddiadau ystradebol o ddewisiadau gyrfaol.
4. Ddosbarthu yr etifeddiaeth o ddwy brosiect Fenter a oedd yn rhan o’r cynllun gwaith Entrepreneuraidd.
5. Gynnal Ymchwil.

Menter Cydbwyso Bywyd a Gwaith yng Nghymru

Mae Chwarae Teg yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i symud y fenter Cydbwyso Bywyd a Gwaith ymlaen yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth cliciwch yma

Cysylltiadau Defnyddiol

Gwefan Cydbwyso Bywyd a Gwaith

ReadySETGo

TUC Cymru

TUC

ACAS

Ymchwil Gofal

Last Updated: 08/03/2007 11:34:21 By Sian Baird Murray

Hosted By eInfinity