Mae Chwarae Teg yn ymroddedig i annog menywod i ystyried cychwyn eu busnes eu hunain.
O 2001 i 2006 fe gyflawnodd Chwarae Teg brosiectau Menter Menywod Cymru a Menter Rhieni Sengl (rhan o Potentia). Fe wnaeth y mentrau hyn, a gafodd eu cyllido ar y cyd gan Awdurdod Datblygu Cymru (bellach Llywodraeth Cynulliad Cymru/DEIN) a chronfeydd strwythurol Ewrop, ac yn rhan hanfodol o Gynllun Gweithredol Entrepreneuraidd Cymru, ddarparu gweithdai, sesiynau ymgynghori a chyfleoedd rhwydweithio ar gyfer menywod a rhieni sengl trwy Gymru i’w galluogi i gymryd y camau cyntaf at sefydlu eu busnes eu hunain.
Yn ystod prosiect Menter Menywod Cymru fe gyhoeddodd Chwarae Teg 2 adroddiad ymchwil arwyddocaol:• Menywod yn Cychwyn Busnesau• Gwella Mynediad Merched at Gyllid Mae copiau o’r adroddiadau yma (neu’r crynodebau) ar gael trwy ebostio [email protected].Mae Chwarae Teg ar hyn o bryd yn cyfrannu at brosiect Potentia Llywodraeth Cynulliad Cymru trwy gyflwyno’r Canllawiau Ymgynghori ar gyfer Rhieni Sengl a Menywod i’r asiantaethau cefnogi busnes prif ffrwd.
Yn ategol at yr ymroddiad i fenywod mewn menter, mae Chwarae Teg hefyd yn cadeirio a rheoli y Grwp Gweithredu Menter Menywod Cymru. Wedi ei sefydlu ym 1995, mae’r Grwp yn cynnwys cynrychiolaeth o asiantaethau a sefydliadau gwahanol ledled Cymru sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau i gefnogi cychwyn busnes a datblygu busnes, roedd hefyd yn ysbrydolaeth i sefydlu y prosiect Menter Menywod Cymru. Yn cael ei ail-lawnsio ym mis Medi 2006, prif nôd Grwp Gweithredu Menter Menywod Cymru yw i ddosbarthu a chyfnewid arferion da ym maes menter menywod, i gynyddu proffeil entrepreneuriaid benywaidd ac i hybu a hyrwyddo datblygiad prosiectau sy’n datblygu menter menywod.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cychwyn eich busnes eich hun gallwch dderbyn cyngor a chyngor gan ‘Llygaid Busnes’ trwy ffonio 08457 969798.
Last Updated: 07/03/2007 10:59:40 By Sian Baird Murray