|
Ready SET go...
Mae Ready SET Go yn brosiect cyffrous i annog mwy o ferched i feysydd anhraddodiadol o hyfforddiant a chyflogaeth. Mae'n bwysig bod merched yn cael cyfle i wireddu eu potensial yn seiliedig ar eu doniau a'u diddordebau yn hytrach nag ar eu rhyw, a dylid cynnig yr un cyfle iddynt ddilyn pa bynnag yrfa a ddewisant. Trwy weithio gyda phartneriaid, nod y prosiect yw annog mwy o ferched i hyfforddiant a chyfleoedd gwaith anhraddodiadol trwy:
- ddatblygu sesiynau hyfforddiant achrededig arbenigol i gynnwys datblygiad personol, codi hyder ac ymwybyddiaeth sgiliau
- rhoi cefnogaeth i gael hyfforddiant pellach, profiad gwaith a swydd
- rhoi hyfforddiant amrywiaeth i athrawon, addysgwyr ac ymgynghorwyr er mwyn helpu i leihau stereoteipio ar sail rhyw wrth gynnig cyngor a chefnogaeth
- gweithio gyda chyflogwyr i godi ymwybyddiaeth ynghylch potensial recriwtio merched i feysydd anhraddodiadol a cheisio ymdrin â'r rhwystrau a wynebir gan ferched wrth iddynt ymuno â'r sectorau hynny.
Ar hyn o bryd, dim ond i ferched (16+) sy'n byw yn y siroedd Amcan 1 canlynol y mae'r prosiect ar gael:
Ynys Môn, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Tor-faen
Gellir talu costau gofal cofrestredig ar gyfer plant neu deulu a chymorth teithio
Os ydych chi:
- yn fenyw sy'n ystyried gyrfa newydd
- yn adnabod unrhyw fenyw a fyddai'n elwa o'r prosiect – rhywun sydd eisiau newid cyfeiriad neu a hoffai ddechrau rhywbeth newydd
- yn gyflogwr sy'n gweithio ym maes gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg neu unrhyw sector arall lle nad yw merched wedi eu cynrychioli'n gyfartal, ac os hoffech chi wybod mwy am ymuno â'r prosiect
- eisiau derbyn mwy o wybodaeth
Cysylltwch â thîm
Ready SET Go
ar 01267 232434 neu
e-bost: [email protected]
| |
Beth sy'n newydd |
NI WEDI SYMUD
21/04/2006
Mae swyddfa prosiect Ready SET Go yn symud o Gaerfyrddin ar 21 Ebrill 2006. Ein manylion cysylltu newydd yw: Chwarae Teg Ready SET Go Uned 2 Gweithdai Busnes Heol Parc Mawr Parc Busnes Cross Hands SA14 6RE Ffon: 01269 845155 Ffacs: 01269 845165
Mwy o fanylion...
|
|
Cyflogwyr - Cwrs Hyfforddi 1-diwrnod RHAD AC AM DDIM
01/05/2006
12/06/2006 - Pontypridd
14/06/2006
Portmeirion Mwy o fanylion...
|
|
|