Dysgwch fwy am weithio gyda ni a’r gwobrwyon a buddion a gynnigir.
PensiwnMae Chwarae Teg yn cyfrannu y cywerth o 6% mewn i gynllun pensiwn cyfranddeiliaid Norwich Union. Ond wrthgwrs, gall unigolion wneud cyfraniadau personol pellach.
OriauLlawn amser – 35 awr yr wythnos – Dydd Llun i Ddydd GwenerRhan amser – Mae gan Chwarae Teg aelodau o staff sy’n gweithio ystod eang o weithio rhan amser ac oriau hyblyg.
Cydbwyso Bywyd a Gwaith Mae gan Chwarae Teg bolisiau caredig ar Seibiant rhieni, Seibiant gofalwyr a Chaniatad tosturiol. Rydym yn annog pob gweithiwr i gydbwyso ei bywydau gwaith a chartref ac edrychwn yn gadarnhaol ar unrhyw gais i ail-strwythuro wythnnos waith yr unigolyn i gyflawni hyn. Mae gennym Ddatganiad o Fwriad Cydbwyso Bywyd a Gwaith sy’n rhestri ein ymroddiad i gefnogi Cydbwyso Bywyd a Gwaith ein holl staff. Yn ogystal, mae gennym bolisiau ar gyfer gweithio gartref, gweithio cywasgiedig ac ystod eang o fentrau seibiant arbennig. Rydym yn rhedeg nifer o batrymau gwaith hyblyg.
GwyliauMae gan staff Chwarae Teg yr hawl i 280 awr o wyliau mewn ‘blwyddyn wyliau’ (pro rata ar gyfer staff rhan amser ac yn y flwyddyn gyntaf ac olaf o gyflogaeth). Mae hyn yn gywerth â 40 diwrnod, gan gynnwys diwrnodau statudol a gwyliau banc, bob blwyddyn.
Adolygiad Perfformiad a Datblygiad Personol Mae unigolion yn cymryd rhan mewn rhaglen Adolygu Perfformiad sy’n cynnwys adnabod ac edrych ar anghenion datblygu personol ac hyfforddiant.
Yr Iaith GymraegMae Chwarae Teg yn ymroddedig i hyrwyddo yr Iaith Gymraeg. Bydd aelodau o staff sy’n dymuno dysgu’r iaith yn cael eu hannog a’u cefnogi.
Last Updated: 07/03/2007 11:08:13 By Sian Baird Murray