Gweithio gyda Chwarae Teg
- y Buddiannau a'r Gwobrwyon
Pensiwn
Mae Chwarae Teg yn cyfrannu swm cywerth â 6%
i gynllun pensiwn Cyfranddeiliad Norwich Union.
Gall unigolion, wrth gwrs, wneud eu cyfraniadau
personol eu hunain hefyd.
Oriau
Amser llawn - 37 yr wythnos - Llun i Gwener
Rhan amser - mae gan Chwarae Teg aelodau o staff sy’n gweithio amrywiaeth
o oriau rhan amser a hyblyg.
Cydbwysedd Bywyd a Gwaith
Mae gan Chwarae teg bolisïau hael ar seibiant
i Rieni, Gofalwyr a chyfnod Profedigaeth. Rydym
yn annog ein gweithwyr i gyd i gydbwyso bywyd a gwaith ac yn
edrych yn bositif ar unrhyw geisiadau i ail-strwythuro wythnos
waith yr unigolyn er mwyn cyflawni hyn.
Rydym ar hyn o bryd yn edrych ar feysydd megis gweithio o gartref
a seibiant sabathol er mwyn cefnogi ein hymroddiad i gydbwyso
bywyd a gwaith.
Amser i Ffwrdd Dro Arall
Mae gan Chwarae Teg bolisi ‘Amser i Ffwrdd
Dro Arall’ (TOIL) ar waith. Gall staff sy’n gweithio
mwy na’u horiau arferol mewn wythnos waith hawlio’r amser
hwnnw yn ôl drwy drefnu â’r rheolwr llinell.
Gwyliau
25 diwrnod i ffwrdd y flwyddyn - pro rata ar
gyfer rhan amser
8 gwyl banc/statudol
4 diwrnod arbennig a 2 ddiwrnod ychwanegol
Mae’r flwyddyn wyliau rhwng mis Ebrill a mis Mawrth
Datblygiad Personol
Adolygir eich cynnydd yn y gwaith ddwy
waith y
flwyddyn.
Bydd gennych eich Cynllun Datblygiad Personol eich hun, gyda
golwg ar eich anghenion hyfforddi.
Yr Iaith Gymraeg
Mae Chwarae Teg yn ymrwymedig i hyrwyddo’r
iaith Gymraeg. Rhoddir cefnogaeth ac anogaeth i aelodau
o staff sy’n dymuno dysgu’r Gymraeg.
Amdanom ni | Prif
themau | Newyddion
a digwyddiadau | Ymchwil | Aelodaeth | Swyddfeydd | Cysylltwch â ni | Map
y wefan | Swyddi
Hafan | English
|