Hive: "Cymdeithas yw’r Anabledd": Beth mae hyn yn ei olygu i’ch busnes chi?

18th March 2021
Mae Hive yn Gymuned ar gyfer Gweithio Modern sy’n dod â chyflogwyr o bob sector yng Nghymru at ei gilydd i rannu gwybodaeth, i gysylltu ac i rwydweithio.
Cofrestrwch ar gyfer ein gweminar a gynhelir cyn bo hir: “Cymdeithas yw’r Anabledd”: Beth mae hyn yn ei olygu i’ch busnes chi?

Siaradwyr gwadd:

Dr Hade Turkmen, Chwarae Teg
Dr Stephen Beyer, Prifysgol Caerdydd a’r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol
Miranda Evans, Anabledd Cymru

Ymunwch â ni ar gyfer y gweminar Hive, lle byddwn yn dod â chyflogwyr ledled Cymru ynghyd i drafod ein hadroddiad diweddar ‘Cymdeithas yw’r Anabledd’ sy’n edrych ar brofiadau menywod anabl yn economi Cymru. Byddwn yn rhannu canfyddiadau’r adroddiad a’r cyfleoedd y gall busnesau eu rhoi ar waith er mwyn gwella.

Byddwn hefyd yn edrych ar fuddion busnes cyflogi unigolyn ag anabledd dysgu, sut y gall y model a ddefnyddir gan y rhaglen ‘Ymgysylltu i Newid’ gefnogi cyflogwyr a gweithwyr ag anabledd dysgu ynghyd â chanlyniadau’r prosiect hyd yn hyn yng Nghymru.

Dyddiad: Dydd Iau, 18 Mawrth 2021

Amser: 10:30am – 12:00pm

Cofrestrwch yma

4th Jun 2020
“Society is the Disability”: Disabled Women and Work
Research