Rydyn ni eisiau gwreiddio cydraddoldeb a chynwysoldeb o fewn diwylliant busnes ledled y DU – Ydych chi?

Ar adeg gyffrous mae FairPlay Trading Ltd yn bwriadu penodi ei Gyfarwyddwyr Anweithredol cyntaf wrth i ni dyfu ein busnes yn y cyfnod cyffrous nesaf hwn o’n datblygiad. Bydd y rôl yn darparu arweinyddiaeth strategol, arbenigedd masnachol a llywodraethiant ac yn sicrhau ein bod yn gwireddu ein gweledigaeth a’n cenhadaeth.

Byddwch yn rhan o’r tîm a fydd yn llywio dyfodol Chwarae Teg a Fairplay Trading Ltd. Helpwch i yrru’r cwmni yn ei flaen, gan sefydlu ei nodau a’i weledigaethau, a phenderfynu sut y gellir eu cyflawni. Gweithio gyda thîm bwrdd egnïol, ymroddedig sy’n ymroi i wthio’r ffiniau, cael effaith ar gydraddoldeb rhywiol drwy wella diwylliant yn y gweithle a sbarduno arweinyddiaeth a yrrir gan gydraddoldeb.

Ein Hymrwymiad

Yn Chwarae Teg rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein tîm. Felly, rydym yn cynnig cyfweliad gwarantedig i ymgeiswyr o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig eraill a phobl anabl sy’n bodloni’r meini prawf rôl hanfodol.

Sut i wneud cais

Os yw’r cyfle hwn yn eich cyffroi, a’ch bod yn credu y gallech wneud cyfraniad cadarnhaol i’n sefydliad cwblhewch bob rhan o’r ffurflen gais a’i hafnon at: [email protected] (nodwch y cyfeirnod swydd yn yr e-bost: ND201120)

Rhagor o Wybodaeth

Os hoffech ymuno â ni ar y daith hon, ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â [email protected] am sgwrs anffurfiol yr wythnos yn dechrau 30ain Tachwedd.

Dyddiad Cau: 18.12.2020

Cyfarwyddwr Anweithredol - FairPlay Trading Ltd

Os yw'r cyfle hwn yn eich cyffroi, a'ch bod yn credu y gallech wneud cyfraniad cadarnhaol i'n sefydliad cwblhewch bob rhan o’r ffurflen gais a’i hafnon at: [email protected] (nodwch y cyfeirnod swydd yn yr e-bost: ND201120)