Ydych chi’n hyfforddwr ac anogwr arweinyddiaeth achrededig sy’n angerddol am gydraddoldeb ac amrywiaeth?
Ydych chi eisiau defnyddio’ch sgiliau i gefnogi newid diwylliant, gan wella cynwysoldeb yn y gweithle?
Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Hyfforddwr ac Anogwr Arweinyddiaeth i ymuno â’n tîm Cyflogwr Chwarae Teg.
Nod Cyflogwr Chwarae Teg, a’r tîm Masnachol, yw gweithio gyda busnesau ledled y DU i ysgogi newid diwylliant er mwyn dileu meddwl ac ymddygiad ystrydebol ac i feithrin llesiant. Rydym yn nodi’r meysydd angen o fewn sefydliad sy’n llesteirio’r broses o recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd menywod gyda’r nod o ddileu anghydraddoldebau croestoriadol systemig. Yn ogystal, rydym yn cefnogi datblygiad arweinyddiaeth ar draws y sefydliadau hynny i sbarduno arweinwyr cynhwysol, sy’n cael eu gyrru gan gydraddoldeb.
Caiff holl elw Cyflogwr Chwarae Teg ei ail-fuddsoddi yn Chwarae Teg i gefnogi’r elusen i gyflawni ei hamcanion.
Mae’r rôl hon yn hanfodol i lwyddiant taith ein dysgwyr. Bydd yr Hyfforddwr ac Anogwr Arweinyddiaeth yn frwdfrydig ac yn angerddol am addysgu, dysgu a datblygu sgiliau arwain a rheoli unigolion. Rhaid iddynt allu rhannu eu sgiliau a’u profiadau eu hunan fel arweinydd, gan ddatblygu eraill tra’n cynnal perthynas gadarnhaol â’r dysgwr a’r cyflogwr. Rhan annatod o’r rôl hon hefyd fydd gwneud y gorau o gyfleoedd gyda dysgwyr a chyflogwyr a gwerthu gwasanaethau dysgu a hyfforddi ychwanegol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm talentog o unigolion, lle bydd yn gyfrifol am gynnal llwyth achosion o ddysgwyr yn ogystal â chefnogi cyflawniad, llwyddiant a dilyniant dysgwyr. Bydd yn addysgu, yn asesu ac yn cofnodi pob agwedd ar addysgu a dysgu drwy ein rhaglenni tra’n datblygu a gwella rhaglenni’n barhaus ar gyfer dysgwyr y dyfodol. Bydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu cynnwys ychwanegol a chyflwyno sesiynau y tu allan i’r Rhaglen Arweinyddiaeth Gynhwysol yn ôl y gofyn.
Bydd ganddynt brofiad amlwg o ddarparu hyfforddiant a hyfforddiant arweinyddiaeth a rheolaeth, gyda’r cymwysterau angenrheidiol ar gyfer darparu ac asesu ar Lefel 5 neu uwch. Bydd ganddynt brofiad arwain a rheoli personol, yn ogystal ag craffter masnachol da, ar gyfer cefnogi twf busnes a chynnyrch.
Y Rôl
Cyflog: £30,658
Oriau gwaith: 35 Awr yr wythnos (rhaid bod yn hyblyg i ddiwallu anghenion)
Hyblygrwydd: Cynigir pob rôl Chwarae Teg ar sail hyblyg oherwydd ein model gweithio ystwyth. Condensed hours, part time/job share and secondment may be considered.
Lleoliad: Gweithio o gartref
Contract: Parhaol
Dyddiad Cau: 09:00 Dydd Mawrth 4 Ionawr 2022
Eich diogelwch
Mae’r holl rolau o fewn Chwarae Teg wedi’u lleoli gartref ac yn cael eu hwyluso drwy ddarparu gliniadur a ffôn symudol y cwmni i’w defnyddio at ddibenion gwaith. Ar hyn o bryd mae ein gwaith yn cael ei gwneud gyda mesurau diogelwch Covid-19 ar waith, felly, rydym yn disgwyl i’r rôl hon gael ei chyflawni’n rhithwir yn bennaf, ond pan fydd ein harferion yn caniatáu, efallai y bydd angen rhywfaint o deithio, o fewn y DU. Bydd Chwarae Teg yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn asesu’r effaith ar ein gwasanaethau a ddarperir yn unol â hynny.
Ein hymrwymiad
Rydym yn ymrwymedig i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill, yn ogystal â phobl anabl, sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd ac sy’n dewis cyflwyno cais drwy ein cynllun gwarantu cyfweliad.
Buddion i weithwyr
Rydym yn annog ein gweithwyr i gymryd mantais o’r ystod wych o fuddion a gynigir gennym:
- Gweithio ystwyth ar gyfer cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
- Gwyliau blynyddol hael (40 diwrnod y flwyddyn yn seiliedig ar weithio wythnos waith o bum diwrnod)
- Darpariaeth dysgu a datblygu
- Pensiwn cyflogwr o 7%
- Cynllun Arian Westfield Health
- Tâl salwch y cwmni hael
- Absenoldeb uwch am resymau teuluol
I wneud cais:
Os yw’r cyfle hwn yn eich cyffroi, a’ch bod yn credu y gallech wneud cyfraniad cadarnhaol i’n sefydliad cwblhewch bob rhan o’r ffurflen gais a’i hafnon at: [email protected] (nodwch y cyfeirnod swydd yn yr e-bost: LTCFPE031221.
Oherwydd ein proses rhestr fer Dienw ni allwn dderbyn CVs naill ai yn lle, neu yn ychwanegol at, ffurflen gais am swydd wedi’i chwblhau. Bydd ffurflenni cais yn cael eu sgorio gan ein panel recriwtio ac yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwch yn adran ‘Y Rôl a Chi’ ar y ffurflen Gais.
Er mwyn i’ch cais fod yn llwyddiannus, cysylltwch eich ymateb â’r meini prawf hanfodol a dymunol a geir yn y disgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn ar gyfer y rôl, gan ddarparu enghreifftiau lle bo hynny’n bosibl.
Rydym yn cynnig adborth i bob ymgeisydd, wrth wneud cais am swydd ac ar ôl cyfweliad.