Ydych chi’n werthwr proffesiynol hunan-ysgogol sy’n angerddol am helpu menywod i gyflawni a ffynnu?

Ydych chi eisiau helpu busnesau i weithio mewn amgylchedd mwy amrywiol a chynhwysol?

Chwarae Teg yw’r elusen sy’n ysbrydoli, arwain a chyflawni ym maes cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru.

Mae Cenedl Hyblyg 2 yn rhaglen weithredol a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei rheoli gan Chwarae Teg.  Mae’r rhaglen yn gweithio gyda menywod a busnesau er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol, datblygu gyrfaoedd a gwella safle menywod yn y gweithlu.

Mae ein Partneriaid Ymgysylltu yn chwarae rhan annatod yn y busnes, gan sicrhau bod Chwarae Teg yn cynyddu ymwybyddiaeth o Raglen Cenedl Hyblyg 2 ar gyfer menywod a busnesau, gan drosi gobeithion yn gleientiaid a chyfranogwyr. Mae ein Partneriaid Ymgysylltu yn helpu unigolion ar ddechrau eu taith gyda Chwarae Teg ac yn eu cyflwyno i’r amrywiaeth o gyfleoedd sydd o’u blaenau.

I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd angen profiad llwyddiannus mewn swydd werthu o’r dechrau i’r diwedd, gan gynnwys cynhyrchu arweiniad, ennill busnes newydd a phrosesu’r holl waith gweinyddol cysylltiedig. Byddwch hefyd yn tynnu ar eich craffter masnachol a’ch ymwybyddiaeth o reoli adnoddau dynol ac arwain a rheoli i fwyafu nifer y cyfranogwyr sy’n cofrestru ar ein rhaglenni Cenedl Hyblyg 2.

Yn ogystal â bod yn brofiadol ym maes gwerthu, rydym yn chwilio am chwaraewr tîm cymhellol â sgiliau cyfathrebu rhagorol sy’n ymfalchïo mewn cyflawni dangosyddion perfformaid allweddol a thargedau ac yn cymryd chyfrifoldeb personol dros wneud hynny. Bydd angen i chi allu hunanreoli’ch amser a gweithio’n arloesol i gyflawni’ch targedau. Os yw hyn yn apelio atoch, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Ardal ddaearyddol: Rhanbarthau De Ddwyrain Cymru, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i Rondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Torfaen.

Diogelwch

Mae’r rôl hon yn y cartref, ac rydym yn darparu gliniadur cwmni a ffôn symudol ar eich cyfer. Mewn amgylchiadau arferol, mae’r rôl yn cynnwys treulio cyfran sylweddol o amser yn gweithio yn y gymuned, mynychu digwyddiadau rhwydweithio a chyfarfod â busnesau.Fodd bynnag, mae’r rôl yn cael ei chyflawni ar hyn o bryd gyda mesurau diogelwch COVID-19 ar waith. Rydym felly yn disgwyl i’r rôl gael ei chyflawni’n bennaf trwy fideo-gynadledda a dulliau cyfathrebu rhithwir eraill. Bydd Chwarae Teg yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac asesu’r effaith ar ein gwasanaeth yn unol â hynny.

Ein hymrwymiad

Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr o gefndiroedd Pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill, yn ogystal â phobl anabl, sy’n bodloni’r meini prawf swyddi hanfodol ac sy’n dymuno gwneud cais drwy ein cynllun gwarantu cyfweliadau.

Buddion i Weithwyr

Rydym yn annog ein gweithwyr i gymryd mantais o’r ystod wych o fuddion a gynigwyd gennym:

  • Gweithio ystwyth i gefnogi cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
  • Gwyliau blynyddol hael (40 diwrnod y flwyddyn yn seiliedig ar weithio wythnos waith o bum diwrnod)
  • Cymorth dysgu a datblygu
  • Pensiwn cyflogwr o 7%
  • Cynllun Arian Westfield Health
  • Absenoldeb uwch am resymau teuluol

Mae’r rôl

Cyflog: £30,658 y flwyddyn

Oriau gwaith: 35 Awr yr wythnos (rhaid bod yn hyblyg i ddiwallu anghenion cleientiaid)

Lleoliad: Yn y cartref

Contract: Contract am gyfnod penodol yn dod i ben 30 Mehefin 2022

Dyddiad cau: 12yp, 3 Mehefin 2021

Os yw’r cyfle hwn yn eich cyffroi, a’ch bod yn credu y gallech wneud cyfraniad cadarnhaol i’n sefydliad cwblhewch bob rhan o’r ffurflen gais a’i hafnon at: [email protected] (nodwch y cyfeirnod swydd yn yr e-bost: EP120521 )