Mae Chwarae Teg am benodi Prif Weithredwr sy’n arloesol ac yn ysbrydoledig; yn meddu ar graffter a phrofiad masnachol; â chrebwyll gwleidyddol a’r gallu i ddylanwadu ar bolisi; ac yn meddu ar sgiliau pobl a chyfathrebu rhagorol.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio gyda phartneriaid ac amrywiaeth o randdeiliaid o bob rhan o Gymru i gryfhau ac adeiladu ar frand sydd eisoes yn cael ei gydnabod.
Yn ymarferwr profiadol, bydd y Prif Weithredwr yn gyfrifol am ddatblygiad parhaus Chwarae Teg yn ei gyfanrwydd - gan gynnwys y gangen elusennol a ariennir â grant a’r gangen fasnachu, FairPlay Trading - gan sicrhau bod Chwarae Teg yn dod yn fwy hunangynhaliol a chadarn ar gyfer y dyfodol. Rhan o’r gwaith hwn fydd codi ymwybyddiaeth a chasglu cefnogaeth yn fewnol ac yn allanol.
Gan reoli cyllideb a phroffil ariannu fel y nodir uchod yn yr adran Ariannu, bydd y Prif Weithredwr yn arwain y sefydliad ar draws yr holl swyddogaethau a bydd yn atebol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Bwrdd FairPlay Trading Ltd. I ddechrau, byddant yn uniongyrchol gyfrifol am reoli’r uwch dîm arwain (pedwar aelod ar hyn o bryd) a’r Partner Cydlynu a Chynorthwyydd Personol i’r Prif Weithredwr.
Er nad yw’n rhwym i reoliadau’r sector cyhoeddus, mae’r elusen yn gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol Cymreig penodol gan gynnwys yn arbennig Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, cyfreithiau’r Gymraeg a deddfwriaeth ddatganoledig arall. Bydd y Prif Weithredwr yn gyfrifol am sicrhau bod yr elusen yn cyd-fynd â phob un o’r rhain.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae dealltwriaeth o gyfreithiau’r Gymraeg a pharodrwydd i gysoni gweithgareddau Chwarae Teg â chefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050 yn hanfodol.
Mae’r rôl hon yn gofyn am unigolyn sydd â meddylfryd masnachol entrepreneuraidd, dawn a chreadigedd sy’n dod ag arweinyddiaeth gref, datblygu busnes, rhwydweithio, sgiliau dylanwadu a chyfathrebu effeithiol i’r rôl hon.
Mae briff yr ymgeisydd cyflawn ar gael i’w lawrlwytho o Wefan Chwarae Teg neu mae ar gael gan Goodson Thomas yn uniongyrchol.
Y Rôl
Cyflog: Hyd at £75,000
Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos (bydd trefniadau rhan amser hefyd yn cael eu hystyried)
Hyblygrwydd: Cynigir pob rôl Chwarae Teg ar sail hyblyg oherwydd ein model gweithio ystwyth.
Lleoliad: Yn y cartref.
Contract: Parhaol
Dyddiad Cau: 11 Tachwedd 2022
Gweithio o Bell
Mae’r holl rolau o fewn Chwarae Teg ar sail gweithio gartref ac yn cael eu cefnogi drwy ddarpariaeth gliniadur a ffôn symudol y cwmni i’w defnyddio at ddibenion gwaith.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Chwarae Teg yn falch o’n harferion cynhwysol a theg. Rydym wedi rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth galon ein gwerthoedd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, priodas (gan gynnwys priodas o’r un rhyw) a phartneriaeth sifil, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hunaniaeth rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred neu feichiogrwydd/mamolaeth.
Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly’n ceisio cyfweld yr holl ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill, yn ogystal â phobl anabl, sy’n dewis gwneud cais trwy ein cynllun gwarantu cyfweliad. Mae cyfweliad yn cael ei bennu ar sail y wybodaeth a ddarparwyd i ni yn yr adran ‘Y Rôl a Chi’ ar ffurflen gais Chwarae Teg (ceir rhagor o fanylion yn y Ffurflen Gais).
Buddion i weithwyr
Rydym yn annog ein gweithwyr i gymryd mantais o’r ystod wych o fuddion a gynigir gennym:
- Gweithio ystwyth ar gyfer cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
- Gwyliau blynyddol hael (40 diwrnod y flwyddyn yn seiliedig ar weithio wythnos waith o bum diwrnod)
- Darpariaeth dysgu a datblygu
- Pensiwn cyflogwr o 7%
- Cynllun Arian Westfield Health
- Tâl salwch y cwmni
- Absenoldeb uwch am resymau teuluol
Sut i wneud cais
I’n cynorthwyo wrth chwilio a phenodi i’r rôl hon, rydym wedi cyflogi cwmni Goodson Thomas yn unig, sydd yn ymgynghoriaeth chwilio gweithredol.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â thîm Goodson Thomas ar 029 2167 4422 neu [email protected]
I wneud cais, cyflwynwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol trwy bwyso’r botwm ‘Apply Now’ ar wefan Goodson Thomas ()
Bydd pob cais yn cael ei gydnabod.