A ydych chi’n chwaraewr tîm blaengar sy’n cael eich ysgogi gan ganlyniadau, gyda lefelau rhagorol o sylw i fanylion a chymhwyster neu brofiad o weithio ym maes cyllid?

Mae’r rôl

Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am Uwch-bartner Cyllid i ymuno â’n Tîm Cyllid. Fel Uwch-bartner Cyllid, byddwch yn aelod annatod o’r tîm ac yn gyfrifol am ddyletswyddau allweddol fel llunio gwybodaeth reoli, paratoi hawliadau ar gyfer cyllidwyr ein prosiectau, a goruchwylio’r gyflogres. Gan weithio’n agos gyda deiliaid cyllidebau a’r arweinydd cyllid, byddwch yn paratoi cyfrifon rheoli, ymgymryd â dadansoddiadau amrywiant, a chefnogi’r broses gyllidebu.

Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm llawn cymhelliant sydd â sylw rhagorol i fanylion, sy’n meddwl yn flaengar, sy’n cael ei ysgogi gan ganlyniadau, ac sydd â dull gweithio hyblyg a all addasu i adran gyllid ddynamig. Dylai ymgeiswyr fod â sgiliau Excel a TG rhagorol ac, yn ddelfrydol, dylent fod wedi cael profiad gyda Xero. Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd angen ichi wedi’ch cymhwyso’n llawn gyda’r Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu neu wedi’ch cymhwyso trwy brofiad. Os yw hyn yn apelio atoch, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Mae hwn yn gyfle gwych ar gyfer yr ymgeisydd iawn i ddatblygu ei wybodaeth am systemau a phrosesau ariannol yn sydyn o fewn y sector nid-er-elw wrth weithio mewn tîm cyllid bach mewn sefydliad sy’n tyfu.

Cyflog: £31,255

Oriau gwaith: 35 Awr yr wythnos (rhaid bod yn hyblyg i ddiwallu anghenion)

Hyblygrwydd: Cynigir pob rôl Chwarae Teg ar sail hyblyg oherwydd ein model gweithio ystwyth. Condensed hours, part time/job share and secondment may be considered.

Lleoliad: Gweithio o gartref

Contract: Contract Cyfnod Penodol yn dod i ben ar 31 Mai 2023

Dyddiad Cau: 09:00 Dydd Llun 4 Hydref 2021

Eich Diogelwch

Mae’r holl rolau o fewn Chwarae Teg ar sail gweithio gartref ac yn cael eu cefnogi drwy ddarpariaeth gliniadur a ffôn symudol y cwmni i’w defnyddio at ddibenion gwaith. Mae ein gwaith yn cael ei gyflawni gyda mesurau diogelwch covid-19 ar waith ar hyn o bryd, felly, rydym yn disgwyl i’r rôl hon gael ei chyflawni’n bennaf drwy fideo-gynadledda a dulliau cyfathrebu rhithiol eraill ar hyn o bryd. Bydd Chwarae Teg yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn asesu’r effaith ar ein darpariaeth gwasanaeth yn unol â hynny.

Ein Hymrwymiad

Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill, yn ogystal â phobl anabl, sy’n cwrdd â’r meini prawf swydd hanfodol ac yn dewis ymgeisio trwy ein cynllun cyfweldiad gwarantedig.

Buddion Gweithwyr

Rydym yn annog ein gweithwyr i fanteisio ar yr ystod eang o fuddion a gynigir gennym:

  • Gweithio Agile ar gyfer cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
  • Gwyliau blynyddol hael (40 diwrnod y flwyddyn yn seiliedig ar wythnos waith 5 diwrnod)
  • Darpariaeth Dysgu a Datblygu
  • Pensiwn cyflogwr 7%
  • Buddion Westfield Health
  • Tâl salwch uwch gan gwmni
  • Absenoldeb teuluol gwell
I wneud cais:

Os yw’r cyfle hwn yn eich cyffroi, a’ch bod yn credu y gallech wneud cyfraniad cadarnhaol i’n sefydliad cwblhewch bob rhan o’r ffurflen gais a’i hafnon at: [email protected] (nodwch y cyfeirnod swydd yn yr e-bost: SFP220921)

Oherwydd ein proses rhestr fer Dienw ni allwn dderbyn CVs naill ai yn lle, neu yn ychwanegol at, ffurflen gais am swydd wedi’i chwblhau. Bydd ffurflenni cais yn cael eu sgorio gan ein panel recriwtio ac yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwch yn adran ‘Y Rôl a Chi’ ar y ffurflen Gais.

Er mwyn i’ch cais fod yn llwyddiannus, cysylltwch eich ymateb â’r meini prawf hanfodol a dymunol a geir yn y disgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn ar gyfer y rôl, gan ddarparu enghreifftiau lle bo hynny’n bosibl.

Rydym yn cynnig adborth i bob ymgeisydd, wrth wneud cais am swydd ac ar ôl cyfweliad.