Glamorgan Brewing

25th February 2021

Rydym yn hynod falch o fod wedi gweithio gyda'r tîm gwych yn Chwarae Teg, mae eu cefnogaeth drwy gydol y rhaglen wedi bod o'r radd flaenaf. Rydym hefyd yn falch iawn o fod wedi derbyn y wobr sy'n cydnabod ein hymrwymiad i deulu Glamorgan Brewing.

Tyrone Pope
Cyfarwyddwr, Glamorgan Brewing

Glamorgan Brewing – eu taith rhaglen fusnes Cenedl Hyblyg 2 (AN2)

‘Sefydlodd teulu Anstee y busnes ar ddechrau’r 1990au wrth iddynt weld bwlch yn y farchnad ar gyfer iddynt dechrau bragu a dosbarthu eu cwrw eu hunain. Fe’i hailfrandiwyd yn ddiweddarach fel Glamorgan Brewing Company yn 2015. Dros y blynyddoedd datblygodd perthynas waith agos a gwybodaeth uniongyrchol am eu cymunedau lleol ac anghenion y diwydiant lletygarwch. Mae’r bragdy, y logisteg a’r swyddfeydd wedi’u lleoli yn Llantrisant ac er gwaethaf rhai colledion swyddi na allwyd eu hosgoi yn dilyn y pandemig diweddar, maent yn cyflogi 62 o staff ac mae ganddynt gynlluniau i ehangu’r busnes dros y 12 mis nesaf.

Mae Glamorgan Brewing yn eiriolwyr cryf dros lesiant gweithwyr ac roeddent yn awyddus i gymryd rhan yn rhaglen fusnes Cenedl Hyblyg 2 er mwyn deall yn well ganfyddiad eu gweithwyr o’r gweithle. Roedd y rheolwyr yn awyddus i wella’r ‘profiad gwaith’, yn enwedig ym maes datblygiad gweithwyr.

O ganlyniad i’w gwaith caled a’u hymrwymiad i gydraddoldeb, derbyniodd tîm Glamorgan Brewing ein gwobr Cyflogwr Chwarae Teg ‘Cyflawni’.

Y meysydd busnes y buom yn gweithio arnynt

Rheoli Perfformiad

Gyda’r awydd i annog yr holl staff i ddatblygu eu sgiliau a datblygu eu gyrfaoedd, gwelodd Glamorgan Brewing y byddai’r rhaglen fusnes Cenedl Hyblyg 2 yn cael effaith enfawr ar eu prosesau rheoli perfformiad. Ar ôl mynychu gweithdy Rheoli Perfformiad a Dysgu a Datblygu, roedd y rheolwyr yn Glamorgan Brewing yn awyddus i sicrhau bod pob gweithiwr yn cael cyfle i drafod ei rôl bresennol ac unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol gyda’u rheolwr llinell.

Gan weithio gyda’u partner busnes, gweithredwyd Cynllun Datblygu Personol (PDP), a gydnabuwyd fel arf allweddol o ran darparu’r fframwaith ar gyfer rhoi amser a lle i’r gweithiwr a’r rheolwr drafod dysgu, datblygu a pherfformiad swydd. O fis Medi 2020 bydd pob gweithiwr yn cael cyfarfod gyda’i reolwr llinell i sefydlu eu cynllun datblygu eu hunain a fydd yn ystyried eu rôl bresennol yn y busnes a sut maen nhw’n gweld eu hunain yn datblygu.

Cyfathrebu

Fel gyda llawer o sefydliadau, mae cyfathrebu’n digwydd, ond weithiau mae’n cymryd pâr ffres o lygaid i adolygu’r hyn sy’n cael ei ddweud a sut mae hyn yn treiddio drwodd i bob gweithiwr. Gyda llawer o staff yn gweithio gartref, mae cyfathrebu effeithiol yn arbennig o bwysig ar gyfer morâl, boddhad swydd a llesiant gweithwyr.

Er bod Glamorgan Brewing eisoes wedi ymgymryd â nifer o fentrau cyfathrebu a oedd yn cefnogi’r gweithwyr i ddeall y busnes a’u rôl ynddo, nid oedd y rhain wedi’u strwythuro nac yn rhan o gynllun ehangach. Helpodd y partner busnes Glamorgan Brewing i nodi sut y byddai cyfathrebu’n helpu gweithwyr i deimlo’u bod yn perthyn, waeth beth fo’u rôl neu ble a phryd yr oeddent yn gweithio, a phwysigrwydd hyn i’r gweithwyr a’r busnes. O ganlyniad, ysgrifennwyd polisi cyfathrebu a oedd yn nodi’r cyfathrebu a fyddai’n cael ei ddefnyddio’n fewnol. Yna rhaeadrwyd y polisi hwn fel bod pob gweithiwr yn gwybod beth y dylent ei ddisgwyl o ran cyfathrebu busnes. Mae’r cwmni’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod pob gweithiwr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am fentrau busnes ac yn awyddus i’r rhain gael eu hadlewyrchu yn amcanion a chynlluniau datblygu personol gweithwyr.

Y canlyniadau cydraddoldeb rhywiol

Mae pob gweithiwr, waeth beth fo’i ryw, rôl swydd, hyd gwasanaeth neu batrymau gwaith, wedi cael eu hannog i ymgymryd â hyfforddiant i’w helpu yn eu rôl bresennol. Nawr bydd gan weithwyr amser penodol gyda’u rheolwr ar gyfer ystyried eu dyheadau gyrfa yn y dyfodol fel y gellir gweithio ar ddatblygiad penodol er mwyn eu paratoi ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol. Mae rheolwyr a gweithwyr yn teimlo llawer mwy o ymgysylltiad â’r ffordd y mae eu dysgu a’u datblygu’n cael eu hadolygu, sydd wedi helpu i wneud y profiad gwaith o ddydd i ddydd yn un llawer mwy boddhaus.