Dywedwch wrthym am eich rôl yn Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru, beth mae’n ei olygu o ddydd i ddydd?

Fel Swyddog Menywod Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru, fy rôl i yw cynrychioli pob menyw a myfyriwr anneuaidd mewn addysg ôl-16 yng Nghymru. Rydw i’n arwain ein Hymgyrch Menywod, ac yn gweithio gyda rhanddeiliaid amrywiol er mwyn gwella bywydau myfyrwyr benywaidd, gan gynnwys Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Strategaeth Trais Rhywiol, camau ar gyfer mynd i’r afael â thlodi mislif, a chefnogi menywod ifanc ym maes arweinyddiaeth.

Mae gen i’r fraint hefyd o gydweithio â’n hundebau myfyrwyr sy’n aelodau a’u swyddogion sabothol, a’u cynorthwyo gyda’u hymgyrchoedd eu hunain ar y campws. Mae fy Mhwyllgor Menywod anhygoel, sy’n cynnwys myfyrwyr benywaidd o bob cwr o Gymru, yn fy helpu gyda hyn.

Fel Swyddog Menywod, fi yw un o swyddogion etholedig cenedlaethol Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, gan helpu i lywio’r mudiad myfyrwyr ledled y DU.

Mae pob diwrnod yn hollol wahano! Mae fy swydd yn ddeinamig ac rydw i’n cael teithio ar hyd a lled y wlad, ac weithiau ymhellach, yn gwneud yn siŵr bod lleisiau myfyrwyr benywaidd yn cael eu clywed.

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich rôl? Beth sy’n eich cymell i godi o’r gwely yn y bore?

Rydw i WRTH FY MODD yn cefnogi myfyrwyr sy’n ymgyrchu ar lawr gwlad. Does dim byd gwell na rhyngweithio â myfyrwyr a swyddogion sabothol, a’u helpu i gynnal eu hymgyrchoedd ar eu campws. Rydw i wir yn mwynhau darparu gweithdai ar faterion sy’n bwysig i mi fel tlodi mislif a rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae’r materion hyn mor bwysig, ac mae cael gofod i sôn amdanyn nhw wir yn grymuso rhywun.

Mae cael y cyfle i gydweithio ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr sy’n arweinwyr ac ymgyrchwyr, a gweld eu brwdfrydedd a’u hangerdd, yn gymhelliant mawr ac yn gwneud i mi deimlo’n obeithiol am ddyfodol mwy disglair!

Dywedwch ychydig o’ch hanes fel myfyriwr a hanes eich gyrfa hyd yma. Ydych chi wedi gwybod erioed pa drywydd oeddech chi am ei ddilyn?

Dilynais gwrs Cysylltiadau Cyhoeddus ac Astudiaethau’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe gan raddio yn 2017. Ar ôl graddio, treuliais flwyddyn fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, cyn cael fy ethol i’m swydd genedlaethol bresennol.

Cyn mynd i’r brifysgol, fy mwriad oedd dilyn gyrfa ym maes newyddiaduraeth, felly dyma ddilyn cwrs Iaith Saesneg. Yn fuan ar ôl dechrau’r cwrs, sylweddolais nad oeddwn i’n ei fwynhau gymaint â hynny! Gyda chyngor fy nhiwtoriaid, newidiais i’r cwrs Cysylltiadau Cyhoeddus, cwrs yr oeddwn yn ei fwynhau’n fawr. Drwy fy nghwrs, a thrwy gymryd rhan yng ngweithgareddau undeb y myfyrwyr, datblygodd y diddordeb a’r brwdfrydedd mewn gweithredu ac ymgyrchu.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth myfyrwyr yn y lle cyntaf?

Mae gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth myfyrwyr erioed, hyd yn oed pan oeddwn i yn yr ysgol! Yn ddiweddar, fe wnes i ddod o hyd i hen dystysgrifau o’m cyfnod ar gyngor yr ysgol gynradd, felly dechreuodd fy siwrne’n gynt o lawer nag yr oeddwn i’n feddwl yn wreiddiol.

Fodd bynnag, wrth gychwyn yn y brifysgol, fe ddes i’n ymwybodol iawn o ffeministiaeth a theimlo bod yn rhaid i mi frwydro dros fy hawliau i a hawliau pobl eraill – yn enwedig y lleisiau hynny sydd ddim yn cael eu clywed.

Mae gweld a theimlo’r anghyfiawnder yr oedd menywod yn ei wynebu bob dydd yn gwneud i mi fod eisiau ymgyrchu ac ymdrechu i sicrhau cymdeithas decach. Am ddegawdau, mae myfyrwyr wedi bod wrth galon y gwaith o ddatrys y problemau hyn, ac mae ganddyn nhw’r pŵer i ddylanwadu ar ein diwylliant a’i newid.

Beth yw eich llwyddiant pennaf hyd yma?

Mae’n anodd dewis un gan fy mod wedi cyflawni gymaint o bethau rydw i’n falch ohonyn nhw dros y flwyddyn ddiwethaf!

Fodd bynnag, credaf mai fy llwyddiant pennaf hyd yma yw ymddangos ar raglen ‘The Hour’ BBC Wales, pan gefais y cyfle i rannu fy mhrofiadau o ddydd i ddydd o wahaniaethu ar sail rhyw a diffyg cynrychiolaeth menywod du a menywod o leiafrifoedd ethnig ym maes arweinyddiaeth. Mae profiad fel hyn wir yn eich grymuso ac roedd yr adborth a gefais yn anhygoel. Cefais yr hyder yr oeddwn i ei angen. Hefyd, rydw i wedi bod eisiau ymddangos ar y teledu erioed!

Yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn cefais fy ngwahodd i ddychwelyd i BBC Wales i ymddangos ar Wales Live fel aelod o’r panel i drafod y mater o aflonyddu rhywiol. Roedd hwn yn brofiad anhygoel arall ac roedd gweld bod y materion hyn yn cael eu cymryd o ddifrif yng Nghymru yn codi calon.

Beth hoffech chi ei gyflawni cyn ymddeol?

Rheoli’r byd! (Jôc).

Mae ‘na gymaint o bethau rydw i am eu cyflawni! Ar wahân i’r pethau arferol o gael swydd dda (yn ymgyrchu a dylanwadu os oes modd), priodi, cael plant, ychydig o dai…

Yn y pen draw, rydw i am i’r byd fod yn lle tecach i bawb a byddwn wrth fy modd yn meddwl fy mod wedi cyfrannu at hynny. Mae rhoi terfyn ar dlodi mislif a chau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau’n ddau fater sy’n agos iawn at fy nghalon, felly byddwn wrth fy modd yn gweld y materion hyn yn cael eu dileu yn ystod fy oes i.

Pwy yw eich modelau rôl?

Fy mam a fy modryb. Michelle Obama, Serena Williams, Chimamanda Ngozi Adichie, Beyoncé a Sue Lloyd Roberts.

Oedd yna fenywod a wnaeth eich ysbrydoli chi pan oeddech chi’n ferch fach neu’n fenyw ifanc?

Pan oeddwn i’n iau, roedd gen i obsesiwn gyda Serena a Venus Williams gan mai nhw oedd yr unig fenywod du llwyddiannus a oedd yn amlwg i mi fel merch fach. Doedd gen i ddim diddordeb mewn tennis, ond roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau bod mor llwyddiannus â nhw ym mha bynnag faes yr oeddwn i’n ei ddewis.

Ydych chi’n credu bod modelau rôl benywaidd yn ddigon amlwg, ydych chi’n credu y dylid gwneud mwy i hyrwyddo llwyddiannau menywod? Pam ydych chi’n credu bod hyn yn bwysig?

Na, dydyn nhw ddim! Wrth dyfu i fyny, roedd hi’n anodd dod o hyd i fenywod a oedd yn edrych fel fi yn y maes roeddwn i am weithio ynddo, a hyd yn oed heddiw, rydw i’n dal i gael trafferth gyda hynny. Ychydig iawn o fenywod amlwg sy’n fodelau rôl mewn gwleidyddiaeth, busnes a’r byd academaidd.

Mae’r ffaith bod mwy o bobl o’r enw David a Steve yn arwain can cwmni’r FTSE na sydd yna o fenywod a lleiafrifoedd ethnig yn chwerthinllyd ac mae angen herio hynny.

Mae angen dyrchafu llwyddiannau a llais menywod er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr benywaidd. Rydw i’n credu’n gryf na allwch chi fod yn rhywbeth na allwch ei weld. Os nad yw merched ifanc yn gweld menywod yn arwain yn ystafell y bwrdd, ac yn gwneud y penderfyniadau mawr, fyddan nhw ddim yn credu y gallan nhw fod yn arweinwyr un diwrnod hefyd.

Beth sy’n rhwystro menywod yn eich barn chi?

Mae yna gymaint ohonyn nhw! Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, gwahaniaethu yn y gweithle, trais ac aflonyddu rhywiol, mynd i’r afael â’r syndrom twyllwr, mae’r rhestr yn ddi-ben-draw. Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod y rhwystrau hyn ac rydyn ni’n eu herio. Mae menywod yn dod yn gryfach nag erioed erbyn hyn ac rydyn ni’n cefnogi ein gilydd yn fwy nag erioed o’r blaen, er bod gennym lawer o waith i’w wneud o hyd.

Oes yna unrhyw rwystrau sy’n benodol i’ch maes chi nawr neu yn y dyfodol sy’n wynebu menywod?

Mae diffyg hyder a hunangred yn rhwystro menywod sydd am weithio yn y maes ymgyrchu a dylanwadu. Hefyd, gall diffyg hyblygrwydd yn y maes fod yn rhwystr, yn enwedig i fenywod sydd wedi cael plant. Mae cael y cydbwysedd rhwng teulu/ gyrfa yn eithriadol o anodd a gall atal menywod rhag cyflawni eu potensial llawn.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i’r Chisomo deg oed?

Dydych chi ddim yn or-awdurdodol, chi yw’r bos! Byddwch yn hyderus a chredu ynddoch chi’ch hun. Rydych chi’n fwy clyfar nag y tybiwch chi ac mae gennych gymaint i’w roi. Peidiwch â bod yn swil a chodwch eich llais dros yr hyn rydych chi’n ei gredu. Bydd canfod eich llais mewnol nawr yn eich helpu yn y dyfodol.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fenywod ifanc eraill heddiw?

Peidiwch â diffodd eich fflam eich hun i danio fflam rhywun arall. Mae angen i chi gael ffydd yn eich greddf a pheidiwch byth ag amau eich gwerth. Peidiwch byth â theimlo eich bod yn cymryd gofod rhywun arall, mae yna reswm eich bod yno.