Dechreuodd Hilary Brown ei gyrfa fel gwirfoddolwr yn yr 80au, ac mae bellach yn berchen ac yn Brif Weithredwr ar ei chwmni cyfreithiol ei hun. Mae hanes ei bywyd bywiog i’w weld isod yn dilyn cyfweliad a gynhaliwyd gyda hi.

Dywedwch wrthym ni am eich gwaith yn Butetown yn y 90au a’r effaith barhaus ar y system gyfiawnder troseddol.

Yn ystod y 1990au, roeddwn i’n rheoli CABx Butetown a Grangetown mewn cyfnod pan oedd y gwasanaeth ei hun yn profi cyfnod o ail-frandio sylweddol i geisio darparu mwy o wybodaeth am y gwasanaethau gwych yr oedd yn eu cynnig i’r cyhoedd.

Yn ystod y cyfnod hwn, roeddwn i’n ymwybodol o nifer o bobl a oedd nid yn unig wedi wynebu rhwystrau yn eu bywydau bob dydd ond hefyd wedi wynebu anghyfiawnder o ganlyniad i wahaniaethu yn narpariaeth gwasanaethau megis tai, addysg ayb.

Gan fy mod wedi wynebu rhwystrau tebyg fy hun, a fy mod bellach mewn lle i allu dadansoddi, asesu a herio rhwystrau o’r fath, roeddwn i’n gallu gwneud hynny gydag angerdd yn deillio o fy mhrofiadau personol o wahaniaethu.

Roeddwn i’n gwybod, gan fy mod wedi teimlo’r boen a’r cywilydd o fethu neu o gael fy ngwrthod oherwydd lliw fy nghroen neu ryw, neu fath arall o ddemograffig artiffisial a oedd yn rhoi’r argraff i bobl fod ganddynt hawl i wahaniaethu yn fy erbyn i neu ni.

Soniwch am eich swydd, beth ydych chi’n ei wneud bob dydd?

Rydw i’n Brif Weithredwr a sylfaenydd cwmni Virgo Consultancy Services Ltd, Cwmni Cyfreithiol sy’n masnachu fel Strwythur Busnes Amgen (ABS) gyda swyddfeydd yn Ne Cymru a Llundain. Rydym ni’n cynnig ystod o wasanaethau cyfreithiol wedi’u hariannu’n breifat ac yn gyhoeddus, ac rydw i’n bersonol yn arbenigo mewn Mewnfudo a Lloches.

Mae diwrnod yn fy mywyd fel arfer yn dechrau tua 6.30am pan fyddaf yn deffro, a’r peth cyntaf fydda i’n ei wneud yw edrych ar fy ffôn i weld pa negeseuon e-bost fydda i wedi eu derbyn dros nos. Gan fod nifer o’m cleientiaid yn byw mewn gwledydd ledled y byd, nid yw pawb yn dilyn amser GMT, gan olygu y byddaf fel arfer wedi derbyn rhwng 10-40 o negeseuon e-bost dros nos.

Rydw i’n ymdrin â’r hyn sydd angen ei wneud ar frys, ac yna byddaf yn gwneud yr hyn y bydd pob un ohonom yn ei wneud wrth baratoi ar gyfer diwrnod o waith. Byddaf yn rhoi dillad ar y lein (os mae’n braf) a byddaf fel arfer yn smwddio’r dillad y byddaf yn eu gwisgo am y dydd. Byddaf yn tacluso’r tŷ os bydd amser, yn bwyta brecwast cyn paratoi ac yna’n gyrru i’r gwaith.

Fel arfer, byddaf yn cyrraedd y gwaith rhwng 8.00am – 8.30am ac ar ôl cyfarch pawb dros baned yn y swydd, rydw i fel arfer yn eistedd wrth fy nesg o 9.00am ac yn treulio fy awr gyntaf yn edrych yn fy nyddiadur i weld pa apwyntiadau sydd gen i am y dydd, gan sicrhau bod staff ar gael yn y ddwy swyddfa a’u bod yn barod ar gyfer diwrnod o waith. Rydw i’n edrych ar galendr pawb ac fel arfer yn cynnal trafodaethau gyda staff ynglŷn â’u cynlluniau am y dydd.

Trwy gydol y dydd, byddaf yn derbyn galwadau gan unigolion, busnesau, gorsafoedd heddlu, ysbytai ayb ac yn rhoi cyngor ynglŷn â Mewnfudo / Lloches a materion yn ymwneud â gwahaniaethu, hyd at fin nos.

Rydw i’n cynrychioli cleientiaid mewn Tribiwnlysoedd Mewnfudo ac mae hyn yn aml yn golygu bod rhaid i mi deithio i Lundain, Birmingham a rhannau eraill o’r DU lle mae’r apeliadau’n cael eu cynnal.

Rydw i’n paratoi ceisiadau ar gyfer y Swyddfa Gartref ar ran cleientiaid sy’n aml yn agored i niwed, yn anghenus ac unig, a byddaf yn darparu cefnogaeth tu hwnt i waith y Cwmni lle bo modd i geisio gwneud gwahaniaeth a lleihau’r caledi lle bo hynny’n bosibl.

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich gwaith? Beth sy’n peri i chi godi o’ch gwely yn y bore?

Yr hyn yr wyf yn ei fwynhau am fy ngwaith yw’r ffaith fy mod yn helpu pobl bob dydd. Wrth wneud hyn rwyf yn gweld canlyniadau’r gwaith a wneir ar ran ein cleientiaid gyda’m llygaid fy hun, felly mae’n braf gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Yn aml, rydym ni’n cael cyfle i ddod â theuluoedd ynghyd sydd wedi cael eu gwahanu am resymau’n amrywio o fod wedi cael eu gorfodi i wahanu ac effaith rhyfel ac anghydfod sifil i’r rhai sy’n ceisio ymlwybro drwy’r rheolau mewnfudo cymhleth. Rydym ni’n helpu pobl sy’n dymuno dod i’r DU i fuddsoddi neu ddod â busnes i’r DU yn ogystal â’r rhai sy’n dymuno dod i’r DU i berfformio fel artistiaid, diddanwyr ac eraill o fewn y diwydiannau creadigol a chwaraeon.

Rydym ni’n credu bod y gwaith yr ydym yn ei wneud yn cyfoethogi’r DU gyda’r cyfraniad gwerthfawr y mae amrywiaeth yn eiddo i gymunedau a phob agwedd o fywyd y DU hyd at fusnes.

Yn ogystal, rydym ni’n aml yn cael cyfle i herio lle mae polisïau Llywodraeth yn effeithio’n negyddol ar unigolion i raddau lle bod penderfyniadau’r Llywodraeth yn cael eu gwneud yn groes i ymrwymiadau’r DU dan y Ddeddf Hawliau Dynol.

Felly, rydym ni’n aros gyda’r cleient(iaid) ac yn gweithredu ar eu drwy gydol y broses, o gynorthwyo’r cleientiaid i wneud y ceisiadau cychwynnol hyd at herio penderfyniadau yn yr Uchel Lys a’r Llys Apêl,. Rydym ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth cyflawn lle nad oes angen cyfeirio cleientiaid at unrhyw asiantaeth neu sefydliad arall fel arfer ac mae adborth yn dweud wrthym ni fod cleientiaid yn gwerthfawrogi’r ffaith ein bod yn aros gyda nhw ar hyd y daith.

Sut ddatblygodd eich gyrfa chi? Ble wnaethoch chi ddechrau?

Dechreuais fel gwirfoddolwr gyda’r CABx pan oedd fy mhlant yn ifanc yn y 1980, a hyd yn oed bryd hynny, roeddwn i’n awyddus i weithio mewn maes lle y byddwn yn gallu helpu pobl gyda phroblemau a oedd yn eu hwynebu.

Roeddwn i’n benderfynol, er mai gwirfoddolwr oeddwn i ar y pryd, na fyddai’r ffaith nad oeddwn yn cael fy nhalu yn dylanwadu arnaf i wneud unrhyw beth heblaw am fod yn broffesiynol bob amser. Gosodais safonau i mi fy hun, megis peidio â bod yn hwyr, bod yn ddibynadwy bob amser a thrin y swydd fel fy mod yn cael cyflog y Prif Weithredwr. Roeddwn i bob amser yn cadw mewn cof nad oedd bod yn wirfoddolwr di-gyflog yn rhoi unrhyw esgus i mi beidio â bod yn broffesiynol.

Ar ôl ychydig, cefais swydd gyflogedig gyda’r gwasanaeth CABx, a chefais fy hyfforddi a’m dysgu ac enillais gymwysterau mewn nifer o feysydd ac agweddau o waith cyfreithiol a gwaith arall yn ogystal â rheolaeth.

Yna, symudais ymlaen i waith cyflogedig mewn nifer o wahanol gwmnïau cyfreithiol lle cefais y cyfle i ddatblygu fy ngwybodaeth a’m sgiliau, ac ar ôl nifer o flynyddoedd yn gweithio i gwmnïau eraill, penderfynais gymryd y cam nesaf ac i weithio i mi fy hun.

Rwy’n gobeithio fy mod wedi gallu rhoi fy mhrofiad a phopeth yr wyf wedi ei ddysgu ar waith o ran pwysigrwydd creu a chynnig gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu heb unrhyw wahaniaethu, a hefyd fy mod yn darparu amgylchedd diogel i bawb sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac i staff.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i weithio yn y maes hwn?

Nes i mi weithio yn CABx Butetown a Grangetown, doeddwn i erioed wedi rhoi llawer o sylwi i waith yn ymwneud â Mewnfudo a Lloches a sut mae materion byd-eang yn effeithio’n uniongyrchol ar waith cysylltiedig. Gwelais sut mae’r gwaith hwn yn cael ei gamddeall yn aml a’r ffaith bod Mewnfudo a Lloches yn dod â llawer o amrywiaeth i’r DU ac yn creu cyfleoedd ehangach i ddeall diwylliant ac amrywiaeth ac yn aml yn annog meysydd newydd o weithgaredd economaidd.

Gwelais yn syth fod ffactorau positif yn ymwneud â pholisïau Mewnfudo a Lloches da yn llawer na’r ffactorau negyddol, naill ai’n ffactorau gwirioneddol neu dybiedig.

Beth yw eich cyflawniad mwyaf yn eich gwaith hyd yn hyn?

Rydw i wedi cyflawni llawe ar ran eraill megis dod â theuluoedd ynghyd a helpu teuluoedd a oedd yn wyneb sefyllfaoedd a allai newid eu bywyd, ac mae pob un o’r rheini’n rhoi boddhad mawr i mi, ond y llwyddiant personol yr ydw i fwyaf balch ohono yw dechrau fy musnes fy hun a gallu mynd i’r afael â llawer o’r materion a arweiniodd at wahaniaethu yn erbyn nifer o bobl, gan gynnwys fi fy hun.

Nid yw fy nghwmni’n beirniadu, nid ydym yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol, ac nid ydym yn mynnu ar or-ddilysu. Mae gennym ni systemau cadarn yn eu lle sy’n glir ac yn gryno, heb gael eu heffeithio na’u llywio gan ragfarn.

Rydym ni’n trin pobl fel y byddem ni’n dymuno cael ein trin ac rydym ni bob amser yn anelu at wneud yn well.

Mae gallu adnabod a chyflogi pobl gyda’r un meddylfryd a chymhelliant bob amser yn llwyddiant mawr.

Rydw i’n cofio hynny pan oeddwn i’n cael fy nghyflogi o fewn y Gwasanaeth CABx, roedd yr NACABx yn mynd drwy gyfnod o ail frandio ac wedi ymgysylltu gyda chwmni marchnata uchel ei broffil er mwyn cynorthwyo gyda’r gwaith.

Roedd y mudiad yn dechrau cael enw da am sicrhau bod pethau’n cael eu gwneud ac am eu hamrywiaeth diwylliannol, ac anfonwyd y cwmni marchnata i dreulio amser yn fy swyddfa yn fy arsylwi ac yn fy nghyfweld.

Roeddwn i wrth fy modd i dderbyn adborth gan NACABx i ddweud fod y Biwro wedi creu argraff dda ar y cwmni marchnata a’u bod wedi nodi ein bod ar flaen y gad o ran deal manteision amrywiaeth diwylliannol, a chafwyd sylwadau fy mod eisoes wedi cyflawni ac yn arddangos y ddelwedd newydd yr oedden nhw wedi cael eu comisiynu i helpu i’w gyflawni ar gyfer y CABx.

Am nifer o flynyddoedd wedi hynny, defnyddiwyd llun ohonof i a’r biwro yn neunyddiau marchnata’r CABx.

Beth hoffech chi ei gyflawni yn eich gwaith cyn i chi ymddeol?

Fy uchelgais yw cael fy mhenodi’n Llysgennad Ewyllys da ar ran UNICEF.

Pwy oedd eich modelau rôl ar ddechrau eich gyrfa?

Mary Seacole. Phillis Wheatley (cyn-gaethwas a Bardd). Jesse Owens. Dr. Martin Luther King. Roedd cymaint o bobl eraill, ond mae’r tri yma’n sefyll allan i mi gan eu bod wedi goresgyn rhwystrau i ‘fod yn fwy’ er mwyn gallu ‘gwneud mwy’.

Pwy oedd yn eich ysbrydoli chi pan roeddech chi’n dechrau ar eich gyrfa?

Mae nifer o fenywod wedi fy ysbrydoli dros y blynyddoedd, ac maen nhw’n sefyll allan i mi gan eu bod wedi sefyll dros eu credoau, megis Emmeline Pankhurst, Emily Davison a’r merched (boed hynny gyda’i gilydd neu fel unigolion) a sefydlodd y mudiad swffragét. Rosa Parks

Pa fenywod sy’n eich ysbrydoli chi heddiw?

Dianne Abbott. Betty Campbell. Sojourner Truth a nifer o rai eraill. Weithiau pan fyddai’n teimlo’n flinedig ac yn cael fy llethu gan y tasgau sydd ar waith, rydw i’n gwneud ymdrech benodol i ddarllen am heriau a llwyddiannau menywod nawr ac yn y gorffennol sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol ar y byd a dyna sy’n fy ysbrydoli. Menywod heddiw a ddoe sy’n fy ysbrydoli i, rhai enwog a rhai sy’n llai adnabyddus.

Ydych chi’n credu bod modelau rôl benywaidd yn cael digon o sylw, a ddylid gwneud mwy i hyrwyddo cyflawniadau menywod?

Nid wyf yn credu bod modelau rôl yn ddigon gweledol ac rwy’n teimlo y dylid gwneud mwy i hyrwyddo llwyddiannau menywod.

Rydw i’n credu bod nifer o lwyddiannau’n werth eu nodi gan gynnwys yn y cwricwlwm addysgol craidd ar lefel genedlaethol, a hefyd dylai llywodraethau datganoledig ac awdurdodau lleol, a chyrff llywodraethu chwaraeon, ddatblygu seremonïau gwobrwyo i nodi llwyddiannau menywod a dathlu menywod o’r fath fel modelau rôl.

Mae nifer o gyflawniadau arloesol gan fenywod sy’n dal i fod yn anhysbys, ac mae’n drueni colli cyfle i annog a chymell menywod a merched ifanc.

Beth yw’r rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu?

Diffyg cyfle a’r rhwystrau sy’n cael eu creu gan wahaniaethu a rhagfarn. Diffyg sylw i fenywod a merched sydd wedi cyflawni er gwaetha’r rhwystrau.

Oes yna rwystrau penodol i fenywod yn eich maes gwaith chi?

Mae’r ffigyrau’n awgrymu bod rhwystrau o fewn yr amgylchedd cyfreithiol, ond mae’r rheoleiddwyr i’w gweld fel eu bod yn gwneud ymdrech gwirioneddol i leihau’r bylchau ac i wella mynediad at y proffesiwn, a dylid cydnabod, annog a chefnogi hynny.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i chi’ch hun pe bai chi’n 10 oed eto?

Fel plentyn deng mlwydd oed, fe wnes i gyfarfod â ffrind newydd ar fy niwrnod cyntaf yn yr ysgol, ac roedd hi, fel finnau, wrth ei bodd gydag anifeiliaid. Cefais wahoddiad ganddi i’w chartref, a phan gyrhaeddais yno, dywedodd ei thad wrtha i am adael ac i beidio â dychwelyd, ac rwy’n cofio bod hynny wedi fy mrifo, ac wedi gwneud i mi deimlo’n ddryslyd a digalon ac i deimlo nad oeddwn yn ddigon da. Rwy’n cofio cwestiynu pam oedd hyn wedi digwydd, ac rwy’n cofio teimlo nad oedd neb y gallwn droi ato i siarad am hyn a neb y gallwn ei holi a fyddai’n gallu egluro ymddygiad o’r fath gan yr oedolyn yma tuag at blentyn.

Y diwrnod canlynol, gofynnais i’m ffrind pam oedd ei thad wedi fy ngwahardd o’i chartref, a dywedodd mai’r rheswm oedd am fod fy nghroen yn frown, ac nad oedd yn hoffi pobl frown.

Gofynnais pam nad oedd yn hoffi pobl frown a dywedodd nad oedd yn gwybod, ond fe wnaeth hi fy argyhoeddi ei bod hi’n hoffi pobl frown a’i bod hi’n hapus i ni barhau i fod yn ffrindiau, ond bod rhaid cadw’r cyfeillgarwch yn gyfrinach.

Am wythnosau, bûm yn ‘galw’ am fy ffrind, yn aros ar gornel e i stryd a chuddio fel nad oedd ei thad yn gallu fy ngweld.

Un noson, roeddwn i’n eistedd ar graig yn aros am fy ffrind, a daeth menyw heibio a oedd yn adnabyddus yn yr ardal leol gan ei bod yn ddigartref ac yn cael ei hystyried yn grwydryn. Edrychodd arnaf i wrth gerdded heibio a cherddodd yn ôl tuag ataf.

Safodd wrth fy ymyl a gofynnodd pam fy mod yn eistedd ar graig mewn llwybr.

Dywedais wrthi fy mod yn aros am fy ffrind a oedd yn byw yn y fan yna (gan bwyntio at y tŷ mawr) a dywedais wrthi fod rhaid i mi aros wrth y graig i guddio oddi wrth dad fy ffrind gan nad oedd yn hoff ohona i gan fy mod yn frown.

Eisteddodd y fenyw wrth fy ymyl ar unwaith ar y graig, gafaelodd yn fy llaw a rhoddodd ei braich amdanaf.

Gofynnodd i mi sut oeddwn i’n teimlo am ymddygiad y dyn, a cheisiais egluro pam y gallai fod wedi ymateb fel y gwnaeth. Dywedais wrth ei bod yn amlwg fod y teulu’n gyfoethog a’i fod yn amlwg fy mod i’n dlawd, a fy mod i’n meddwl bod hyn wedi dylanwadu ar ei ymddygiad. Yna, torrodd ar fy nhraws a dywedodd nad oeddwn wedi ateb ei chwestiwn, sef ‘sut oeddwn i’n teimlo am ymddygiad y dyn’.

Dywedais wrthi fy mod yn teimlo’n drist, bod gen i gywilydd a fy mod yn teimlo’n ddryslyd a fy mod eisiau gwybod pam oedd bod yn frown yn beth gwael.

Dywedodd wrthyf na ddylen i byth adael i neb wneud i mi deimlo nad oeddwn yn bwysig a/neu cystal â neb arall. Yna, rhoddodd tua hanner dwsin o gymariaethau a oedd yn disgrifio darnau neu dasgau bychain mewn peiriannau neu ddigwyddiadau mawr i mi nodi beth oedd bwysicaf, sef y dasg neu’r digwyddiad.

Cymerodd amser i mi ddeall na fyddai modd i’r peiriant weithio nac i’r digwyddiad ddigwydd heb yr holl ddarnau mân eraill.

Dywedodd wrthyf fod pobl eraill yn y byd yn debyg i’r dyn a bod miliynau o bobl ledled y byd wedi sefyll gyda’i gilydd fel ffrindiau ac wedi ymladd mewn rhyfeloedd ac wedi marw am yr hyn sy’n iawn a dywedodd wrthyf ddarllen am bobl megis JF Kennedy a Martin Luther King a fu’n gwneud safiad i ddiogelu hawliau dynol pawb.

Pwrpas y stori hon i mi yw bod rhywbeth positif gennych chi i’w gyfrannu bob amser, pwy bynnag ydych chi, a gallwch bob amser wneud gwahaniaeth er gwell i fywyd rhywun arall.

Byddem yn dweud yr un peth wrtha i fy hun yn ddeng mlwydd oed â’r hyn yr ydw i’n ei ddweud wrth fy wyres deng mlwydd oed, sef,

‘Bydda’r hyn yr hoffet ti ei weld’.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fenywod ifanc heddiw?

Os ydych chi angen rhywbeth – gofynnwch am help – nid ydych chi ar eich pen eich hun.
Os ydych chi eisiau cyflawni – gofynnwch am help – nid ydych chi ar eich pen eich hun.
Os ydych chi wedi cyflawni – rhowch rywbeth yn ôl – nid ydych chi ar eich pen eich hun.