5 ffordd o hyrwyddo cydraddoldeb a chefnogi amrywiaeth yng Nghymru

8th March 2019

Cam gweithredu 1: Deallwch fraint a defnyddiwch eich sefyllfa i gefnogi’r rheiny nad yw eu lleisiau yn cael eu clywed

Braint yw pan fyddwch chi’n ystyried nad yw rhywbeth yn broblem am nad yw’n effeithio arnoch chi’n bersonol. Budd neu fantais sydd gan rai pobl, ond nid eraill. Mae’n golygu y gallai eich bywyd, heb unrhyw newid arall yn eich amgylchiadau, fod yn llawer anoddach heb eich braint.

Mae angen i bobl freintiedig fod yn ymwybodol o hynny a deall hynny; deall bod pobl yn wynebu rhwystrau a gwahaniaethu, yn syml oherwydd eu rhyw, lliw eu croen, eu cyfeiriadedd rhywiol a llawer o resymau eraill.

Mae’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn enghraifft y byddwn yn ei defnyddio’n aml o sut mae menywod dan anfantais mewn gweithleoedd oherwydd eu rhyw, ond mae anghydraddoldeb a gwahaniaethu yn y gweithle ac mewn cymdeithas yn ehangach yn ymestyn ymhell y tu hwnt i hyn.

Y mwyaf breintiedig ydych chi, y mwyaf tebygol yw hi i chi gael gwrandawiad a’ch cymryd o ddifrif, felly os ydych chi’n ddigon ffodus i fod yn y sefyllfa hon, dylech ddefnyddio’r llwyfan sydd gennych i ymladd dros hawliau pobl llai breintiedig sydd wedi’u gwthio i’r cyrion. Cofiwch – nid yw mwy o hawliau i eraill yn golygu llai o hawliau i chi!

Darllenwch ein hadroddiad Cyflwr y Genedl i ddeall yn llawn y sefyllfa bresennol yng Nghymru:

Cam gweithredu 2: Ymgysylltwch â gwleidyddiaeth a sicrhau bod eich barn yn cael ei chynrychioli

Mae gan Aelodau’r Cynulliad bwerau i lddylanwadu ar y rhan fwyaf o feysydd bywyd yng Nghymru, gan gynnwys addysg, iechyd, tai a mwy. Mae pob person yng Nghymru yn cael ei gynrychioli gan bum Aelod Cynulliad (AC).

Mae etholwyr yn rhydd i ymgysylltu ag unrhyw un o’u pum Aelod Cynulliad ac mae gan bawb yr hawl i gysylltu â’u AC lleol i drafod materion sy’n effeithio arnynt.

Gallwch weld pwy yw’ch ACau lleol a sut i gysylltu â nhw yma

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018, ymrwymodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd, Carwyn Jones, i wneud Llywodraeth Cymru yn llywodraeth ffeministaidd ac i wneud Cymru y wlad fwyaf diogel yn y byd ar gyfer menywod. Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n dechrau adolygu cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru, i bennu beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn dda, beth allai wneud yn well a beth ellir ei ddysgu o bob cwr o’r byd.

Mae Chwarae Teg wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar yr adolygiad hwn, ac rydym am glywed gan fenywod am y materion sydd bwysicaf iddyn nhw fel menywod sy’n byw yng Nghymru. Beth sy’n gweithio’n dda? Beth ellid ei wella? Pa rwystrau sy’n wynebu menywod o ddydd i ddydd?

Cam gweithredu 3: Unwch! Mewn undeb mae nerth

Ymunwch ag undeb, fforwm neu rwydwaith i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, a’ch bod yn ychwanegu eich llais chi at y rhai sy’n llai abl i ddefnyddio’u lleisiau. Mae mudiadau fel yr ymgyrch #MeToo yn rhoi llais cryf i fenywod ac yn eu helpu i wneud safiad a pheri newid cymdeithasol go iawn.

Yn y gwaith, pan fydd grŵp o weithwyr yn gweithredu a siarad gyda’i gilydd, mae’n rhaid i’r cyflogwr wrando arnynt. Gallai hyn fod trwy rywbeth fel Fforwm Gweithwyr, rhwydwaith menywod neu Undeb Llafur. Mae Undebau yn gwthio rheolwyr i wneud gweithleoedd yn fwy cynhwysol i fenywod, gweithwyr LGBT+, gweithwyr croenddu ac o leiafrifoedd ethnig, gweithwyr hŷn a gweithwyr anabl. Os oes undeb llafur cryf ar waith, mae menywod yn llawer llai tebygol o wynebu problemau yn y gwaith tra’n feichiog, ar gyfnod mamolaeth neu pan fyddant yn dychwelyd i’r gwaith ac mae Undebau hefyd wedi gwneud ymchwil blaenllaw ar bethau fel y menopos yn y gweithle sy’n gallu lleihau stigma.

I archwilio eich opsiynau, ewch i

tuc.org.uk/join-union

Cam gweithredu 4: Codwch eich llais yn erbyn rhagfarn a gwahaniaethu, a byddwch yn llysgennad dros newid

Gall fod yn demtasiwn i resymoli ymddygiad sy’n niweidiol ac yn hen ffasiwn, i droi llygad dall, neu gredu y bydd y sefyllfa yn datrys ei hun, yn hytrach na mynd i’r afael â’r ymddygiad. Mae hyn yn beryglus. Os oes rhywun yn ymddwyn yn fwriadol fel hyn heb ei herio, gall fagu hyder a gwaethygu. Os nad yw rhywun yn ymwybodol y gall ei farn neu ei ymddygiad fod yn rhagfarnllyd, gall eich herio chi roi’r cyfle iddo neu iddi ddysgu cyn i’r broblem waethygu.

Rhagfarn neu wahaniaethu yw pan fo gweithredoedd person yn cael effaith niweidiol ddiangen ar un neu ragor o unigolion â nodwedd benodol.

Mae’n bwysig hybu manteision amrywiaeth, a sut all barn a safbwyntiau gwahanol gyfoethogi sefydliadau. Os yw aelod newydd o’r tîm yn dechrau effeithio ar y status quo drwy fynd ati’n wahanol, neu gwestiynu’r ffordd mae pethau wastad wedi cael eu gwneud, dylid croesawu hyn yn hytrach nag ymateb yn amddiffynnol. Hyd yn oed os nad ydych yn cytuno â’u ffordd newydd o wneud pethau, mae’n gyfle pwysig i ystyried y rhesymau dros eich dull cyfredol.

Ar lefel sefydliadol, mae amrywiaeth a chynhwysiant yn allweddol i annog gwell perfformiad gan dîm ac i wella’ch gallu i gyflogi, a gall hyd yn oed effeithio’n gadarnhaol ar eich elw net. Mae Chwarae Teg yn gweithio gyda busnesau i hybu recriwtio, cadw staff a rheoli perfformiad yn effeithiol.

Dysgwch fwy am ein rhaglen fusnes:

Cam gweithredu 5: Cefnogwch ymgyrchwyr eraill

Gallai cefnogi eraill wrth iddyn nhw wneud safiad dros gydraddoldeb ac amrywiaeth fod yn un o’r pethau mwyaf pwerus y gallwch chi ei wneud. Gall un clic ar y cyfryngau cymdeithasol ddod â thrydariad, erthygl neu fideo i sylw cynulleidfa ehangach mewn eiliad, a gall gynnig cyfleoedd newydd i’r gynulleidfa a’r sefydliad, o ran cyllid, rhwydweithiau a llawer mwy.

Gall camu y tu hwnt i ddisgwyliadau cymdeithasol fod yn hynod anodd, ond mae annog pobl i sefyll yn gadarn, neu i fynd am yr hyn maen nhw eisiau, yn mynd yn bell. Nid pawb sy’n gallu cymryd rhan mewn ymgyrch, ond mae cefnogi trwy gyfrannu neu hyrwyddo eraill ar y cyfryngau cymdeithasol yn gallu gwneud gwahaniaeth.

Mae’n bwysig ein bod yn dathlu, cydnabod a chefnogi’r menywod sy’n ymdrechu i wneud gwahaniaeth. Yn Chwarae Teg, rydym yn cynnal seremoni wobrwyo flynyddol i ddathlu’r menywod anhygoel yng Nghymru, sy’n sefyll dros eu hawliau a hawliau menywod eraill.